Back
Diweddariad gan Gyngor Caerdydd: 12 Awst 2022

Croeso i'n newyddion diweddaraf, yn cynnwys: cymerwch ofal ychwanegol yn y gwres llethol; mae Gwasanaeth Gwaed Cymru yn apelio am roddwyr; a llwyddiant yng Ngemau'r Gymanwlad i Owain o Gaerdydd.

 

Cymerwch Ofal Ychwanegol Yn Y Gwres Llethol

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddiRhybudd Oren ar gyfer Gwres Eithafolsy'n effeithio ar Gaerdydd a De-ddwyrain Cymru ar ddydd Iau, Gwener, Sadwrn a Sul.

Mae'n bwysig gwybod symptomau trawiad gwres. Ffoniwch 999 os credwch fod rhywun yn cael trawiad gwres, gan ei fod yn argyfwng meddygol. Os ydych yn pryderu am unrhyw symptomau rydych chi, neu rywun rydych yn ei adnabod yn eu profi, cysylltwch â'ch meddyg teulu neu Galw Iechyd Cymru ar 0845 4647.

Symptomau trawiad gwres

  • Teimlo'n sâl ar ôl 30 munud o orffwys mewn lle oer ac yfed digon o ddŵr
  • Ddim yn chwysu, hyd yn oed wrth deimlo'n rhy boeth
  • Tymheredd uchel o 40C neu uwch
  • Anadlu'n gyflym neu brinder anadl
  • Teimlo'n ddryslyd
  • Ffit (neu drawiad)
  • Anymwybodol
  • Ddim yn ymatebol

Mae rhagor o wybodaeth am wres eithafol ar gael einIechyd Cyhoeddus Cymru.

 

Mae Gwasanaeth Gwaed Cymru yn apelio am roddwyr

Nod Gwaed Cymru yw cael o leiaf 7 diwrnod o bob math o waed i helpu cleifion mewn angen ledled Cymru.

Allwch chi helpu drwy roi gwaed yng Nghaerdydd?

Trefnwch apwyntiad heddiw - cliciwch yma:

https://wbs.wales/CyngorCaerdydd

Ddim yn gwybod eich math o waed?

Dim problem, byddan nhw'n gwneud hynny i chi pan fyddwch chi'n rhoi gwaed.

 

Llwyddiant yng Ngemau'r Gymanwlad i Owain o Gaerdydd

Hoffai Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd groesawu adref Owain Harris Allan ar ôl iddo gynrychioli Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad Birmingham 2022 a llwyddo i gyrraedd y rowndiau cynderfynol yn y gamp Pwysau Bantam.

Mae Owain o Lanedern yn defnyddio Clwb Ieuenctid Powerhouse yn rheolaidd a dechreuodd focsio yn ifanc pan awgrymodd ei fam bod angen iddo losgi rhywfaint o egni.

Mae cyn-ddisgybl Ysgol Uwchradd yr Eglwys yng Nghymru Teilo Sant wedi mynd ymlaen i ennill statws Pencampwr Cymru chwe waith, medal arian Prydain dair gwaith, medal efydd Bocsio Belgrade a medal arian yn y Twrnamaint Grand Prix.

Ymunodd â Bocsio Cymru yn llawn amser dim ond pum mis yn ôl, yn dilyn perfformiadau trawiadol iawn ar y rhaglen ddatblygu.

Hoffem loyngfarch Owain gan edrych ymlaen at ddyfodol y llanc ifanc talentog hwn.

I gael rhagor o wybodaeth am Wasanaeth Ieuenctid Caerdydd ewch i:

www.cardiffyouthservices.wales/cy/