Back
Diweddariad gan Gyngor Caerdydd: 16 Awst 2022

Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf, sy'n cynnwys: cymorth i benderfynu beth sydd nesaf i bobl ifanc; a gwaith ar fflatiau cyngor arloesol i bobl hŷn yn cyrraedd carreg filltir.

 

Cymorth i benderfynu beth sydd nesaf i bobl ifanc

Mae cyfoeth o wybodaeth am addysg, cyflogaeth, hyfforddiant a chyfleoedd eraill ar gael mewn un lle ar gyfer pobl ifanc yng Nghaerdydd sy'n ystyried eu camau nesaf cyn diwrnod canlyniadau'r arholiadau yr wythnos hon.

Mae Beth Nesaf? yn llwyfan ar-lein i bobl ifanc 16 i 24 oed sy'n dwyn gwybodaeth ddefnyddiol ynghyd mewn un lle a fydd yn helpu pobl ifanc i benderfynu ar eu camau nesaf, gan ei gwneud yn gyflymach ac yn haws dod o hyd i wybodaeth am yr opsiynau sydd ar gael i'r dyfodo

Cafodd y llwyfan ei ddatblygu a'i lansio'r llynedd gan Addewid Caerdydd, sef menter gan y Cyngor sy'n dwyn ynghyd y sectorau cyhoeddus a phreifat yn ogystal â'r trydydd sector i weithio mewn partneriaeth ag ysgolion a darparwyr addysg i gysylltu plant a phobl ifanc ag amrywiaeth eang o gyfleoedd sydd ar gael ym myd gwaith. 

Mae'r wefan yn cynnwys gwybodaeth am fynd i'r coleg neu'r brifysgol, paratoi ar gyfer gwaith, interniaeth, hyfforddeiaeth a chyfleoedd gwirfoddoli, swyddi a phrentisiaethau a hyd yn oed gwybodaeth am ddechrau busnes newydd.

Ewch i'r llwyfan yn:
www.caerdydd.gov.uk/bethnesaf.

Darllenwch fwy  yma: 
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/29670.html

Mae animeiddiad byr am lwyfan Beth Nesaf ar gael i'w wylio yma:
https://youtu.be/xncskRbUm2Q.  

 

Gwaith ar fflatiau cyngor arloesol i bobl hŷn yn cyrraedd carreg filltir

Mae un o'r datblygiadau tai mwyaf arloesol yng Nghaerdydd ar fin cael ei gwblhau ar safle hen Ysgol Uwchradd y Dwyrain yn Nhredelerch.

Ar safle uchel gyda golygfeydd trawiadol dros Fôr Hafren i'r de a Bannau Brycheiniog i'r gogledd, bydd datblygiad newydd Llwyn Aethnen yn creu dros 200 o gartrefi carbon isel mewn camau cyn haf 2024.

Wedi'i adeiladu drwy'r rhaglen Cartrefi Caerdydd, partneriaeth ddatblygu rhwng Cyngor Caerdydd a Wates Residential, mae'r cynllun wedi elwa o fwy na £4m o gyllid Rhaglen Tai Arloesol (RhTA) Llywodraeth Cymru a fydd yn helpu i greu 65 o gartrefi cyngor newydd, gan gynnwys cymysgedd o 21 o dai dwy, tair a phedair ystafell wely.

Ond elfen fwyaf arwyddocaol y safle yw Tŷ Addison, bloc pedwar llawr sy'n cynnwys 44 o fflatiau un a dwy ystafell wely a gynlluniwyd i fodloni anghenion pobl hŷn a'r cyntaf o 10 o ddatblygiadau 'Byw yn y Gymuned' i'w hadeiladu ledled y ddinas fel rhan o Strategaeth Tai Pobl Hŷn Cyngor Caerdydd.

Yr wythnos hon, cynhaliodd y cyngor a'r datblygwyr seremoni 'gosod y garreg gopa' i nodi cwblhau pwynt uchaf y bloc. Y disgwyl yw y bydd y fflatiau'n cael eu cwblhau ac yn barod i denantiaid fis Gorffennaf nesaf.

Darllenwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/29668.html