Back
Coed Ceirios Parc y Mynydd Bychan a roddwyd gan Japan wedi'u fandaleiddio

Cafodd dros 20 o goed ceirios, sy'n ffurfio rhan o rodfa newydd ei phlannu ym Mharc y Mynydd Bychan eu fandaleiddio y penwythnos hwn.

Rhoddwyd y coed yn garedig yn rhan o Brosiect Coed Ceirios Sakura a grëwyd i ddathlu 150 mlynedd o gyfeillgarwch rhwng Cymru a Japan.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau, y Cynghorydd Jennifer Burke-Davies:  "Dim ond ym mis Ionawr y plannwyd y coed hyn ac roeddent i fod i symboleiddio cyfeillgarwch a dealltwriaeth felly mae'r ffaith eu bod wedi'u dinistrio yn y ffordd hon yn ofnadwy. Mae'n weithred fwriadol o fandaliaeth, trosedd, ac rwy'n condemnio'r ymddygiad cwbl annerbyniol hwn yn llwyr."

"Mae ein tîm parciau yn y broses o asesu maint llawn y difrod a bydd yn rhoi gwybod am y digwyddiad i'r heddlu. Byddwn yn annog unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth am y digwyddiad hwn i gysylltu â Crimestoppers ar 0800 555 111."

Mae'r broses o gyrchu coed newydd eisoes wedi dechrau, ac amcangyfrifir mai oddeutu £4,000 fydd cost yr ailblannu.

Er gwaethaf hyn, a digwyddiadau diweddar eraill, fel fandaliaeth ym Mharc Bute yn yr hydref y llynedd, mae Caerdydd yn parhau'n un o'r dinasoedd mwyaf diogel yn y DU, gyda'r gyfradd troseddau gyffredinol ail isaf ymysg dinasoedd craidd Cymru a Lloegr.

Mae'r Cyngor yn gweithio gyda phartneriaid drwy'r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol i sicrhau bod mannau gwyrdd hygyrch cyhoeddus y ddinas yn parhau'n ddiogel ac mae mesurau posibl i atal trosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol, fel goleuadau gwell, yn cael eu hystyried ar hyn o bryd.