Back
Plant a phobl ifanc yn llywio dealltwriaeth y cyfryngau lleol o hawliau plant ac effaith eu gwaith


20/7/2022

Rhoddwyd cyfle i bobl ifanc o bob rhan o Gaerdydd gwrdd â chyfryngau Cymru mewn digwyddiad a gynlluniwyd i ddechrau trafodaeth am sut y caiff plant eu portreadu yn y newyddion prif ffrwd ac i drafod sut y gall straeon negyddol effeithio ar eu lles.

Rhoddodd y digwyddiad ‘Plant a'r Cyfryngau', a gafodd ei drefnu gan dîm Caerdydd sy'n Dda i Blant mewn cydweithrediad â Chyngor Caerdydd a Phrifysgol Caerdydd, gyfle i bobl ifanc, oedolion a gweithwyr proffesiynol yn y cyfryngau ddod at ei gilydd i drafod sut mae pobl yn cael eu portreadu yn y cyfryngau, stereoteipiau yn y cyfryngau a sut mae'r cyfryngau yn dewis straeon.

Yn ystod y digwyddiad, aeth prif siaradwyr - dan arweiniad pobl ifanc yn eu harddegau - i'r llwyfan i siarad am yr effaith y mae'r cyfryngau'n ei chael ar blant a phobl ifanc, sut maen nhw'n teimlo bod eu lleisiau'n aml yn mynd heb eu clywed ac i godi ymwybyddiaeth o hawliau plant i lwyfannau newyddion yng Nghymru.

Clywodd y grŵp o 90 o siaradwyr sgyrsiau gan nifer o siaradwyr gan gynnwys Sally Holland, cyn Gomisiynydd Plant Cymru a'r Athro yng Nghanolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol Plant ym Mhrifysgol Caerdydd, Zoe Thomas, Golygydd Rhaglenni Saesneg yn ITV Wales; Andrew Collins, Ymgynghorydd Cyfathrebu Digidol ProMo Cymru; ac Arthur Templeman-Lilly, 14 oed, o'r Bwrdd Cynghori Plant a Phobl Ifanc (BCPPhI).

Yna daeth y digwyddiadAmgylcheddau Dysgu Hunandrefnedigâ phawb ynghyd i gydweithio wrth drafod ac ymchwilio i dri chwestiwn allweddol:

  • Sut mae plant a phobl ifanc yn cael eu cynrychioli yn y cyfryngau?  A sut allwn ni ei wneud yn well?
  • Pa wybodaeth mae plant a phobl ifanc ei hangen?   A sut allwn ni ei wneud yn fwy hygyrch?
  • Sut gall Caerdydd ddathlu a hyrwyddo plant a phobl ifanc, a'u hawliau? 

Meddai Arthur, Is-gadeirydd BCPPhI, "Roedd yn brofiad gwych i siarad yn y digwyddiad Plant a'r Cyfryngau. Cafodd gweithwyr proffesiynol a phobl ifanc gyfle i herio eu hunain, gan fentro i dir newydd i feddwl yn ddyfnach am blant, eu hawliau, a sut mae hyn i gyd yn berthnasol i ddiwydiant y cyfryngau. Roedd yn ddiddorol gweld y gwahanol ffyrdd y gwnaethom ymdrin â'r cwestiynau, gan ymhelaethu ar y ffaith ein bod i gyd yn unigryw, gyda'n barn a'n safbwyntiau ein hunain".

Dywedodd Logan, aelod o BCPPhI, "'Roedd yn ddigwyddiad gwych i ddysgu mwy am yr hyn y mae Caerdydd sy'n Dda i Blant yn ymdrechu i'w wneud a sut mae'n mynd i wella pethau i bobl ifanc".

Dywedodd Eshaan, aelod arall o BCPPhI, "Roedd yn brofiad diddorol cydweithio â sefydliadau ieuenctid eraill, ymchwilwyr a rhanddeiliaid sy'n oedolion ac roedd y bwyd yn anhygoel!!

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Mae'n wych gweld oedolion, pobl ifanc a'r cyfryngau yn cydweithio ar y ffordd orau ymlaen, nid yn unig i gynnal hawliau plant, ond i sicrhau bod pobl ifanc yn cael eu cynnwys mewn straeon amdanynt a bod eu lleisiau a'u barn yn cael eu clywed.

"Mae'n hynod o bwysig bod hawliau plant yn rhan annatod o bob agwedd ar fywyd plentyn wrth dyfu i fyny, er mwyn i blant wybod eu bod yn bwysig, yn cael eu gwerthfawrogi a'u clywed. Rydym wedi dod yn bell gyda hynny yng Nghaerdydd gan fod 82 o'n hysgolion wedi ymuno â rhaglen Dyfarniad Ysgolion sy'n Parchu Hawliau Unicef hyd yn hyn."

Caerdydd yw'r ddinas gyntaf yn y DU i weithio gydag UNICEF fel rhaglen Dinas sy'n Dda i Blant.

Mae Caerdydd wedi gwneud cynnydd sylweddol o ran ymgorffori hawliau plant yn strategaethau'r Cyngor a'r ffordd y caiff ein pobl ifanc eu cefnogi a'u meithrin, sy'n cyd-fynd yn agos ag uchelgais y ddinas i ddod yn Ddinas sy'n Dda i Blant a gydnabyddir yn rhyngwladol, fel yr argymhellwyd gan Bwyllgor y DU ar gyfer UNICEF.

I gael gwybod mwy am:

Caerdydd sy'n Dda i Blant, ewch ihttps://www.caerdyddsynddaiblant.co.uk  

ProMo Cymru, ewch i:https://www.promo.cymru/

CASCADE, ewch i:https://cascadewales.org/

Bwrdd Cynghori Plant a Phobl Ifanc, ewch i:

https://www.childfriendlycardiff.co.uk/cy/cymryd-rhan/bwrdd-ymgynghorol-plant-a-phobl-ifanc/