Back
Cau ffyrdd a chyngor teithio ar gyfer digwyddiadau yng Nghaerdydd ar ddydd Sadwrn, 13 Awst

08/08/22


Bydd Speedway yn cael ei gynnal yn Stadiwm Principality; Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd yn herio Birmingham City yn Stadiwm Dinas Caerdydd a'r Tân Cymreig yn chwarae Birmingham Phoenix fel rhan o ‘Gyfres Cant' y Menywod a'r Dynion ar Faes Criced Gerddi Sophia

Cau ffyrdd

Bydd ffyrdd ar gau ar ddiwedd gêm Dinas Caerdydd rhwng 1.45pm a 3pm ar Sloper Road, o Heol Bessemer i Heol Lecwydd ac ar Heol Lecwydd rhwng Sloper Road a Stryd Wellington.

Mae'r gêm griced gyntaf yng Ngerddi Sophia yn dechrau am 2.30pm, gyda'r ail gêm yn cychwyn am 6 pm. I hwyluso'r digwyddiadau hyn, bydd Clos Sophia ar gau rhwng 4pm a 10pm.

Gyda gatiau Stadiwm Principality yn agor am 3.30pm ar gyfer Speedway a'r digwyddiad yn dod i ben am 8.30pm, bydd Heol y Porth ar gau'n gyfan gwbl rhwng 3pm a 9.30pm.

Rheolir mynediad i'r Ganolfan Ddinesig drwy'r dydd. Caniateir mynediad yn unig i barcio ar gyfer y digwyddiadau; Mynediad i Barth Cefnogwyr Speedway; rhywfaint o barcio cyfyngedig ar gyfer cymudwyr; llwytho a mynediad i feysydd parcio preifat.

Ymhlith y ffyrdd bydd hyn yn effeithio arnynt mae Rhodfa'r Brenin Edward VII, Rhodfa'r Amgueddfa, Heol Neuadd y Ddinas, Heol y Coleg a Heol Gerddi'r Orsedd.

Trenau

Bydd tarfu eang ar y rhwydwaith trenau ar ddydd Sadwrn 13 Awst oherwydd gweithredu diwydiannol gan undeb y gyrwyr trenau ASLEF.

Nid yw Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn rhan o'r anghydfod ag ASLEF, ond mae disgwyl i'w gwasanaethau fod yn eithriadol o brysur gan nad yw Great Western Railways (GWR), West Midlands Trains, Avanti West Coast a Cross-country yn gweithredu unrhyw wasanaethau o gwbl ar ddydd Sadwrn 13 Awst.

 

Mae TrC yn cynghori pobl i deithio ar y rheilffordd ddim ond os yw eusiwrnai yn hanfodolar Brif Lein De Cymru rhwngCaerfyrddin a Chasnewydda rhwngCaerdydd a Lydney. 

 

Cynlluniwch ymlaen llaw a gwiriwch yrAmserlennillawn (ar gael o 9 Awst) ar wefan TrC a chynllunwyr teithiau ar-lein cyn i chi deithio. Lle mae gwasanaethau ar gael, efallai y byddan nhw'n destun newidiadau byr-rybudd. 

Parcio ar Ddiwrnod Digwyddiadau yn y Ganolfan Ddinesig

Cyrraedd yno: Gadewch wrth Gyffordd 32 yr M4, ewch tua'r de ar yr A470 i ganol y ddinas a dilyn yr arwyddion i'r ganolfan ddinesig.

Cost: £15 yn daladwy ar y diwrnod yn y maes parcio - mae taliadau cerdyn hefyd ar gael nawr.

Amseroedd parcio: Bydd y maes parcio yn agor am 8am ac yn cau am hanner nos. 

Parcio ar ddiwrnod y Digwyddiad yn y Ganolfan Ddinesig (Bysus)

Mae £25 yn daladwy ar y diwrnod (arian parod yn unig) 

Amseroedd parcio: Bydd y maes parcio yn agor am 8am ac yn cau am hanner nos. 

Cyfleusterau Parcio a Theithio ar gyfer y criced a Speedway

Bydd y cyfleuster parcio a theithio ar gyfer y digwyddiadau hyn ym maes parcio Neuadd y Sir ym Mae Caerdydd, gyda'r man casglu a gollwng ar Sgwâr Callaghan

Mae'r cyfleuster yn hawdd i'w gyrraedd o'r M4, drwy adael wrth gyffordd 33, a theithio i lawr y ffordd gyswllt (A4232).

Bydd bysus yn rhedeg i ac o ganol y ddinas bob 10 munud.  Cost: £10 yn daladwy ar y diwrnod - mae taliadau cerdyn ar gael nawr hefyd.

Mae'r maes parcio'n agor am 9.00am a bydd y bws cyntaf yn gadael am 9.30am.  Bydd y bws olaf o ganol y ddinas am 10pm a bydd y maes parcio'n cau am 10.30pm.  

Parcio ar ddiwrnod y Digwyddiad yng Ngerddi Sophia

Gerddi Sophia (ceir)

(Tua 0.5 milltir o gerdded i Stadiwm Principality, Gât 2).

Parcio ar gyfer y Digwyddiad yng Ngerddi Sophia

Cyrraedd yno: Gadewch wrth gyffordd 32 yr M4.

Cost: £15 yn daladwy ar y diwrnod yn y maes parcio - mae taliadau cerdyn ar gael nawr hefyd.

Amseroedd parcio: Bydd y maes parcio yn agor am 8.00am ac yn cau am hanner nos.

Sylwer: Gadewir pob cerbyd ar y safle ar risg y perchennog. Ni fydd Cyngor Caerdydd yn gyfrifol am unrhyw ladrad neu ddifrod i geir nac i eiddo personol. Cyflwynir dirwy i unrhyw gerbydau sy'n cael eu gadael yn y maes parcio ar ôl yr amser cau.

Bysus

Bysus lleol:

Caiff gwasanaethau bws eu dargyfeirio tra bydd ffyrdd canol y ddinas ar gau

Ewch i wefan y gweithredwr bws perthnasol i gael rhagor o wybodaeth am eich llwybrau bws penodol.

Ar gyfer gwasanaethau Stagecoach, ewch i:  Croeso i Stagecoach (stagecoachbus.com)

Ar gyfer gwasanaethau Bws Caerdydd, ewch i:https://www.cardiffbus.com/principality-stadium

Am ragor o wybodaeth am wasanaethau NAT, ewch i:https://www.natgroup.co.uk/

National Express:
 
Bydd bysus National Express yn defnyddio Gerddi Sophia fel yr arfer.  

Allwch chi feicio neu gerdded?

Gall y rheini sy'n byw yng Nghaerdydd feicio neu gerdded.Mae ymchwil yn dangos bod 52% o'r teithiau car ym mhrifddinas Cymru yn llai na 5km o hyd.  Mae hwn yn bellter y gellir ei feicio yn braf mewn 20 munud.

Gwyddom hefyd fod 28% o drigolion Caerdydd nad ydynt yn beicio ar hyn o bryd yn dymuno gwneud hynny.

Pan fo tagfeydd ar y ffyrdd, mae hyn yn gwneud beicio yn ddewis mwy atyniadol fyth gan y byddai teithio ar feic yn gynt na char ar yr oriau brig neu yn ystod digwyddiadau mawr.

Parcio i Siopwyr

Argymhellir i siopwyr ddefnyddio'r safleoedd Parcio a Theithio penodol ym Mhentwyn neu Neuadd y Sir. Neu mae meysydd parcio ar gael yng nghanol y ddinas hefyd: Meysydd Parcio Heol y Gogledd; Canolfan Siopa Dewi Sant; John Lewis; Canolfan Siopa Capitol ac NCP (Stryd Adam, Plas Dumfries a Heol y Brodyr Llwydion)

Parcio i Bobl Anabl

Argymhellir bod gyrwyr anabl yn defnyddio Gerddi Sophia. Mae lleoedd parcio i bobl anabl hefyd ar gael mewn meysydd parcio preifat amrywiol.

Gweler argaeledd ar wefannau unigol.

Tacsis

Ni fydd y digwyddiadau hyn yn effeithio ar safle tacsis Heol Eglwys Fair (y tu allan i Dŷ Fraser).