Back
Partneriaid ledled y ddinas yn cynnig darpariaeth iechyd a lles i fwy na 1500 o blant yn ystod gwyliau haf yr ysgol


26/8/2022

Mae mwy na 30 o bartneriaid ar draws dinas Caerdydd yn rhoi cyfleoedd i blant ysgol gymryd rhan mewn chwaraeon, dysgu sgiliau newydd a chymdeithasu fel rhan o raglenBwyd a HwylCaerdydd sydd wedi ennill sawl gwobr.

Mae'r fenter, sydd bellach yn ei seithfed flwyddyn, yn helpu i leddfu'r pwysau ariannol ar lawer o deuluoedd ar draws y ddinas yn ystod gwyliau'r ysgol trwy ddarparu prydau bwyd maethlon iach ynghyd â rhaglen gyffrous o ddarpariaeth addysgol, sgiliau a chwaraeon a sesiynau mewn maeth a ddarperir gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Yn ystod y saith mlynedd diwethaf, mae Cyngor Caerdydd wedi sefydlu gwaith partneriaeth llwyddiannus gyda llu o sefydliadau ar draws y ddinas sy'n chwarae rhan allweddol wrth gefnogiBwyd a Hwyl. Mae eu cyfranogiad yn hanfodol wrth hyrwyddo iechyd a lles cadarnhaol ymhlith y plant hynny sy'n elwa fwyaf o'r cynllun.

"Gan roi mynediad i weithgarwch corfforol, prydau iach a sesiynau maeth a bwyd, mae'r fenter yn cynnig amrywiaeth eang o weithgareddau na fydd rhai plant fel arfer yn cael cyfle i gymryd rhan ynddynt. Yn ogystal, mae'n helpu i leddfu'r baich ariannol a ddaw yn sgil gwyliau chwe wythnos yr ysgol,  yn enwedig ar adeg pan fo'r argyfwng costau byw presennol yn cael cryn effaith ar nifer o deuluoedd.

"Heb yr amser, yr ymrwymiad a'r brwdfrydedd a geir gan ein partneriaid, ni fyddai'r cynllun mor llwyddiannus ag y mae wedi bod a hoffwn ddiolch i bob un ohonynt am eu cefnogaeth."

Yn newydd ar gyfer eleni ac mewn ymgais i gefnogi'r defnydd cynyddol o gynnyrch a dyfir yn lleol mewn prydau ysgol, maeBwyd a Hwylyn cymryd rhan yng Nghynllun Peilot Llysiau Bwyd Caerdydd. Gan weithio gyda'i gilydd, mae tyfwyr lleol, Bwyd Caerdydd, Cyngor Caerdydd a chyflenwr prydau ysgol y ddinas, Castell Howell, wedi bod yn archwilio sut y gellid ymgorffori mwy o gynnyrch lleol mewn prydau ysgol trwy ymgysylltu â phlant a'r gadwyn gyflenwi. Mae'r fenter yn cefnogi ymrwymiad Caerdydd i gyflenwi dau ddogn o lysiau ymhob cinio ysgol.

Mae uchafbwyntiau'r haf hyd yn hyn yn cynnwys disgybl o Ysgol Gynradd Pentre-baen yn dysgu reidio ei feic am y tro cyntaf ar y diwrnod cyntaf; staff Castell Howell, Authentic Curries a World Foods yn dod i goginio mewn dwy ysgol gynradd; a Panasonic yn darparu dau beiriant gwneud bara i bob ysgolBwyd a Hwyler mwyn i'r disgyblion gael pobi eu bara eu hunain.

Mae'r rhaglen helaeth o weithgareddau wedi cynnwys creu roced ac arbrofion gwyddoniaeth gan Techniquest, plannu llysiau gan Grow Cardiff, hela pryfed gan Gweithredu yng Nghaerau a Threlái (ACE) a hela am drysor a gwersi hanes difyr gan Amgueddfa Caerdydd.

Chwaraeon Caerdydd, Clwb Criced Morgannwg, Sefydliad Dinas Caerdydd, GolfStarzWales, Pêl-fas RBI Cymru, Golff Cymru a Tribal Basketball yw rhai o'r sefydliadau sydd wedi darparu sesiynau chwaraeon. Yn ogystal, mae dawns a drama wedi cael eu cyflwyno gan Jukebox Collective a'r cast o The Lion King yng Nghanolfan Mileniwm Cymru.

Mae uchafbwyntiau eraill wedi cynnwys sesiynau gan yr Ymddiriedolaeth Cŵn, Prifysgol Caerdydd, Resolve it, Llyfrgelloedd Caerdydd, Gwasanaeth Chwarae Plant Cyngor Caerdydd, Wates, Network Rail a'r Llynges Frenhinol. Mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru wedi bod yn darparu sesiynau mewn cymorth cyntaf, CPR a diogelwch tân ac mae Heddlu De Cymru wedi addysgu pobl ifanc am ddiogelwch ar y we, gwneud olion bysedd, a cheffylau heddlu.

Hoffai Cyngor Caerdydd ddiolch i'r holl bartneriaid ar draws y ddinas sydd wedi cefnogi Bwyd a Hwyl eleni.

Cafodd y cynllunBwyd a Hwylei ddatblygu gan dîm Cyfoethogi Gwyliau'r Haf Caerdydd yn 2015 ac fe'i mabwysiadwyd gan Lywodraeth Cymru a'i gyflwyno i weddill Cymru yn ystod y ddwy flynedd ddilynol. Mae wedi cael ei ddefnyddio fel enghraifft o Arfer Gorau ac mae wedi arwain at gydnabod mai Cymru sydd â'r ddarpariaeth gwyliau fwyaf datblygedig yn y DU. Mae'r cynllun yn cefnogi uchelgais Caerdydd i fod yn un o Ddinasoedd sy'n Dda i Blant UNICEF y DU sy'n rhoi plant wrth wraidd y ddinas.

I gael rhagor o wybodaeth ac i gadw lle, ewch i: Rhaglen Cyfoethogi Gwyliau'r Ysgol, Bwyd a Hwyl | Bwyd Caerdydd