Dyma ddiweddariad sy'n cynnwys: digwyddiad lles a chyfranogiad i bobl ifanc 11 - 25 oed ym Mharc Bute yfory; cau ffyrdd a chyngor ar deithio i'r digwyddiadau yng Nghaerdydd ar y Sul; a disgyblion yn cael eu "gwerthfawrogi'n fawr" mewn canolfan addysg.
Gweithdy lles a chyfranogiad dros dro i bobl ifanc 11-25 oed
Bydd gweithdy awyr agored dros dro ar gyfer lles a chyfranogiad yn cael ei gynnal i bobl ifanc rhwng 11 a 25 oed ym Mharc Bute ar 10 Awst.
Daw'r gweithdy yn sgil ymgynghoriad Timau Cynnwys Actif a gafodd ei gynnal y llynedd ymhlith pobl ifanc.
Bydd y gweithdy dros dro yn ymdrin â lles, cyfranogiad, ymwybyddiaeth o hawliau plant, llais pobl ifanc, ac ymgysylltu â sesiynau ymwybyddiaeth o hawliau ac ymgynghori â phobl ifanc.
Cynhelir y gweithdy hwn yn cael ei gynnal ar Lawnt y Berllan ym Mharc Bute rhwng 12pm a 4pm ar 10 Awst. Gall pobl ifanc gymryd rhan mewn gweithgareddau creadigol hwyl gan gynnwys y celfyddydau, blychau iCare, gweithgareddau iechyd emosiynol, gweithdai lles amgylcheddol, celf a chrefft lles, sgiliau'r syrcas, meithrin tîm, gemau cyfranogi rhyngweithiol a chwarae. Does dim angen cadw lle.
Dyma'r partneriaid a fydd yn rhan o'r digwyddiad:
Caiff y digwyddiad hwn ei gynorthwyo gan wirfoddolwyr ifanc gan roi cyfle i bobl ifanc ddatblygu sgiliau arwain a chymryd rhan weithredol yn eu cymuned.
Mae'r tîm Cynnwys Actif a'i bartneriaid yn edrych ymlaen at eich gweld yno.
I gael gwybod mwy am Caerdydd sy'n Dda i Blant ewch i:
https://www.caerdyddsynddaiblant.co.uk
Cau ffyrdd a chyngor teithio ar gyfer digwyddiadau yng Nghaerdydd ar ddydd Sadwrn, 13 Awst
Bydd Speedway yn cael ei gynnal yn Stadiwm Principality; Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd yn herio Birmingham City yn Stadiwm Dinas Caerdydd a'r Tân Cymreig yn chwarae Birmingham Phoenix fel rhan o ‘Gyfres Cant' y Menywod a'r Dynion ar Faes Criced Gerddi Sophia.
Darllenwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/29629.html
Disgyblion yn cael eu gwerthfawrogi yng nghanolfan addysg Caerdydd
Mae adroddiad ar safonau yn Uned Cyfeirio Disgyblion (UCD) Bryn Y Deryn yng Nghaerdydd wedi darganfod bod staff wedi creu "amgylchedd dysgu braf llawn anogaeth" lle mae disgyblion yn teimlo eu bod "yn cael eu gwerthfawrogi'n fawr".
Mae'r adroddiad, gan Estyn - yr Arolygiaeth Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru - yn nodi nifer o ganfyddiadau cadarnhaol ynglŷn â'r UCD, sy'n darparu gwersi academaidd, galwedigaethol a datblygiad personol i 74 o ddisgyblion rhwng 14 ac 18 oed.
Mae gan yr holl ddisgyblion anghenion dysgu ychwanegol ond nodwyd yng nghrynodeb yr adroddiad fod y staff yn gwybod eu hanghenion "yn arbennig o dda" a'u bod yn meddu ar y sgiliau i'w cefnogi i wneud cynnydd, yn academaidd, yn gymdeithasol ac yn emosiynol. "O ganlyniad, mae llawer o ddisgyblion yn gwneud cynnydd da pan maen nhw'n ymuno â'r UCD," meddai.
Ymhlith y gweithgareddau a gynigir i ddisgyblion ym Mryn y Deryn mae celf a dylunio, astudiaethau cyfrifiadurol, coginio, llythrennedd emosiynol, meithrin perthynas a hyfforddiant camddefnyddio sylweddau ac mae'r cymwysterau a dyfarniadau sydd ar gael yn cynnwys Lefelau Mynediad, BTECs, Gwobrau Lefel 1 a 2, TGAU a Safon UG, Astudiaethau Galwedigaethol BTEC, dyfarniad Arweinyddiaeth Chwaraeon a chyfranogiad yng nghynllun Gwobr Dug Caeredin.
"Mae disgyblion yn cael amrywiaeth o gyfleoedd yn yr UCD," meddai'r adroddiad, "ac mae'r profiadau hyn yn caniatáu i ddisgyblion ennill cymwysterau sy'n cefnogi eu camau nesaf yn dda."
Ymhlith y pethau cadarnhaol eraill sy'n cael eu hamlinellu yn yr adroddiad mae:
Darllenwch fwy yma: