27.07.22
Mae disgyblion Ysgol Gynradd Bryn Celyn ym Mhentwyn
wedi eu canmol gan Estyn, yr arolygwyr addysg yng Nghymru, am wneud cynnydd
trawiadol yn eu dysgu eleni - er gwaetha'r pandemig.
Dywedodd yr arolygiad, a gynhaliwyd ym mis Mai, fod yr ysgol yn rhoi "dechrau cryf mewn bywyd" i'w disgyblion a chanfu fod athrawon, staff a llywodraethwyr yn gweithio'n effeithiol mewn partneriaeth â rhieni, y gymuned a Chyngor Caerdydd i helpu disgyblion i ddatblygu'r sgiliau a'r gwerthoedd sydd eu hangen arnynt i fod yn llwyddiannus yn ystod eu bywydau.
Canfu hefyd fod gan yr ysgol, y mae 74% o’i 193 o ddisgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim a bron traean nad Saesneg yw eu prif iaith, arweiniad cryf gyda'r pennaeth yn gweithio gyda thîm ymrwymedig o athrawon a staff cymorth.
"Mae mwyafrif y disgyblion yn awyddus i ddysgu, yn ymddwyn yn dda iawn, yn dangos lefel uchel o barch at eu cyfoedion a'u oedolion yn yr ysgol ac mae ganddynt farn glir am yr hyn maen nhw eisiau ei gyflawni," meddai'r adroddiad. "Maen nhw'n gweithio'n galed yn yr ysgol, gan ddyfalbarhau i gwrdd â'r heriau y mae eu hathro yn eu gosod... mae'r berthynas rhwng staff a disgyblion yn rhagorol."
Dywedodd hefyd fod mwyafrif y disgyblion, gan gynnwys y rhai sy’n agored i niwed, y rhai sydd ag anghenion dysgu ychwanegol neu sydd â Saesneg fel iaith ychwanegol yn gwneud cynnydd cryf o'u pwyntiau cychwyn. "Yn dilyn amhariad y pandemig a'r heriau y mae disgyblion a'r gymuned wedi'u hwynebu," ychwanegodd, "mae'r cyflymiad yng nghynnydd y disgyblion ers Medi 2021 yn eithriadol o dda."
Mae disgyblion hefyd yn mynegi barn gref wrth gefnogi cydraddoldeb hiliol a pharch at egwyddorion pobl eraill. Mae diwylliant diogelu cryf yn yr ysgol, tra bod disgyblion a rhieni'n dweud bod achosion o fwlio yn "eithriadol o brin"
Mae argymhellion Estyn yn cynnwys yr ysgol i barhau i ddatblygu arddulliau a chynnwys ysgrifennu’r disgyblion a "chryfhau trefniadau i hybu bwyta ac yfed yn iach disgyblion."
Ar hyn o bryd, meddai, nid yw llywodraethwyr yn sicrhau bod trefniadau effeithiol er mwyn hybu arferion bwyta ac yfed yn iach yn y disgyblion. "Mae disgyblion yn mwynhau gwneud bwydydd iach yn y clwb coginio ond yn rhy aml maen nhw'n dod â diodydd a byrbrydau nad ydyn nhw’n iach i'r ysgol," ychwanegodd.
"Maen nhw'n dysgu darllen a deall y wybodaeth sydd ar labeli bwyd, gan ystyried a yw eitemau'n addas ar gyfer ffordd iach o fyw. Fodd bynnag, nid ydynt bob amser yn cymhwyso'r wybodaeth hon i wneud dewis iach wrth fwyta ac yfed."
Meddai pennaeth Bryn Celyn Elizabeth Keys: "Mae'r ysgol wedi dod mor bell ac wedi gwneud cynnydd da iawn ers ei harolygiad diwethaf. Rwy’n hynod falch o ymdrechion disgyblion, staff, llywodraethwyr a rhieni wrth wneud ein hysgol yn lle mor wych i ddysgu a thyfu."
Dywedodd Mark Perrins, is-gadeirydd llywodraethwyr yr ysgol: "Mae Llywodraethwyr Bryn Celyn yn falch iawn gyda chanlyniad yr Arolygiad. Mae'r ymroddiad a'r gwaith caled sydd wedi'i ddangos gan y staff addysgu wedi bod yn eithriadol a byddwn yn parhau i wasanaethu cymuned Bryn Celyn."
Dywedodd y Cynghorydd Sarah Merry, Aelod Cabinet
dros Addysg Cyngor Caerdydd: "Mae'n amlwg o'r adroddiad bod Bryn Celyn yn
ysgol wych ac mae llu o bethau cadarnhaol i ddod allan, yn enwedig y berthynas
ragorol sy'n bodoli rhwng yr athrawon a'u disgyblion."