Back
Myfyrwyr o Ysgol Gynradd Gatholig St Philip Evans a phlant o bob cwr o'r byd yn dathlu degawd o'r Clwb Codio

20/7/2022 

Dros yr haf mae Ysgol Gynradd Gatholig Sant Philip Evans yn Llanedern wedi ymuno â disgyblion o Awstralia, India, Irac, ac UDA i ddathlu degawd o'r Clwb Codio: elusen fyd-eang sy'n cefnogi clybiau codio ar ôl ysgol ledled y byd.

Cymerodd dros 4,000 o blant ran mewn saith sesiwn codio ar y cyd awr o hyd, a gynhaliwyd gan dimau Clwb Codio yn Seland Newydd, Awstralia, India, Irac, y DU, Iwerddon, ac UDA, lle dysgodd plant sut i greu gêm parti piñata newydd sbon gan ddefnyddio'r iaith codio bloc, Scratch. Defnyddiodd y plant ddelweddau o ddanteithion parti o bob cwr o'r byd, a dysgu sut i ychwanegu cerddoriaeth a gweithgareddau hwyliog i'w gemau.

Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Merry: "Mae cyfleoedd fel y Clwb Codio yn rhoi cyfle i blant a phobl ifanc ymgysylltu â chyfrifiadura a rhaglennu, gan helpu i wella sgiliau a hyrwyddo dysgu gyda chyfrifiaduron. Mae hon yn gamp wych gan ddisgyblion a staff Ysgol Gynradd Gatholig Sant Philip Evans a all fod yn falch o fod wedi sefydlu cysylltiadau â phlant eraill ledled y byd, drwy godio."

Wedi'i lansio yn 2012 yn y DU, mae'r Clwb Codio wedi dod yn gymuned fyd-eang o addysgwyr, gwirfoddolwyr a chodwyr ifanc. Mae Clybiau Codio wedi'u cofrestru mewn dros 150 o wledydd, gan helpu pobl ifanc rhwng 9 ac 13 oed i ddysgu sut i greu gemau, animeiddiadau a gwefannau gyda phrosiectau am ddim. Mae'r prosiectau codio difyr yn cwmpasu ystod o ieithoedd a themâu codio, o'r gofod, i gelf. Mae pob prosiect wedi'i gynllunio i fod yn hygyrch i godwyr o bob lefel, fel y gall unrhyw un redeg clwb boed ganddyn nhw unrhyw brofiad codio blaenorol ai peidio. 

Dywedodd Katie Davies, athrawes Blwyddyn 6, "Fy hoff beth am arwain Clwb Codio yw'r cyffro a'r llawenydd welwch chi yn y plant pan fyddan nhw wedi cyflawni her. Mae'n dod â phlant o wahanol grwpiau blwyddyn at ei gilydd ac yn caniatáu iddyn nhw ddysgu oddi wrth ei gilydd. Rwy'n argymell sefydlu Clwb Codio'n fawr! Ysbrydolodd y sesiynau codio ar y cyd y plant ac maen nhw erbyn hyn yn awyddus i gwblhau prosiectau Scratch yn rheolaidd."

Gwnaeth Ruby (11 oed) o Ysgol Gynradd Gatholig Sant Philip Evans ddisgrifio'r hyn y mae'n ei fwynhau am y Clwb Codio: "Rwy wrth fy modd yn mynd i'r Clwb Codio oherwydd rwy'n angerddol dros godio ac yn mwynhau'r her. Roedd y codio ar y cyd adeg pen-blwydd y Clwb Codio yn wych oherwydd bod y prosiect yn cynnwys bwyd o bob cwr o'r byd yn y parti piñata, gan ddangos sut y gall pobl o bob cwr o'r byd gymryd rhan a mwynhau codio".

Mae'r Clwb Codio yn un o raglenni addysgol mwyaf Sefydliad Raspberry Pi, sydd â chenhadaeth o alluogi pobl ifanc i wireddu eu llawn botensial drwy rym cyfrifiadura a thechnolegau digidol waeth beth fo'u cefndir. Mae'r Clwb Codio'n cael ei ariannu'n rhannol gan werthiannau cyfrifiaduron Raspberry Pi sy'n cael eu cynhyrchu yn Ffatri Pencoed Sony, gwta 20 munud o daith o Gaerdydd.

Does dim rhaid i chi gael arbenigwr codio yn eich ysgol i gynnal Clwb Codio, gan fod yr holl brosiectau'n darparu cyfarwyddiadau cam wrth gam. Os oes gan eich ysgol ddiddordeb mewn dechrau clwb, yna edrychwch ar wefan y Clwb Codio yn codeclub.org, ac ymuno ag un o weminarau 'Dechrau Arni gyda Chlwb Codio' (gweler y wefan am fanylion).