22.08.22
Gyda’r tywydd poeth yn cyrraedd y 90au uchel, gall
fod yn anodd annog plant a phobl ifanc i wneud mwy nag ymlacio yn y cysgod yn
ystod gwyliau hir yr ysgol.
Ond mae Haf o Hwyl anhygoel Caerdydd – cyfres o ddigwyddiadau wedi'u trefnu sy'n cael eu hyrwyddo gan Gyngor y Ddinas – yn parhau i ddarparu ystod enfawr o weithgareddau ar draws y ddinas, a'r cyfan wedi'u cynllunio i ddiddori pobl ifanc, a’u cadw’n brysur ac wedi’u hysgogi.
Ac mae'n bwysig bod pawb yn teimlo wedi’u cynnwys, felly cynhaliodd y Cyngor a'i bartneriaid, gan gynnwys y Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol, ddigwyddiad arbennig yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ar gyfer grwpiau o blant a phobl ifanc sydd heb gynrychiolaeth ddigonol.
Daeth dros 200 o blant ac oedolion i'r digwyddiad yr wythnos diwethaf - partneriaeth rhwng tîm Dinas sy'n Dda i Blant a Gwasanaethau Plant - gan gynnwys pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal, ffoaduriaid a cheiswyr lloches, aelodau o'r gymuned LHDTQ+, gofalwyr ifanc, y rheiny ag anabledd ac anghenion dysgu ychwanegol.
Ymhlith y gweithgareddau ar gynnig oedd:
Dywedodd y Cynghorydd Sarah Merry, Aelod Cabinet dros Addysg y Cyngor a chadeirydd y pwyllgor cynghori rhianta corfforaethol: "Roedd hwn yn ddigwyddiad gwych oedd yn nodweddu popeth sy'n dda am Haf o Hwyl – creu digwyddiadau a gweithgareddau hwyliog, hygyrch i ystod amrywiol o blant."
Ac ychwanegodd y Cynghorydd Ash Lister, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Plant: "I ddod yn Ddinas wirioneddol Dda i Blant mae'n bwysig gwneud yn siŵr bod pob plentyn yn gallu cael mynediad at ein gweithgareddau, felly rwy'n hynod ddiolchgar i'n staff a'n partneriaid am gynnal cyfres mor wych o ddigwyddiadau."
Mae gan Gaerdydd uchelgais i ddod yn Ddinas sy'n Dda i Blant a gydnabyddir yn rhyngwladol, fel yr argymhellwyd gan Bwyllgor y DU ar gyfer UNICEF. Dechreuodd rhaglen waith yn 2018 i wella'r ffordd mae lleisiau plant a phobl yn cael eu clywed yn y ddinas.
Gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru, mae Haf o Hwyl yn rhan o Adferiad sy'n Dda i Blant yng Nghaerdydd, a ddechreuodd ar ôl y pandemig.
I gael mwy o wybodaeth am gynllun tair blynedd y Cyngor i wella canlyniadau i bobl ifanc, dilynwch y ddolen hon https://tinyurl.com/vyz7mcwu