Back
Mae elusen yr Arglwydd Faer yn mynd rhwng y cŵn (a’r brain)!

19.08.22
Ar ôl treulio'r 10 mlynedd ddiwethaf yn chwarae rhan hanfodol yn helpu Cŵn Tywys Cymru i hyfforddi eu tîm o arwr-gŵn, roedd yr Arglwydd Faer Caerdydd, Graham Hinchey a'i wraig Anne yn gwybod yn iawn pa elusen ddylai fod yn ffocws i’w blwyddyn o godi arian.

"Rhyngom ni, rydym wedi maethu tua 26 o gŵn tywys yn y cyfnod hwnnw ac rydyn ni'n gwybod pa mor hanfodol ydyn nhw i helpu pobl sy’n colli eu golwg i adennill eu hyder a chwarae rhan weithredol mewn cymdeithas," meddai'r Cynghorydd Hinchey, a gymerodd ei rôl swyddogol yn dilyn yr etholiadau cyngor ym mis Mai.

"Felly, fel cefnogwyr brwd o’r gwaith y mae Cŵn Tywys Cymru yn ei wneud, feddylion ni ddim dwywaith cyn gwneud yr elusen yn elusen swyddogol ar gyfer fy mlwyddyn yn y rôl."

Fel cwpl sy’n maethu cŵn tywys, mae ef ac Anne yn croesawu i’w cartref gŵn sydd wedi cael eu barnu'n addas ar gyfer yr hyfforddiant dwys sydd ei angen cyn eu trosglwyddo i berchennog newydd. Eu gwaith nhw, dros bedwar neu bum mis yn y broses, yw rhoi cartref cariadus iddyn nhw, mynd â nhw i'w sesiynau hyfforddi a chwarae eu rhan eu hunain yn eu helpu i ddod i arfer â'r lleoliadau a'r sefyllfaoedd y byddant yn dod ar eu traws pan fydd eu gwaith hanfodol yn dechrau.

"Mae'n gallu costio hyd at £55,000 i hyfforddi ci tywys a gall cwpl maeth fel ni arbed arian i'r elusen ar ffioedd cynel, ond mae’n werth chweil i ni hefyd gan ein bod ni’n dwlu eu cael nhw o gwmpas y tŷ ac yn rhannu ein bywydau," meddai Anne, y cydlynydd elusennau.

Eu targed yn ystod y flwyddyn faerol hon yw codi cymaint o arian â phosib i'r elusen.  "Gall un person gyda nam ar y golwg gael cymaint ag wyth o gŵn yn ystod ei fywyd," meddai. "Mae rhai pobl yn meddwl eu bod yn cael eu hariannu gan y Llywodraeth ond mae’r holl gost bron yn cael ei hariannu gan roddion elusennol.

"Ein bwriad yw gwneud cyfraniad mawr i'r gwaith sy’n cael ei wneud gan Cŵn Tywys Cymru ond bydd y ci cyntaf y gobeithiwn ei ariannu yn cael ei alw’n ‘Diffy' er anrhydedd i holl bobl y 'Diff' a wnaeth hyn yn bosib," meddai.

"Mae rhywun yn colli ei olwg bob chwe munud yn y DU," ychwanegodd, "felly mae yna restr aros bob amser ac, yn aml, plant a phobl ifanc yn eu harddegau sy’n wynebu’r angen mwyaf - yn y DU, mae 26,000 o bobl dan 18 oed yn colli eu golwg ar hyn o bryd.”

Er mwyn helpu'r ymdrechion codi arian, mae'r Cynghorydd Hinchey a'i wraig wedi recriwtio dau 'gi rhoi' sydd wedi'u lleoli yn yr Hyb a’r Llyfrgell Ganolog yn yr Ais ac yng Nghastell Caerdydd ac maen nhw hefyd wedi creu tudalen JustGiving: https://www.justgiving.com/campaign/lordmayorofcardiff22-23

"Mae gennym rai digwyddiadau swyddogol wedi'u cynllunio eleni a fydd yn helpu i godi ymwybyddiaeth o’r achos," meddai, "ond gyda Covid y tu ôl i ni mae pobl yn mynd allan eto, felly os ydych chi, er enghraifft, yn cael diwrnod dim gwisg ysgol, diwrnod dillad anffurfiol yn y gwaith neu daith gerdded noddedig, ystyriwch wneud cyfraniad. Mae hwn yn gyfle gwych i gynnwys eich cymuned leol a chefnogi achos gwych.  Mae ci tywys wir yn newid bywyd rhywun sy’n colli ei olwg.”

Dywedodd Kerry Bevan, pennaeth gwasanaeth Cŵn Tywys Cymru:  "Rydym wrth ein boddau fod Graham ac Anne wedi enwi Cŵn Tywys fel eu dewis elusen yn ystod y flwyddyn faerol hon. Bydd y berthynas hon yn codi ymwybyddiaeth o wasanaethau Cŵn Tywys i gefnogi'r rhai sy'n byw gyda nam ar eu golwg yng Nghaerdydd a ledled Cymru.  Edrychwn ymlaen at weithio gyda'r Arglwydd Faer a'r Arglwydd Faeres newydd a'u helpu i gyflawni eu nodau."