22/7/2022
Bydd rhaglen lwyddiannus CaerdyddBwyd a Hwylyn cyrraedd mwy o blant nag erioed yr haf hwn, gan helpu i leddfu'r pwysau ariannol ar lawer o deuluoedd ledled y ddinas yn ystod gwyliau'r ysgol.
Bydd y rhaglen cyfoethogi gwyliau ysgol sy'n darparu prydau maethlon iach ochr yn ochr â chyfleoedd i gymdeithasu, cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol a dysgu sgiliau newydd, yn cael ei chyflwyno eleni i 29 o ysgolion Caerdydd, sy'n golygu y bydd mwy na 1500 o blant a phobl ifanc yn cael mynediad i'r ddarpariaeth.
Bydd y rhaglen gyffrous o ddarpariaeth addysgol, sgiliau a chwaraeon yn cael ei chyflwyno gan nifer o bartneriaid ledled y ddinas gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn cefnogi'r sesiynau addysg maeth.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Bydd llawer o bobl yn teimlo effeithiau'r argyfwng costau byw presennol ond i rai teuluoedd mae'r effaith yn llawer mwy, yn enwedig gyda'r baich ariannol ychwanegol a ddaw yn sgil gwyliau'r ysgol chwe wythnos.
"Rydym yn cydnabod angen a phwysigrwydd cynllunBwyd a HwylCaerdydd. Dros y saith mlynedd diwethaf rydym wedi sefydlu gwaith partneriaeth llwyddiannus sydd wedi chwarae rhan allweddol yn y gwaith o gefnogi iechyd a lles cadarnhaol ymhlith y plant hynny sy'n elwa fwyaf o'r cynllun. Gan roi mynediad i weithgarwch corfforol, prydau iach a sesiynau maeth a bwyd, mae'r fenter yn cynnig ystod eang o weithgareddau na fydd rhai plant fel arfer yn cael cyfle i gymryd rhan ynddynt.
"Rwy'n falch iawn bod y cynllun wedi tyfu o flwyddyn i flwyddyn ac rwy'n edrych ymlaen at ymweld â llawer o'r sesiynau yr haf hwn i gwrdd â'r plant a rhai o'n haelodau staff ymroddedig."
Newydd ar gyfer eleni ac mewn ymgais i gefnogi'r defnydd cynyddol o gynnyrch a dyfir yn lleol mewn prydau ysgol, maeBwyd a Hwylyn cymryd rhan yng Nghynllun Peilot Llysiau Bwyd Caerdydd. Gan weithio gyda'i gilydd, bydd tyfwyr lleol, Bwyd Caerdydd, Cyngor Caerdydd a chyflenwr prydau ysgol y ddinas, Castell Howell, yn archwilio sut y gellid ymgorffori mwy o gynnyrch lleol mewn prydau ysgol drwy ymgysylltu â phlant a'r gadwyn gyflenwi. Mae'r fenter yn cefnogi ymrwymiad Caerdydd i gyflenwi dau ddogn o lysiau ym mhob cinio ysgol.
Cafodd y cynllunBwyd a Hwylei ddatblygu gan dîm Cyfoethogi Gwyliau'r Haf Caerdydd yn 2015 ac fe'i mabwysiadwyd gan Lywodraeth Cymru a'i gyflwyno i weddill Cymru yn ystod y ddwy flynedd ddilynol. Mae wedi cael ei ddefnyddio fel enghraifft o Arfer Gorau ac mae wedi arwain at gydnabod mai Cymru sydd â'r ddarpariaeth gwyliau fwyaf datblygedig yn y DU.
Ychwanegodd y Cynghorydd Merry: "Eleni bydd Bwyd a Hwyl yn cael ei chyflwyno mewn cydweithrediad â Haf o Hwyl Caerdydd, ein rhaglen o weithgareddau a digwyddiadau ledled y ddinas ar gyfer plant a phobl ifanc Caerdydd."
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i:School Holiday Enrichment Programme, Food and Fun | Food Cardiff