Back
Dyfarniad ‘arbennig o gadarnhaol’ i ysgol gynradd Gymraeg

27.07.22
Mae arolygwyr ysgolion wedi canmol ysgol gynradd Gymraeg yng Nghaerdydd fel "cymuned ddysgu lwyddiannus sy'n dathlu Cymreictod, amrywiaeth a chyflawniad y disgyblion yn arbennig o dda."

Ymwelwyd ag Ysgol Pen-y-Groes, ym Mhentwyn, y mae bron i chwarter o’i 112 o ddisgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, ym mis Mai gan Estyn, Arolygiaeth Addysg Cymru. Canfuwyd bod gan yr ysgol arweiniad 'clir a doeth' gyda staff wedi ymrwymo i ethos o sicrhau gofal a lles o safon uchel i ddisgyblion mewn amgylchedd cartrefol a chefnogol.

Er bod ychydig dan 0.3 y cant o'r disgyblion yn siarad Cymraeg gartref, mae eu ffordd o ddefnyddio’r iaith yn nodwedd gref yr ysgol ac maen nhw'n defnyddio'r iaith yn 'hollol naturiol' y tu mewn a thu allan i'r ystafell ddosbarth.

"Mae sgiliau llafar y disgyblion ieuengaf yn datblygu'n llwyddiannus yn fuan ar ôl iddynt ddechrau yn yr ysgol," meddai'r adroddiad. "Erbyn Blwyddyn Un a Dau, mae nifer yn siarad yn hyderus ac yn frwdfrydig am eu gwaith a'u profiadau... yn ymfalchïo yn yr iaith a'i defnyddio yn naturiol wrth siarad â'i gilydd."

Canmolwyd y disgyblion am fod yn 'hynod gwrtais' â'i gilydd ac yn trin staff ac ymwelwyr gyda pharch yn gyson, gan ychwanegu: "Maen nhw'n ymddwyn yn eithriadol o dda ac yn siarad gyda chyfoedion ac oedolion mewn modd cyfeillgar wrth sôn am eu gwaith a'u hysgol."

Mae bron pob un o'r disgyblion, meddai, yn ymfalchïo yn eu hysgol a'u cymuned ac yn mwynhau dysgu am yr ardal leol. Maen nhw'n dangos lefelau uchel o les ac yn teimlo'n ddiogel o fewn cymuned ddysgu gefnogol tra bod y rhan fwyaf yn dangos agwedd 'arbennig o gadarnhaol' tuag at ddysgu.

Amlygodd yr adroddiad nad yw disgyblion bob amser yn cael 'cyfleoedd pwrpasol' i wella ansawdd y gwaith yn dilyn adborth gan athrawon, a dywedodd mai 'ychydig iawn o ddefnydd' oedd o ymyriadau a chefnogaeth bwrpasol i gwrdd ag anghenion dysgu penodol ambell i ddisgybl. Er mwyn mynd i'r afael â hyn argymhellodd yr adroddiad y dylid gwella sgiliau ysgrifennu disgyblion a chryfhau'r ddarpariaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY).

Dywedodd Anne Fenner, Pennaeth: "Mae gan deulu'r ysgol a'r tîm staff gwych ac ymroddedig, sy'n gweithio'n ddiflino dros bob un disgybl o fewn eu gofal, uchelgeisiau mawr ar gyfer y dyfodol. Ein gobaith yw bod yr ystyriaethau cadarnhaol gan arolygwyr Estyn yn dangos i'r gymuned leol gymaint sydd gennym ni fel ysgol i'w gynnig i bob disgybl, beth bynnag fo'u hil, eu diwylliant a'u gallu."

Dywedodd Mike Landers, cadeirydd llywodraethwyr yr ysgol: ""Rydym yn falch iawn bod Estyn yn cydnabod gwaith caled a diwydrwydd tîm Pen-y-Groes ac yn falch iawn o gymuned ein hysgol fach."

Dywedodd y Cynghorydd Sarah Merry, Aelod Cabinet dros Addysg Cyngor Caerdydd: "Rwy'n gwybod pa mor wych yw’r gwaith y mae'r ysgol yn ei wneud, yn bennaf wrth hybu amrywiaeth a lles ymhlith ei holl ddisgyblion ac roedd yn cynhesu'r galon i ddarllen yr holl sylwadau cadarnhaol."