Back
Gardd blodau gwyllt ‘N’ad Ti’n Angof’ newydd ym Mynwent y Gogledd

Mae ffarwelio â ffrindiau, perthnasau ac anwyliaid bob amser yn anodd, ond oherwydd y pandemig, pan oedd cyfyngiad ar nifer y bobl a oedd cael mynd i angladdau, roedd hi'n anoddach fyth. 

I helpu pobl trwy'r broses alaru a darparu ardal heddychlon a llonydd i gofio a myfyrio, mae gardd blodau gwyllt newydd yn cael ei sefydlu ym Mynwent y Gogledd.

Bydd yr hadau cyntaf yn yr ardd 'N’ad Ti’n Angof' yn cael eu plannu ar ôl cynnal dau wasanaeth coffa Covid arbennig yng Nghapel Wenallt ym Mynwent Draenen Pen-y-graig am 6.30pm ddydd Mercher 21 Medi a dydd Mercher 26 Hydref 2022.

Bydd yr ardd 'N’ad Ti’n Angof' yn datblygu dros amser wrth i ffrindiau a theulu gasglu amlenni wedi'u dylunio'n arbennig sy'n cynnwys hadau blodau gwyllt gan y tîm Gwasanaethau Profedigaeth.  Gall pobl wedyn ysgrifennu eu meddyliau, neu neges i'w hanwyliaid, ar yr amlen.

Yna gellir rhoi'r amlenni hadau mewn blwch post arbennig, wedi'i wneud o ddeunyddiau wedi'u hailgylchu, lle byddant yn cael eu casglu a'u plannu – yn barod i dyfu'n ardd liwgar, llawn natur.

Dywedodd yr Aelod Cabinet sy'n gyfrifol am Wasanaethau Profedigaeth, y Cynghorydd Dan De'Ath:   "Mae'r gwasanaethau coffa Covid arbennig hyn yn rhoi cyfle pwysig iawn, i unrhyw un a gollodd rywun agos yn ystod y pandemig, i ddod i gofio a myfyrio.  Dros amser, bydd y negeseuon maen nhw'n eu hysgrifennu, a'r hadau blodau gwyllt a blannwyd, yn blodeuo'n hafan go iawn, nid yn unig ar gyfer natur, ond i unrhyw un sy'n chwilio am le heddychlon a llonydd i gofio am eu hanwyliaid."