Back
Diweddariad Cyngor Caerdydd: 19 Gorfennaf 2022

19/07/22


Croeso i'n newyddion diweddaraf, yn cynnwys: her gwerth miliynau o bunnoedd i gynhyrchu mwy o fwyd lleol; graddedigion iau yn dathlu llwyddiant Prifysgol y Plant; a galw ar blant a phobl ifanc i ychwanegu eu lleisiau at y ddadl ar ddyfodol ein hysgolion.

 

Her bwyd cynaliadwy gwerth £2.6 miliwn i ddod â gwelliannau o ran cynhyrchu a chyflenwi bwyd lleol

Mae her gwerth £2.6 miliwn i annog arloesi wrth gynhyrchu a chyflenwi bwyd lleol wedi'i lansio.

Nod y prosiect, sy'n bartneriaeth rhwng Cyngor Caerdydd, Cyngor Sir Fynwy, Cronfa Her Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, Llywodraeth Cymru, a Chanolfan Ragoriaeth MYBB (Menter Ymchwil Busnesau Bach), yw nodi a chefnogi prosiectau a all harneisio potensial tir, technoleg a phobl i gynyddu cynhyrchiant a chyflenwad cynaliadwy o fwyd lleol ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd.

Gall sefydliadau arloesol sydd â diddordeb mewn gwneud cais am yr her gofrestru eu diddordeb yma: https://sdi.click/spsf  

Mae'r Her yn ei gwneud yn ofynnol i ymgeiswyr ddangos yn glir:

  • Sut y byddant yn cynyddu cynhyrchiant bwyd cynaliadwy yn y rhanbarth ac yn creu effeithiau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol cadarnhaol.
  • Sut y byddant yn cyflenwi bwyd maethlon, wedi'i dyfu'n lleol wrth sicrhau pris teg i gynhyrchwyr a lles cenedlaethau'r dyfodol.

Darllenwch fwy yma:https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/29446.html

Graddedigion iau yn dathlu llwyddiannau Prifysgol y Plant

Mae'n ddathliad nodweddiadol i Brifysgol Caerdydd - ar ôl misoedd o ddysgu, mae byrddau morter yn cael eu taflu yn yr awyr gan fyfyrwyr ifanc wedi'u gwisgo mewn gynau ffurfiol tra bod rhieni balch yn eu gwylio ac yn gwenu.

Serch hynny, mae rhywbeth braidd yn wahanol am yr olygfa raddio hon - mae'r holl bobl ifanc yn ddisgyblion ysgol gynradd yng Nghaerdydd sydd wedi cymryd rhan mewn cynllun newydd gyda'r nod o annog a datblygu cariad at ddysgu.

Mae'r rhaglen Pasbort i'r Ddinas yn ymrwymiad allweddol yn strategaeth 'Cryfach, Tecach, Gwyrddach'. Ei nod yw sicrhau bod pobl ifanc o bob cefndir yn gallu mwynhau holl amwynderau Caerdydd.

Fe'i cyflwynir trwy Brifysgol y Plant newydd y cyngor yng Nghaerdydd, partneriaeth newydd rhwng ysgolion y cyngor, elusen Prifysgol y Plant a Phrifysgol Caerdydd.

Bydd y digwyddiad graddio heddiw yn lansio rhaglen Caerdydd yn ffurfiol ac yn dathlu llwyddiant dros 400 o blant o Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru y Santes Fair yn Butetown, Ysgol Gynradd Sain Ffagan, Ysgol Gynradd Peter Lea yn y Tyllgoed ac Ysgol Gynradd Windsor Clive yn Nhrelái sydd wedi cymryd rhan mewn cynlluniau peilot dros y flwyddyn ddiwethaf.

Darllenwch fwy yma:https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/29459.html

Ychwanegwch eich llais ieuenctid i drafod dyfodol ysgolion Caerdydd

Weithiau gall y byd ymddangos fel ei fod yn cael ei redeg gan oedolion ar gyfer oedolion... tra bod y bobl ifanc sy'n ffocws y dyfodol naill ai'n cael eu hanwybyddu neu mae eu barn yn cael ei gwrthod yn gyfan gwbl.

Nawr, mae Cyngor Caerdydd yn ceisio newid y canfyddiad hwn trwy roi cyfle i bobl ifanc gymryd rhan uniongyrchol yn y ffordd y caiff addysg y ddinas ei llunio dros y 10 mlynedd nesaf.

Mae Pŵer i'r Bobl: Rhaglen Dylanwadwyr Caerdydd 2022 yn fenter newydd gyda'r nod o sefydlu fforwm o bobl ifanc yn eu harddegau iau o bob rhan o'r ddinas a rhoi llwyfan iddynt a'r gallu i lunio strategaeth a dylanwadu ar sut bydd yr awdurdod yn buddsoddi miliynau o bunnoedd mewn addysg ledled y ddinas.

Darllenwch fwy yma:https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/29441.html