2/8/2022
Mae Ysgol Uwchradd Willows wedi derbyn Dyfarniad ArianYsgolion sy'n Parchu Hawliau(DYPH) gan Bwyllgor UNICEF yn y DU,am ei hymrwymiad at hyrwyddo a gwireddu hawliau plant ac annog oedolion, plant a phobl ifanc i barchu hawliau pobl eraill yn yr ysgol.
Mae'r dyfarniad yn cydnabod yr ysgolion hynny sy'n gwneud cynnydd rhagorol tuag at wreiddio egwyddorion Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn yn eu hethos a'u cwricwlwm ac wrth galon eu cynllunio, eu polisïau a'u harferion. Mae Ysgol sy'n Parchu Hawliau yn gymuned lle mae hawliau plant yn cael eu dysgu, eu haddysgu, eu hymarfer, eu parchu, eu diogelu a'u hyrwyddo.
Yn eu hadroddiad, nododd UNICEF DU fod gan ddisgyblion Ysgol Uwchradd Willows ddealltwriaeth dda iawn o hawliau a'u bod yn gallu rhestru detholiad o erthyglau a'u cysylltu â phrofiadau bywyd, gan ddeall bod hawliau nid yn unig yn gyffredinol a diamod, ond yn anwahanadwy, yn anaralladwy ac yn gynhenid.
Roedd y canlynol ymhlith uchafbwyntiau eraill yr adroddiad:
Wrth drafod y llwyddiant, dywedodd y Pennaeth Chris Norman: "Rydym mor falch i fod yn un o'r ychydig ysgolion uwchradd yng Nghymru sydd wedi derbyn y dyfarniad hwn. Daw ar ôl llawer o waith gan staff, disgyblion a Llywodraethwyr dan arweiniad ein cydlynydd DYPH Joe Sage i sicrhau ein bod yn gwneud ein gorau glas i sicrhau bod ein hysgol yn amgylchedd diogel a hapus i bawb."
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Mae'r dyfarniad hwn yn cydnabod yr ysgolion hynny sy'n ymrwymo i sicrhau bod hawliau plant yn cael eu gwreiddio ym mywyd bob dydd yr ysgol yn ogystal ag wrth galon cymuned ehangach yr ysgol.
"Rwy'n falch iawn bod Ysgol Uwchradd Willows wedi ennill y dyfarniad arian, gan fraenaru'r tir ar gyfer ysgolion uwchradd a allai ymuno ag Ysgol uwchradd Willows a'r 83 o ysgolion cynradd yng Nghaerdydd sydd wedi dod yn Ysgolion sy'n Parchu Hawliau.
"Rydyn ni'n symud yn sylweddol agosach at wireddu uchelgais Caerdydd o ddod yn ddinas swyddogol UNICEF sy'n Dda i Blant, gyda chymorth cefnogaeth amhrisiadwy ein hysgolion. Mae'r rhaglen DYPH yn rhoi'r cyfle gorau i blant fyw bywydau hapus ac iach a bod yn ddinasyddion actif, cyfrifol a aiff yn eu blaen i gyfrannu at y diwylliant o barchu hawliau rydyn ni eisiau ei greu."
UNICEF yw prif sefydliad y byd sy'n gweithio dros blant a'u hawliau.
Mae menterYsgolion sy'n Parchu Hawliau UNICEF yn y DUyn un sydd wedi'i hanelu at ysgolion ledled y DU, gan gynnwys y rhai mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar.
##CDYDDsynDdaiBlant #AddCaerdydd