Back
Cyfarfod y Cyngor Llawn i drafod Cynnig o Gydymdeimlad

Cynhelir cyfarfod arbennig o'r Cyngor Llawn yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd am 5pm heno (13 Medi) i drafod Cynnig o Gydymdeimlad yn dilyn marwolaeth Ei Mawrhydi'r Frenhines.

Dyma'r Cynnig, a gynigiwyd gan Arweinydd y Cyngor, y Cyng. Huw Thomas ac a eiliwyd gan Arweinydd yr Wrthblaid, y Cynghorydd Adrian Robson:

Mynega'r Cyngor hwn ei dristwch mawr ar farwolaeth Ei Mawrhydi'r Frenhines ac mae'n cynnig ei gydymdeimlad diffuant i'w Fawrhydi'r Brenin ac aelodau eraill o'r Teulu Brenhinol.  Rydym yn cydnabod ymrwymiad parhaus Ei Mawrhydi i wasanaeth a dyletswydd gyhoeddus, gan gynnwys ei chefnogaeth i lawer o elusennau a sefydliadau Cymreig, a'i chysylltiad gydol oes â Chymru a'i phobl.

Mae'r cyfarfod, a fydd yn agor gyda munud o dawelwch, ar gael i'w ffrydio'n fyw yma: https://cardiff.public-i.tv/core/portal/webcast_interactive/700859