Back
Ymgynghoriad Cyhoeddus nawr ar agor ar waith yn gysylltiedig ag Ysgol Uwchradd newydd Willows

19/7/2022

Gwahoddir y cyhoedd i rannu eu barn ar y gwaith sy'n gysylltiedig â sefydlu safle newydd ar gyfer Ysgol Uwchradd Willows.

Mae'r ymgynghoriad yn nodi'r cam nesaf yn y datblygiad i adleoli ac ailadeiladu'r ysgol uwchradd ar dir oddi ar Heol Lewis, y Sblot. Os eir ymlaen â'r cynlluniau, byddai gan yr ysgol newydd amrywiaeth o gyfleusterau cynhwysfawr a fyddai ar gael at ddefnydd y cyhoedd y tu allan i oriau ysgol ac a fyddai'n cael eu darparu'n rhan o Fand B Rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu Cyngor Caerdydd a Llywodraeth Cymru.

Mae'r Ymgynghoriad Cyn Ymgeisio ar agor tan 16 Awst 2022 ac mae'n caniatáu i bobl ddweud eu dweud am y gwaith galluogi sy'n gysylltiedig â'r cynllun, cyn i gais cynllunio gael ei gyflwyno i Bwyllgor Cynllunio Cyngor Caerdydd. Mae'r cynigion yn cynnwys:

  • Gorchymyn cau ar Heol Lewis a gwaith priffyrdd perthnasol, er mwyn caniatáu i'r datblygiad fynd rhagddo
  • Adeiladu llwybrau teithio llesol i berimedr dwyreiniol y safle
  • Gosod cyfleustodau newydd ac adleoli gwasanaethau presennol
  • Cloddio a gwaith tir gan gynnwys tynnu rhai deunyddiau llygrol ar ôl tarfu ar y tir
  • Dymchwel adeiladau presennol ar Heol Portmanmoor ac ar hen safle Marchnad y Sblot
  • Gosod ffensys diogelwch o amgylch ffin y safle
     

Dwedodd Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd, yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Yr ymgynghoriad cyhoeddus hwn yw'r cam nesaf i adleoli ac ailadeiladu Ysgol Uwchradd Willows ac mae'r gwaith galluogi sy'n gysylltiedig â'r prosiect yn rhan annatod o'r datblygiad, a fydd, pan fydd wedi'i gwblhau, yn darparu cyfleusterau, arbenigedd a chyfleoedd addysgu eithriadol i fyfyrwyr, staff a'r gymuned.

Ychwanegodd y Cynghorydd Sarah Merry: "Ar ôl ystyried sawl safle, canfuwyd bod y lleoliad arfaethedig ar gyfer yr ysgol newydd yn hygyrch i boblogaeth y dalgylch gydag amryw o lwybrau teithio llesol eisoes ar waith. Byddai cyfle i gyflawni ymrwymiad y Cyngor i ddatblygu Cynlluniau Teithio Llesol a llwybrau cerdded a beicio hygyrch i bob ysgol, drwy weithredu llwybrau newydd ar gyfer beicio a gwell cyfleusterau i gerddwyr yn yr ardal.

"Byddai'r safle newydd hefyd yn cynnig manteision sylweddol i'r ysgol a'r gymuned, gan gynnwys cyfleoedd i ffurfio cysylltiadau â busnesau a sefydliadau lleol yr ardal a all helpu i greu cyfleoedd heriol, cefnogol ac ysgogol i hyrwyddo dyhead a chyflawniad."

"Rwy'n annog pobl i ddweud eu dweud i helpu i lunio'r cynlluniau a fydd yn cefnogi datblygiad y cynllun sy'n cynrychioli buddsoddiad sylweddol yn yr ardal leol ac hefyd yn sicrhau bod y gymuned leol yn elwa ar amwynderau modern, rhagorol."

I weld y cynigion ac i ddweud eich dweud, ewch i:www.asbriplanning.co.uk/statutory-pre-application-consultation/willows-high-school-lewis-road-splott/

Cynhelir sesiynau galw heibio yn:
 
STAR Hyb, Heol Muirton ar ddydd Iau 28 Gorffennaf o 3.30. - 6pm. 

Capel i Bawb, Ysbyty Brenhinol Caerdydd, Heol Glossop, CF24 0JT dydd Mawrth 2 Awst 9.30am-11.30am

Canolfan Ieuenctid Pafiliwn, Butetown, Heol DumballsButetownCF10 5FE dydd Iau 11 Awst 4pm-6pm


Rhagwelir y bydd y Cais Cynllunio ar gyfer prif waith adeiladu'r ysgol newydd yn cael ei gyflwyno yng ngwanwyn 2023 ac os caiff ei gymeradwyo bydd cynigion yn cynnwys;

  • Adleoli ac ailadeiladu'r ysgol ar dri pharsel o dir ym Marchnad Sblot a Heol Portmanmoor; gan gynnwys mynediad i'r caeau 3G yn yr hen ganolfan tenis a darparu digon o le i'r ysgol newydd heb golli unrhyw fan agored presennol.
  • Rhoi mynediad i ddisgyblion at amgylchedd dysgu o ansawdd uchel i gefnogi a gwella addysgu a dysgu.
  • Ysgol â ffocws cymunedol gyda chyfleusterau ar gael at ddefnydd y gymuned gyfan y tu allan i oriau craidd yr ysgol.
  • Cyfleusterau gwell i gerddwyr i gefnogi trefniadau teithio llesol ar safle Heol Lewis
  • Lle ar gyfer 900 o ddysgwyr 11 i 16 oed, yn unol â'r galw a ragwelir
  • Disgyblion i aros ar safle presennol Ysgol Uwchradd Willows nes y caiff adeiladau newydd yr ysgol eu cwblhau i leihau tarfu posibl.

Ym mis Mehefin 2021, cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus cychwynnol yn gofyn i aelodau'r cyhoedd am eu barn ar yr hyn y dylid ei ddysgu yn yr ysgol a sut y dylid ei gyflwyno.  Roedd y rhan fwyaf o'r safbwyntiau o blaid y cynlluniau, gydag adborth cadarnhaol ar gynigion ar gyfer cyfleusterau, cefnogaeth i ddyheadau disgyblion drwy weithio mewn partneriaeth a sut y bydd buddsoddi'n sicrhau gwell addysg ac amwynderau cymunedol i gymunedau Adamsdown a Sblot.

Ychwanegodd y Cynghorydd Merry; "Roedd yr ymatebion a gasglwyd drwy'r ymgysylltu cyhoeddus gwreiddiol yn cefnogi ffocws ar gydweithio ag ystod eang o bartneriaid yn y diwydiant, gan alluogi disgyblion i elwa ar gwricwlwm cyfoethog sy'n rhoi cyfleoedd dysgu 'byd go iawn', gan eu hysbrydoli a'u helpu i ddatblygu eu sgiliau i fod yn ddysgwyr gwydn, arloesol sy'n gallu datrys problemau.

Yn amodol ar gynllunio a chaffael, disgwylir i gwaith adeiladu'r campws newydd ddechrau yn 2023.