Back
YR ARGLWYDD FAER A’R ARWEINYDD YN TALU TEYRNGED

 

 

8/9/22

Mae'r
Gwir Anrhydeddus Arglwydd Faer Caerdyddac Arweinydd Cyngor Caerdydd wedi talu teyrnged i'w Mawrhydi'r Frenhines Elisabeth II yn dilyn y cyhoeddiad ynglŷn â'i marwolaeth heddiw.

 

Dywedodd y Cynghorydd Graham Hinchey, yr Arglwydd Faer:"Mae'r Frenhines Elisabeth II wedi bod yn gyson ym mywyd y genedl Brydeinig a'r Gymanwlad dros y saith degawd diwethaf.Bu'n teyrnasu'n hwy nag unrhyw frenin neu frenhines o'i blaen gan ddangos ymroddiad, doethineb a dyhead diymdroi i wasanaethu'r cyhoedd.

 

"Cysegrodd y Frenhines ei holl fywydfel oedolyn yng ngwasanaeth y wlad hon.  Mae hi wedi bod yn angor ar adegau o ryfel, aflonyddwch cymdeithasol a gwleidyddol a thrwy gydol y pandemig diweddar.  Mae hi wedi bod yn ymgynghorydd dibynadwy i ddwsinau o Brif Weinidogion ers dros saith deg o flynyddoedd. 

 

"Roedd gan y Frenhines barch ybobl yng Nghaerdydd, ar draws y DU a thramor, a bydd colled ar ei hôl. Gyda thristwch mawr y bydd ein dinas nawr yn ymuno â gweddill y wlad i alaru diwedd ei hoes a'i theyrnasiad hynod."

 

Dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd:"Roedd parch mawr tuag at y Frenhines ledled y byd am ei hymrwymiad i'w dyletswyddau a'i hurddas.Rydym wedi cael y fraint o groesawu ei Mawrhydi i Gaerdydd ar sawl achlysur yn ystod ei theyrnasiad hanesyddol ac i'r rhan fwyaf ohonom, hi yw'r unig frenin neu frenhines rydym ni wedi eu hadnabod. Mae hwn yn ddiwrnod trist iawn i'r genedl."