19/7/2022
Mae dwy ysgol gynradd yng Nghaerdydd wedi cael cydnabyddiaeth genedlaethol am eu gwaith o'r safon uchaf i hyrwyddo iechyd a lles ym mhob rhan o'u hysgolion.
Mae aseswyr Cynlluniau Ysgolion Iach - Rhwydwaith Cymru wedi rhoi Gwobr Ansawdd Genedlaethol (GAG) Ysgolion Iach i Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Santes Monica yn Cathays ac iYsgol Gynradd Gatholig Sant Philip Evans yn Llanedern am ddangos rhagoriaeth ym mhob maes iechyd a lles, gyda chymorth Tîm Ysgolion Iach Cyngor Caerdydd.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Mae Gwobr Ansawdd Genedlaethol Ysgolion Iach yn gyflawniad rhagorol - mae angen i ysgolion fynd drwy broses drylwyr sy'n rhychwantu o leiaf naw mlynedd i'w hennill.
"Rwyf felly wrth fy modd bod dwy ysgol gynradd arall yng Nghaerdydd wedi llwyddo i ennill y wobr, gan gydnabod gwaith caled y staff, y disgyblion a chymunedau ehangach yr ysgolion.
"Mae iechyd a lles yn chwarae rhan bwysig ym mywyd ysgolion, hyd yn oed yn fwy nawr nag erioed wrth i ni barhau i adfer o'r pandemig. Bydd yr ystod eang o fentrau a gweithgareddau unigryw ac arloesol a gyflwynir yn Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Santes Monica ac yn Ysgol Gynradd Gatholig Sant Philip Evans yn effeithio'n gadarnhaol ar ddisgyblion a'u teuluoedd, gan helpu i hyrwyddo dyfodol hapus ac iach.
"Hoffwn longyfarch y ddwy ysgol yn bersonol. Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth y byddant yn ysbrydoli eraill i ddatblygu a chyflwyno cynlluniau newydd a chyffrous ar gyfer eu hysgolion eu hunain"
Uchafbwyntiau Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Santes Monica:
Gan fyfyrio ar y newyddion da, dywedodd Pennaeth Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Santes Monica, Abi Beacon: "Rydym wrth ein bodd bod gwaith caled yr holl blant a staff yn Ysgol Santes Monica wedi cael ei gydnabod gan y wobr hon. Ni fu erioed amser pwysicach i ganolbwyntio ar ein hiechyd a'n lles - rydym yn edrych ymlaen at barhau â hyn gyda'r plant."
Uchafbwyntiau Ysgol Gynradd Gatholig Sant Philip Evans
Dywedodd Pennaeth Ysgol Gynradd Gatholig Sant Philip Evans, Catherine Power: "Rydym wrth ein bodd yn derbyn y wobr. Yn Ysgol Sant Philip Evans credwn fod lles a hyrwyddo ffyrdd iach o fyw yn hanfodol ar gyfer dyfodol llewyrchus ein plant. Mae'r wobr yn adlewyrchu gwaith caled staff, rhieni a phlant ac mae'n cael effaith gadarnhaol iawn gan annog ffyrdd iach o fyw yn ein cymuned. Llongyfarchiadau."
Dywedodd Gemma Cox, Prif Arweinydd Lleoliadau Addysgol Iechyd Cyhoeddus Cymru: "Rydym wrth ein bodd bod Ysgol Gynradd Santes Monica ac Ysgol Gynradd Sant Philip Evans wedi derbyn ein GAG. Maent yn haeddu'r gydnabyddiaeth bwysig hon am eu hymrwymiad i ymgorffori iechyd a lles yn niwylliant eu hysgolion.
"Mae'r cyflawniad hwn yn dangos sut mae Cynlluniau Ysgolion Iach - Rhwydwaith Cymru yn galluogi Iechyd Cyhoeddus Cymru i weithio mewn partneriaeth gyfartal ag ysgolion i wella iechyd a lles ein plant yn y dyfodol. Drwy gyfuno ein hymdrechion a'n hasedau mewn ffordd bwrpasol, gallwn greu Cymru iachach, hapusach a thecach."