15/08/22
Mae cyfoeth o wybodaeth am addysg, cyflogaeth, hyfforddiant a chyfleoedd eraill ar gael mewn un lle ar gyfer pobl ifanc yng Nghaerdydd sy'n ystyried eu camau nesaf cyn diwrnod canlyniadau'r arholiadau yr wythnos hon.
Mae Beth Nesaf? yn llwyfan ar-lein i bobl ifanc 16 i 24 oed sy'n dwyn gwybodaeth ddefnyddiol ynghyd mewn un lle a fydd yn helpu pobl ifanc i benderfynu ar eu camau nesaf, gan ei gwneud yn gyflymach ac yn haws dod o hyd i wybodaeth am yr opsiynau sydd ar gael i'r dyfodol.
Cafodd y llwyfan ei ddatblygu a'i lansio'r llynedd gan Addewid Caerdydd, sef menter gan y Cyngor sy'n dwyn ynghyd ysectorau cyhoeddus a phreifat yn ogystal â'r trydydd sector i weithio mewn partneriaeth ag ysgolion a darparwyr addysg i gysylltu plant a phobl ifanc ag amrywiaeth eang o gyfleoedd sydd ar gael ymmydgwaith.
Mae'r wefan yn cynnwys gwybodaeth am fynd i'r coleg neu'r brifysgol, paratoi ar gyfer gwaith, interniaeth, hyfforddeiaeth a chyfleoedd gwirfoddoli, swyddi a phrentisiaethau a hyd yn oed gwybodaeth am ddechrau busnes newydd.
Dywedodd y Cynghorydd Sarah Merry, yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau: "Mae'n bosibl y bydd llawer o bobl ifanc sy'n derbyn eu canlyniadau yn ddiweddarach yr wythnos hon yn ansicr ynghylch yr hyn y maen am ei wneud gyda'u dyfodol neu ba lwybr maen nhweisiau ei gymryd ac mae'n gallu bod yn anodd gwybod yn union ble i fynd i gael yr wybodaeth iawn i allu gwneud penderfyniad gwybodus am beth i'w wneud nesaf.
"Dyna lle mae llwyfan Beth Nesaf? yn dod i‘r adwy, gan gyfeirio pobl ifanc i'r hyn sydd ar gael ac efallai rhoi opsiynau iddyn nhw ystyried nad oedden nhw erioed wedi meddwl amdanynt o'r blaen.
"Mae'n adnodd gwerthfawr iawn y byddwn yn annog unrhyw un o'n disgyblion sy'n gadael yr ysgol - y myfyrwyr sy'n cael eu canlyniadau Safon Uwch a'r rhai a fydd yn casglu eu canlyniadau TGAU yr wythnos nesaf - er mwyn cymryd golwg arno. "Wrth gwrs nid yn unig i'r rhai sy'n gadael yr ysgol ac yn casglu canlyniadau eu harholiadau y mae'r llwyfan - mae'n ased gwych trwy'r amser i unrhyw bobl ifanc sy'n chwilio am ysbrydoliaeth am gyfleoedd ar gyfer eu dyfodol."
Bellach mae Addewid Caerdydd yn gweithio mewn partneriaeth â mwy na 300 o fusnesau a sefydliadau gan gynnwys Great Point Studios, PwC, Willmott Dixon, Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro, a Rio Architects.
Gan rannu ei chyngor i bobl ifanc sy'n derbyn eu canlyniadau'r mis hwn, dywedodd Louise O'Shea, Prif Swyddog Gweithredol Confused.com: "Wrth i chi adael yr ysgol, mae'r dudalen yn troi, mae pennod newydd yn cael ei hysgrifennu a chi sy'n dal y pin. Efallai bod pwysau sefyll arholiadau ar ôl peidio â'u gwneud cyhyd yn gwneud i chi boeni am eich graddau. Ac mae'n ddealladwy teimlo y bydd y rhain yn llywio'ch camau nesaf. Mae'r graddau rydych chi'n eu derbyn yn bwysig wrth benderfynu ar eich cyfleoedd yn y dyfodol ond y peth pwysicaf yw eich agwedd.
"Ydych chi'n barod i dorchi llewys, bod yn agored, yn hyblyg ac yn rhagweithiol, cymryd rhan a gwneud yn fawr o'ch holl ddoniau, y rhai academaidd a'r rhai nad ydynt? Mae'n bwysig bod yn rhagweithiol a chwilio am gyfleoedd i gysylltu â chwmnïau. Dwi'n cofio ymchwilio i ddiwydiant a chwmni ro'n i eisiau gweithio ynddo, gan alw heibio i'w swyddfa'n ddirybudd. Er mawr syndod i mi, penderfynon nhw gael sgwrs â mi ac yn fwy anhygoel byth, fe wnaethon nhw adael i mi fod yn intern gyda nhw am weddill yr haf! Dywedon nhw, 'Aethoch chi'r filltir ychwanegol i greu argraff arnon ni ac fe lwyddodd.' Dewch o hyd i'ch ffordd eich hun i fynd y filltir ychwanegol. Bydd yn talu ar ei ganfed! Mae cyflogwyr yn awyddus iawn i glywed gan bobl ifanc dalentog sydd eisiau gwneud eich ffordd yn y byd. Rhowch eich hun mas ‘na a dangos eich bod chi'n barod."
Mae animeiddiad byr am lwyfan Beth Nesaf ar gael i'w wylio ymahttps://youtu.be/xncskRbUm2Q. Ewch i'r llwyfan yn www.caerdydd.gov.uk/bethnesaf.