15.09.22
Mae mwy o
fanylion wedi'u rhyddhau am ymweliad y Brenin a’r Frenhines Gydweddog i Landaf,
y Senedd a Chastell Caerdydd yfory, dydd Gwener, 16 Medi.
Dyma fydd ymweliad cyntaf y Cwpl Brenhinol â Chymru yn dilyn marwolaeth Ei Mawrhydi'r Frenhines Elizabeth II.
Gwahoddir y cyhoedd i groesawu’r Brenin a’r Frenhines Gydweddog wrth iddynt gyrraedd y castell, a bydd tua 2,000 o bobl yn gallu ymgynnull y tu mewn i'r muriau i'w gweld yn cymryd rhan yn eu digwyddiad olaf o'r diwrnod. Mae disgwyl torfeydd mawr yn y Senedd hefyd lle bydd y ddau’n cyfarch aelodau o'r cyhoedd, ac yn Llandaf.
Nid yw union amseru'n cael eu rhyddhau, ond bydd gatiau blaen y castell yn agor yn y bore, cyn i fand y Cymry Brenhinol berfformio wrth y bont godi.
Gwahoddir y cyhoedd hefyd i groesawu'r Parti Brenhinol wrth iddo agosáu at Gastell Caerdydd a ffarwelio wrth iddynt ymadael.
Bydd mynediad i dir y castell ar sail y cyntaf i'r felin a gofynnir i bobl osgoi dod â bagiau mawr ac anhanfodol y bydd angen eu chwilio ac a allai arafu mynediad.
Os ydych yn gobeithio cael mynediad i Dir y Castell, byddwch cystal â dim ond dod â phethau hanfodol gyda chi ee: pwrs/waled, allweddi, meddyginiaeth ac ati. Dim picnic, dim cadeiriau nac ymbarelau (mae rhagolygon y tywydd yn iawn). Gan y gallai amseroedd aros ar y tir fod yn hir, bydd hawl gan bobl i ddod â diodydd a brechdanau/byrbrydau bach (dim poteli gwydr na chaniau gan gynnwys poteli persawr). Po fwyaf y mae pobl yn dod gyda nhw, yr hiraf y bydd yn ei gymryd i chwilio, gan gyfyngu ar ein gallu i gael cymaint o bobl ag y gallwn ni i'r tir.
Bydd aelodau'r cyhoedd yn gallu gadael y tir ar unrhyw adeg, ond os ydynt am ddychwelyd, bydd angen iddynt ailymuno â'r ciw chwilio diogelwch ac efallai na fyddant yn adennill mynediad. Rydym yn cynghori pobl i ddisgwyl ciwiau hir iawn o amser cynnar ac yn anffodus nid ydym yn disgwyl y bydd pawb a hoffai ddod i dir y castell yn gallu cael mynediad.
Bydd pwyntiau gwylio ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn a sgwteri symudedd ar gael y tu mewn i dir y castell; tu allan i'r castell; yn y Senedd; ac yn Llandaf ar y Lawnt. Bydd stiwardiaid wrth law i roi cyngor. Os yn mynychu Llandaf, nodwch nad oes lle parcio yn yr ardal gyfagos. I fynd i ardal wylio ar y Lawnt gollynger yn y gyffordd yn Heol-y-Pavin a chysylltwch â stiward. I gael mynediad i ardal wylio i weld y Parti Brenhinol yn cyrraedd a gadael ewch i’r gyffordd oddi ar Heol Fair a Heol Fawr a chysylltwch â stiward. Yn y castell ewch at y gât flaen a siarad â’r stiwardiaid fydd yn eich cynghori; ar ffordd nesáu’r Senedd drwy Ganolfan Mileniwm Cymru a siarad gyda stiwardiaid wrth y ffens. Mae nifer y llefydd gwylio o fewn yr ardaloedd gwylio yn gyfyngedig, mae disgwyl torfeydd a gallai fod amseroedd aros hir iawn i bawb yn y tri lleoliad.
Mae disgwyl i'r cwpl Brenhinol gyrraedd Castell Caerdydd yn y prynhawn lle byddant yn cyfarfod cynrychiolwyr o'r Noddwyr Brenhinol ac aelodau o Gymunedau Ffydd Cymru yn Nhŷ’r Castell.
Bydd y Brenin hefyd yn cynnal cynulleidfa breifat gyda'r Prif Weinidog, Mark Drakeford, a Llywydd y Senedd, Elin Jones. Os yw amser yn caniatáu disgwylir y bydd y Brenin a'r Frenhines Gydweddog yn cyfarch aelodau o'r cyhoedd ar dir y castell, cyn ymadael.
Cyn ymweld â'r Castell, bydd y Brenin a'r Frenhines Gydweddog yn ymuno â chynulleidfa wadd mewn gwasanaeth boreol o Weddi a Myfyrio ar Fywyd y Frenhines yn Eglwys Gadeiriol Llandaf.
Yn dilyn y gwasanaeth, bydd y cwpl Brenhinol yn cyrraedd y Senedd yn y prynhawn i dderbyn Cynnig o Gydymdeimlad gan y Prif Weinidog. Wrth adael y Senedd, gobaith Eu Mawrhydi fydd cael cyfarch rhai aelodau o'r cyhoedd cyn iddyn nhw adael am Gastell Caerdydd.
Disgwylir y bydd llawer o'r cyhoedd am ymgasglu i weld a chroesawu'r Parti Brenhinol yn cyrraedd Llandaf, Bae Caerdydd ac yn y Castell a bwriad y cynlluniau sydd ar waith yw hwyluso hyn gymaint â phosib. Bydd ymweliad yr Osgordd Frenhinol â Chaerdydd hefyd yn cael ei ddarlledu i bobl gartref.
Gall hygyrchedd a chyfleoedd gwylio a pharcio fod yn gyfyngedig, yn enwedig i ddigwyddiad Llandaf lle mae sawl ffordd eisoes wedi eu cau a chyfyngiadau parcio wedi'u sefydlu, ac mae’r lle sydd o amgylch yr Eglwys Gadeiriol ei hun hefyd yn gyfyngedig.Bydd nifer fawr o ffyrdd ar gau hefyd ar draws y ddinas yfory er mwyn hwyluso'r ymweliad. Am fanylion llawn ar y rhain, a gwybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus cliciwch y ddolen hon https://www.cardiffnewsroom.co.uk/releases/c25/29849.html
Mae Cyngor Caerdydd yn cynghori unrhyw un sy'n awyddus i fynychu unrhyw un o'r tri lleoliad i gynllunio ymlaen llaw ac i ystyried cerdded neu ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Bydd parcio yn arbennig o anodd yn Llandaf ar gyfer yr ymweliad.
Mae gwaith yn mynd rhagddo gyda Llywodraeth Cymru a Heddlu De Cymru i reoli unrhyw dagfeydd, gyda nifer sylweddol o stiwardiaid wedi'u drafftio ynghyd â swyddogion heddlu er mwyn helpu i gadw'r cyhoedd yn ddiogel.
Cynlluniwch ymlaen llaw, gwisgwch ar gyfer y tywydd, dewch â digon o ddŵr, paratowch ar gyfer cyfnodau hir o sefyll, disgwyliwch dorfeydd a byddwch yn ystyriol o'r rhai o'ch cwmpas a gyda chi.
Mae Llyfrau Cydymdeimlad yn parhau ar agor, rhwng 9am a 5pm bob dydd, yn Neuadd y Ddinas yng Nghaerdydd. Bydd y llyfrau'n parhau ar agor tan 5pm Ddydd Llun, 19 Medi, diwrnod Angladd Gwladol Ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II.
Mae
croeso i aelodau'r cyhoedd adael blodeuegau ar yr ardaloedd lawnt ar naill ochr
prif fynedfa Neuadd y Ddinas rhwng 9am a 5pm bob dydd. Gofynnir i'r cyhoedd
dynnu unrhyw ddeunydd lapio plastig ar y blodau maen nhw'n eu gosod yn Neuadd y
Ddinas, a’u cludo adref.