Back
Y newyddion gennym ni - 25/07/22

Image

22/07/22 - Mwy o blant nag erioed i gael prydau a chwaraeon am ddim yr haf hwn wrth i Gaerdydd ymateb i gostau byw uwch

Bydd rhaglen lwyddiannus Caerdydd Bwyd a Hwyl yn cyrraedd mwy o blant nag erioed yr haf hwn, gan helpu i leddfu'r pwysau ariannol ar lawer o deuluoedd ledled y ddinas yn ystod gwyliau'r ysgol.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/29526.html

 

Image

22/07/22 - Ymgyrch Cyflog Byw yn ennill anrhydedd cenedlaethol cynghorau

Mae ymrwymiad Cyngor Caerdydd i dalu'r Cyflog Byw i'w weithwyr ac annog cyflogwyr i ddilyn eu hesiampl wedi ennill anrhydedd genedlaethol i Bartneriaeth Dinas y Cyflog Byw

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/29522.html

 

Image

22/07/22 - Ysgol Uwchradd Cathays : "Cymuned ddysgu hynod gynhwysol ac uchelgeisiol lle mae'r disgyblion a'r staff yn ffynnu" medda

Mewn ymweliad diweddar gan Estyn, canfu'r arolygwyr fod gan Ysgol Uwchradd Cathays arweinwyr ysbrydoledig a diwylliant o uchelgais uchel wedi'i ategu gan y genhadaeth 'cyfleoedd i bawb'.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/29520.html

 

Image

21/07/22 - Arweinydd Cyngor Caerdydd yn datgelu strategaeth Gryfach, Decach a Gwyrddach

Mae Huw Thomas, arweinydd Cyngor Caerdydd, wedi cyflwyno Rhaglen Lywodraethu newydd ei weinyddiaeth i gasgliad o fwy na 100 o arweinwyr busnes, dinesig a'r sector cyhoeddus.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/29513.html

 

Image

20/07/22 - Plant a phobl ifanc yn llywio dealltwriaeth y cyfryngau lleol o hawliau plant ac effaith eu gwaith

Rhoddwyd cyfle i bobl ifanc o bob rhan o Gaerdydd gwrdd â chyfryngau Cymru mewn digwyddiad a gynlluniwyd i ddechrau trafodaeth am sut y caiff plant eu portreadu yn y newyddion prif ffrwd ac i drafod sut y gall straeon negyddol effeithio ar eu lles.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/29509.html

 

Image

20/07/22 - Myfyrwyr o Ysgol Gynradd Gatholig St Philip Evans a phlant o bob cwr o'r byd yn dathlu degawd o'r Clwb Codio

Dros yr haf mae Ysgol Gynradd Gatholig Sant Philip Evans yn Llanedern wedi ymuno â disgyblion o Awstralia, India, Irac, ac UDA i ddathlu degawd o'r Clwb Codio: elusen fyd-eang sy'n cefnogi clybiau codio ar ôl ysgol ledled y byd.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/29507.html

 

Image

19/07/22 - Ymgynghoriad Cyhoeddus nawr ar agor ar waith yn gysylltiedig ag Ysgol Uwchradd newydd Willows

Gwahoddir y cyhoedd i rannu eu barn ar y gwaith sy'n gysylltiedig â sefydlu safle newydd ar gyfer Ysgol Uwchradd Willows.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/29501.html

 

Image

19/07/22 - Cytuno ar gynllun i leddfu'r pwysau o ran tai fforddiadwy

Mae Cabinet y Cyngor wedi cytuno ar gynllun peilot arloesol a gynlluniwyd i helpu i fynd i'r afael â phrinder tai fforddiadwy yng Nghaerdydd ar unwaith.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/29492.html

 

Image

19/07/22 - Llwyddiant iach i ddwy ysgol gynradd yng Nghaerdydd

Mae dwy ysgol gynradd yng Nghaerdydd wedi cael cydnabyddiaeth genedlaethol am eu gwaith o'r safon uchaf i hyrwyddo iechyd a lles ym mhob rhan o'u hysgolion.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/29489.html

 

Image

19/07/22 - Disgybl yn Ysgol Gynradd Pontprennau yn torri record byd am enwi gwledydd ac arian cyfred

Mae disgybl Blwyddyn 3 o Ysgol Gynradd Pontprennau wedi creu hanes drwy ddod y person ieuengaf i adrodd prifddinasoedd ac arian cyfred pob un o 195 gwlad y byd, yn hyderus ac yn gyflymach nag erioed, mewn 7 munud a 15 eiliad.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/29486.html

 

Image

18/07/22 - Dathlu canrif o ddysgu yn Ysgol Gynradd Oakfield

Efallai nad ydy tri athro sy'n ymddeol gyda 100 mlynedd o brofiad rhyngddynt yn anarferol. Ond pan mae'r triawd i gyd wedi rhoi'r blynyddoedd hynny i mewn yn yr un ysgol ac ymddeol ar yr un diwrnod, mae'n achos dathlu arbennig.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/29480.html