Back
Pobl ifanc â phrofiad o ofal yn adrodd wrth bwyllgor allweddol beth sydd ei angen arnyn nhw i ffynnu

23/9/2022

Mae plant a phobl ifanc yng Nghaerdydd sy'n derbyn gofal wedi rhoi eu barn ar yr hyn y mae'n rhaid i Gyngor Caerdydd a sefydliadau eraill ei wneud i'w helpu i ffynnu.

Yn ei adroddiad blynyddol, i'w gyflwyno i Gabinet y Cyngor ddydd Mercher nesaf, 28 Medi, amlinellodd y Pwyllgor Cynghori Rhianta Corfforaethol (PCRhC) - sy'n cynghori'r cyngor ar ran y rhai sy'n gadael gofal a phlant sy'n derbyn gofal - ei holl gyflawniadau allweddol dros y flwyddyn ddiwethaf.

Yn eu plith roedd gwaith grŵp Bright Sparks, sy'n rhoi cyfle i blant a phobl ifanc sydd â phrofiad o'r system ofal ddod yn gyfranogwyr gweithgar wrth siapio polisi a gwasanaethau o fewn y cyngor.

Drwy'r ymgysylltu hwn, nododd Strategaeth Rhianta Corfforaethol PCRhC bum blaenoriaeth pobl ifanc:

  • Gwella lles emosiynol ac iechyd corfforol
  • Gwneud cysylltiadau gwell a pherthynas well
  • Cartref cyfforddus, diogel a sefydlog tra'u bod mewn gofal ac ar ôl hynny
  • Cyflawniad addysgol, cyflogaeth a hyfforddiant a
  • Dathlu ein plant a'n pobl ifanc

Dywedodd y Cynghorydd Sarah Merry, Aelod Cabinet dros Addysg y Cyngor a chadeirydd PCRhC, yn yr adroddiad: "Uchafbwynt arbennig i mi oedd cymryd rhan mewn sesiwn ymgysylltu gyda rhai o aelodau'r grŵp Bright Sparks.

"Roedd yn wych clywed eu barn, eu dyheadau a'u profiadau yn uniongyrchol er mwyn helpu'r pwyllgor i gael dealltwriaeth o'r materion sy'n effeithio arnyn nhw.

"Bydd y safbwyntiau hyn yn helpu i lywio'r agenda ar gyfer y pwyllgor ac yn helpu i gynllunio a datblygu prosiectau a chefnogaeth ar gyfer y dyfodol."

Roedd yr adroddiad hefyd yn cwmpasu ac yn canmol y gwaith hollbwysig a wnaed gan y gwasanaeth ymgynghorwyr personol i gefnogi pobl ifanc sy'n gadael gofal yn ystod y pandemig. Er gwaethaf cyfyngiadau'r llywodraeth, roedd y gwasanaeth wedi defnyddio ffonau, Skype a thestun i gadw cysylltiad gyda phobl ifanc i feithrin perthynas.

Yn ogystal, mae ap wedi'i ddatblygu i helpu plant a phobl ifanc i fynegi eu hunain yn rhydd a chyfathrebu â'u gweithiwr cymdeithasol a gweithwyr proffesiynol eraill. Mae'r ap 'Mind of my Own' wedi cael ei weithredu ar draws Gwasanaethau Plant yng Nghaerdydd ac yn caniatáu i ddefnyddwyr rannu eu barn trwy ddatganiad sy'n cael ei fonitro gan y gweithiwr cymdeithasol.

Ymhlith y datblygiadau eraill, roedd:

  • Gwasanaethau mabwysiadu- dywedodd yr adroddiad bod cynnydd o flwyddyn i flwyddyn wedi bod yn nifer yr ymholiadau mabwysiadwyr a chymeradwyaeth mabwysiadu
  • Porth Person Ifanc- pan fydd person ifanc yn barod i fyw yn annibynnol mae'n ofynnol iddo fynychu sesiwn hyfforddi am reoli tenantiaeth, gan gynnwys cysylltu cyfleustodau, gwneud cais am fudd-daliadau a chofrestru gyda meddyg teulu
  • Gwasanaeth Cyngor i Mewn i Waith- tîm o bum mentor ieuenctid yn cysylltu â Gwasanaethau Plant a Gwasanaethau Ieuenctid er mwyn sicrhau bod yr holl bobl ifanc sydd â phrofiad o ofal yn cael y cyfle i gyrraedd eu potensial a chael eu cefnogi i fyd addysg a gwaith.

Wrth groesawu'r adroddiad blynyddol, dywedodd y Cynghorydd Ash Lister, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol Plant: "Mae effeithiau'r pandemig wedi golygu cyfnod heriol i PCRhC a phlant a phobl ifanc sy'n derbyn gofal yng Nghaerdydd ond mae'r adroddiad hwn yn dangos bod gwaith gwych yn cael ei wneud a bod gwasanaethau'n dychwelyd i'r arfer.

"Mae PCRhC yn rhan allweddol o wasanaethau'r Cyngor i bobl ifanc ac mae menter Bright Sparks yn benodol yn dangos pa mor ddifrifol y mae'r Cyngor yn cymryd ei gyfrifoldebau yn y maes hwn a pha mor ymrwymedig ydym ni i wneud Caerdydd yn Ddinas Sy'n Dda i Blant fel yr argymhellwyd gan UNICEF UK."