Roedd acrobatiaid, perfformwyr gwifren uchel, ac aelodau o'r gymuned leol yn llenwi Parc y Bragdy yn Adamsdown ddydd Sul wrth i'r ardal chwarae, sydd wedi'i hadnewyddu'n llwyr fel rhan o raglen fuddsoddi barhaus o £3.2 miliwn mewn parciau a chwarae ardaloedd ar draws y ddinas, agor yn swyddogol i'r cyhoedd.
Mae'r ardal chwarae, sydd wedi ei hestyn i gynnwys ardal o laswellt ar gyfer chwarae diogel, anffurfiol, yn un o dair yn Adamsdown a fydd yn cael eu creu o'r newydd neu eu hadnewyddu eleni.
Mae'r gwaith uwchraddio hefyd yn cynnwys offer chwarae, seddi, rheiliau, ac arwynebau diogelwch newydd. Fel rhan o'r gwaith mae ardal gemau aml-ddefnydd newydd hefyd wedi'i gosod yn y parc.
Cynhaliwyd yr agoriad swyddogol, gan gynghorwyr ward lleol, ar ddydd Sul 28 Awst cyn i'r digwyddiad cymunedol cyntaf gael ei gynnal yn y parc ers cwblhau'r gwaith adnewyddu. Cafodd y digwyddiad, a oedd yn cynnwys perfformiad gwifren uchel, acrobatiaid, gweithdai rhedeg am ddim a chwmni drymio o Rwanda, Ingoma Nyshya, ei gynhyrchu gan No Fit State Circus ar y cyd â'r gymuned leol, fel rhan o Ŵyl Stryd Clifton sy'n dathlu Adamsdown a'i chymuned.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau, y Cynghorydd Jennifer Burke-Davies: "Mae'r ardal chwarae ar ei newydd wedd ym Mharc y Bragdy, ynghyd â'r ardal chwarae newydd yng Nghaeau Anderson a agorodd ym mis Mai, eisoes yn rhoi llawer o wên ar lawer o wynebau plant a gobeithio y bydd plant hyd yn oed yn fwy hapus yn Adamsdown unwaith y bydd cyfleuster newydd sbon Caeau'r Fynwent yn agor.
"Mae plant yn elwa'n fawr o allu chwarae'n ddiogel yn yr awyr agored a dyna pam rydym yn buddsoddi mewn mannau chwarae, nid yn unig yn Adamsdown ond ar draws Caerdydd gyfan."
Yng Nghaeau Anderson, sy'n cynnwys arwynebau diogelwch sgwâr lliwgar yn ddull gwaith celf Piet Mondrian, crewyd ardal chwarae newydd fwy o faint yn lle'r ardal chwarae/cyfarpar celf anffurfiol a oedd eisoes yno. Mae'r ardal chwarae newydd yn cwmpasu'r coed a'r mannau glaswelltog presennol ar gyfer chwarae anffurfiol yn ogystal ag offer chwarae newydd sydd wedi'u dylunio i apelio at blant iau ac annog chwarae gyda'u rhieni/gwarcheidwaid/brodyr a chwiorydd hŷn.
Mae ardal chwarae Caeau'r Fynwent, sydd ar fin cael ei chwblhau, yn gyfleuster newydd sbon wedi'i hamgáu gan ffens sy'n cynnwys siglenni, ffrâm ddringo a siglwyr, yn ogystal â seddi ar gyfer oedolion.
Mae pedwerydd parc yn Adamsdown, sef Gerddi Howard, hefyd yn y broses o gael ei uwchraddio, gyda disgwyl ar hyn o bryd i'r gwaith gael ei gwblhau yn fuan. Ar ôl cwblhau'r gwaith hwn, bydd y man cyhoeddus mawr hwn yn cynnwys ardal eistedd ganolog wedi'i chodi gyda chynwysyddion planhigion gwenithfaen, palmentydd mân-dyllog, ymylon gwenithfaen a dur, a seddi dur gwrthstaen. Mae mynedfa newydd ar Moira Terrace hefyd yn cael ei chreu ac mae'r waliau a'r rheiliau terfyn yn cael eu hadnewyddu.