27/07/22 - Dyfarniad ‘arbennig o gadarnhaol' i ysgol gynradd Gymraeg
Mae arolygwyr ysgolion wedi canmol ysgol gynradd Gymraeg yng Nghaerdydd fel "cymuned ddysgu lwyddiannus sy'n dathlu Cymreictod, amrywiaeth a chyflawniad y disgyblion yn arbennig o dda."
Darllenwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/29562.html
27/07/22 - Gwnaeth ysgol gynradd yng Nghaerdydd 'gynnydd trawiadol', medd Estyn
Mae disgyblion Ysgol Gynradd Bryn Celyn ym Mhentwyn wedi eu canmol gan Estyn, yr arolygwyr addysg yng Nghymru, am wneud cynnydd trawiadol yn eu dysgu eleni - er gwaetha'r pandemig.
Darllenwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/29560.html
27/07/22 - Caerdydd i elwa o fentrau Strydoedd Diogelach newydd gwerth £750k
Mae Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Caerdydd wedi cael £750,000 gan y Swyddfa Gartref i ddarparu cyfres o fentrau sydd â'r nod pennaf o gadw menywod yn ddiogel yng nghanol y ddinas ac mewn rhai ardaloedd preswyl yn Cathays.
Darllenwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/29555.html
26/07/22 - Anrhydeddu'r Cyngor am ymrwymiad i bersonél y Lluoedd Arfog
Mae Cyngor Caerdydd wedi'i anrhydeddu â gwobr aur fawreddog Cynllun Cydnabod Cyflogwyr y Weinyddiaeth Amddiffyn (ERS) am ei gefnogaeth i'r Lluoedd Arfog.
Darllenwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/29550.html
26/07/22 - Baner Werdd newydd i barc yng Nghaerdydd yn codi'r cyfanswm i 16
Mae Cadwch Gymru'n Daclus wedi cyhoeddi bod 16 o Faneri Gwyrdd wedi'u dyfarnu i barciau a mannau gwyrdd sy'n cael eu rheoli gan Gyngor Caerdydd.
Darllenwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/29546.html
25/07/22 - Coed Ceirios Parc y Mynydd Bychan a roddwyd gan Japan wedi'u fandaleiddio
Cafodd dros 20 o goed ceirios, sy'n ffurfio rhan o rodfa newydd ei phlannu ym Mharc y Mynydd Bychan eu fandaleiddio y penwythnos hwn.
Darllenwch fwy yma: