Dyma'ch diweddariad dydd Gwener, sy'n cwmpasu: canlyniadau Safon Uwch Caerdydd ddoe; Gŵyl Haf o Hwyl lwyddiannus wedi diddanu miloedd; ac elusen yr Arglwydd Faer.
Canlyniadau Safon Uwch Caerdydd yn uwch na chyfartaledd Cymru ar gyfer 2022
Mae disgyblion ar draws Caerdydd wedi cael eu canlyniadau Lefel A neu Safon Uwch. Eleni, fe wnaeth dysgwyr gwblhau arholiadau ac asesiadau ffurfiol am y tro cyntaf ers 2019 oherwydd y pandemig, ac mae CBAC wedi rhoi ystyriaeth i'r tarfu a brofodd dysgwyr wrth benderfynu ar ffiniau graddau.
Yn seiliedig ar y canlyniadau cychwynnol a gyhoeddwyd ddoe, mae 48.9 y cant o ganlyniadau Safon Uwch 2022 wedi eu graddio o A* i A, o'i gymharu â chyfartaledd Cymru sef 40.9 y cant, a ffigwr Caerdydd o 30.7 y cant yn 2019.
Mae canran y ceisiadau Safon Uwch sydd wedi arwain at raddau A* i C wedi codi i 88.4 y cant, cynnydd o 9.3 pwynt canran o 79.1 y cant yn 2019, ac yn uwch na ffigur Cymru o 85.3 y cant.
Ar gyfer y graddau A* i E, 98.1 y cant yw'r ffigur ar gyfer 2022, o gymharu â 98.0 y cant ar draws Cymru - ac yn fras yn gydradd â chanran Caerdydd yn 2019 o 98.2 y cant.
Y darlun cenedlaethol ar draws Cymru yw bod y canlyniadau wedi bod yn uwch nag yn 2019, pan safwyd arholiadau ffurfiol ddiwethaf, ac yn is nag yn 2020 a 2021 pan gafodd graddau eu pennu gan ysgolion a cholegau.
Dwedodd y Cynghorydd Sarah Merry, Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau Cyngor Caerdydd: "Llongyfarchiadau i'r holl ddisgyblion a gasglodd eu canlyniadau. Eleni gwelwyd arholiadau ac asesiadau ffurfiol yn dychwelyd am y tro cyntaf ers 2019, oherwydd y pandemig, a dylid canmol disgyblion am eu penderfyniad, eu dygnwch a'r modd y bu'n rhaid iddynt addasu dros y ddwy flynedd ddiwethaf.
"Er nad oes modd cymharu'n uniongyrchol â'r blynyddoedd blaenorol, rwy'n falch o weld bod perfformiad ar draws y ddinas eleni i fyny ar yr hyn a welwyd yn 2019, y tro diwethaf i arholiadau Lefel A gael eu cynnal.
"Bydd y garfan hon yn cael ei chydnabod am lwyddo er gwaethaf yr heriau a'r tarfu a achoswyd gan y pandemig ac mae'n galonogol clywed am straeon llwyddiant o bob cwr o'r ddinas. Wrth iddyn nhw ddechrau ar bennod newydd yn eu bywydau, hoffwn ddymuno pob lwc i'n myfyrwyr boed nhw'n mynd yn eu blaenau i brifysgol, cyflogaeth neu i hyfforddiant."
Gwelodd Caerdydd dros 3680 o gofrestriadau ar gyfer Lefel A a mwy na 4230 o gofrestriadau ar gyfer Lefel A/S, gyda straeon llwyddiant yn dod o bob rhan o'r ddinas.
Darllenwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/29702.html
Gŵyl Haf o Hwyl Caerdydd sy'n Dda i Blant yn diddanu miloedd
Daeth miloedd o ymwelwyr i Lawnt Neuadd y Ddinas ar gyfer yr ŵyl Haf o Hwyl yn ystod pythefnos cyntaf gwyliau'r ysgol.
Gan ddenu mwy na 14,400 o ymwelwyr, y ffair deuluol hon, sy'n bythefnos o hyd, yw canolbwynt rhaglen ddigwyddiadau'r haf Caerdydd sy'n Dda i Blant eleni. Roedd y prif safle'n cynnig gweithgareddau i blant a phobl ifanc Caerdydd yn seiliedig ar amrywiaeth o weithdai, perfformiadau theatr, acrobateg, gemau enfawr, chwaraeon, gweithgareddau blynyddoedd cynnar, gosodiad celf cymunedol, chwarae a hwyl i'r teulu.
Yn ogystal â bod yn ŵyl gwbl gynhwysol, roedd y sesiwn gyntaf bob dydd Iau wedi'i theilwra'n benodol i blant a phobl ifanc niwroamrywiol a'u teuluoedd.
Gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru, nid yw Haf o Hwyl Cyngor Caerdydd drosodd eto a bydd yn parhau i gynnig rhaglen llawn gweithgareddau mewn cymunedau ledled y ddinas am weddill y gwyliau ysgol.
Gellir cadw lle ar y gweithgareddau cymunedol am ddim a chost-isel drwy ymweld â:
https://www.childfriendlycardiff.co.uk/cy/haf_o_hwyl/
Mae Haf o Hwyl yn rhan o Adferiad sy'n Dda i Blant Caerdydd, a ddechreuodd ar ôl y pandemig. Mae Caerdydd sy'n Dda i Blant yn cyd-fynd yn agos ag uchelgais y ddinas i ddod yn Ddinas sy'n Dda i Blant a gydnabyddir yn rhyngwladol, fel yr argymhellwyd gan Bwyllgor y DU ar gyfer UNICEF.
Dysgwch fwy am Caerdydd sy'n Dda i Blant yma:
https://www.childfriendlycardiff.co.uk/cy/
https://studio.youtube.com/video/ZVRi-G2Bios/edit
#CaerdyddSynDdaIBlant
Mae elusen yr Arglwydd Faer yn mynd rhwng y cŵn (a'r brain)!
Ar ôl treulio'r 10 mlynedd ddiwethaf yn chwarae rhan hanfodol yn helpu Cŵn Tywys Cymru i hyfforddi eu tîm o arwr-gŵn, roedd yr Arglwydd Faer Caerdydd, Graham Hinchey a'i wraig Anne yn gwybod yn iawn pa elusen ddylai fod yn ffocws i'w blwyddyn o godi arian.
"Rhyngom ni, rydym wedi maethu tua 26 o gŵn tywys yn y cyfnod hwnnw ac rydyn ni'n gwybod pa mor hanfodol ydyn nhw i helpu pobl sy'n colli eu golwg i adennill eu hyder a chwarae rhan weithredol mewn cymdeithas," meddai'r Cynghorydd Hinchey, a gymerodd ei rôl swyddogol yn dilyn yr etholiadau cyngor ym mis Mai.
"Felly, fel cefnogwyr brwd o'r gwaith y mae Cŵn Tywys Cymru yn ei wneud, feddylion ni ddim dwywaith cyn gwneud yr elusen yn elusen swyddogol ar gyfer fy mlwyddyn yn y rôl."
Fel cwpl sy'n maethu cŵn tywys, mae ef ac Anne yn croesawu i'w cartref gŵn sydd wedi cael eu barnu'n addas ar gyfer yr hyfforddiant dwys sydd ei angen cyn eu trosglwyddo i berchennog newydd. Eu gwaith nhw, dros bedwar neu bum mis yn y broses, yw rhoi cartref cariadus iddyn nhw, mynd â nhw i'w sesiynau hyfforddi a chwarae eu rhan eu hunain yn eu helpu i ddod i arfer â'r lleoliadau a'r sefyllfaoedd y byddant yn dod ar eu traws pan fydd eu gwaith hanfodol yn dechrau.
Darllenwch fwy yma: