Back
Diweddariad Cyngor Caerdydd: 15 Gorfennaf 2022

15/07/22


Dyma'r diweddaraf gan Gyngor Caerdydd gan gynnwys: cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru am y gwres eithafol; y Strategaeth Cryfach Tecach Gwyrddach; ehangu rhaglen plant Dechrau'n Deg; ehangu Ysgol Gynradd Pentyrch yn symud gam yn agosach ac ehangu darpariaeth anghenion addysgol arbennig yn y ddinas.

Cymerwch ofal ychwanegol yn y gwres llethol

Mae arbenigwyr yn Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rhybuddio pobl i gymryd gofal ychwanegol yn y gwres llethol sy'n cael ei ragweld dros y dyddiau nesaf. Mewn rhai rhannau o Gymru, disgwylir i'r tymheredd gyrraedd 30-35 gradd selsiws erbyn dydd Llun. Gall tywydd poeth iawn sy'n para am ychydig ddiwrnodau, neu fwy, achosi dadhydradu, gorgynhesu, gorludded gwres a thrawiad gwres. Mae'n bwysig iawn gofalu am blant, yr henoed a'r rhai sydd â chyflyrau iechyd sy'n bodoli eisoes. Cysylltwch yn rheolaidd ag anwyliaid, ffrindiau, teulu a chymdogion.

Cynghorir eich bod yn gwneud newidiadau i'ch trefn arferol er mwyn ymdopi â'r gwres llethol. Mae hyn yn cynnwys osgoi gweithgarwch egnïol yng nghanol y dydd pan fydd yr haul ar ei boethaf, yfed digon o ddŵr a gwisgo het, eli haul a dillad lliw golau, llac, yn ddelfrydol gyda llewys hir. Cadwch ystafelloedd yn oerach drwy gau bleindiau a llenni a chau ffenestri.

Darllenwch fwy yma:https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/29471.html

Cynlluniau ar gyfer Caerdydd Gryfach, Tecach a Gwyrddach wedi'u cymeradwyo gan Gabinet y Cyngor

Mae gweledigaeth o Gaerdydd Gryfach, Decach a Gwyrddach a'r strategaeth i helpu i'w chyflawni dros y pum mlynedd nesaf a ddatgelwyd gan arweinydd y ddinas yr wythnos diwethaf wedi'i chymeradwyo gan Gabinet y Cyngor.

Bydd y Cynghorydd Huw Thomas, arweinydd Cyngor Caerdydd, yn rhannu'r weledigaeth gyda rhanddeiliaid gwadd a phartneriaid yn y ddinas mewn digwyddiad yng Ngwesty Parkgate, Caerdydd ddydd Mawrth 19 Gorffennaf, lle bydd yn dweud wrth westeion ei fod yn benderfynol o adeiladu economi pwerdy yng Nghaerdydd a all fod o fudd i bawb wrth i'r argyfwng costau byw frathu.

Dywedodd y Cynghorydd Thomas: "Yn ôl yn 2017 lansiwyd ein gweledigaeth polisi Uchelgais Prifddinas a thros y pum mlynedd nesaf gwnaethom gynnydd mawr, gan ddod â mwy o swyddi gwell i'r ddinas, adeiladu ysgolion newydd a gwella safonau addysg, ond mae'r byd wedi newid yn sylweddol dros y cyfnod hwn.

"Creodd pandemig Covid-19 broblemau newydd a gwaethygu'r heriau presennol ac, yn fwy diweddar, mae'r rhyfel yn Wcráin wedi bygwth ymestyn yr argyfwng costau byw presennol. Gyda'r gwaethaf o'r pandemig y tu ôl i ni mae'n bryd canolbwyntio ar arwain adferiad ledled y ddinas - a dyna pam rydym yn paratoi i lansio agenda bolisi pum mlynedd newydd, 'Cryfach, Tecach, Gwyrddach,' ar gyfer y ddinas. Bydd y Cabinet yn ystyried yr agenda bolisi newydd hon yn ei gyfarfod nesaf ddydd Iau, 14 Gorffennaf, a ddydd Mawrth, 19 Gorffennaf, byddaf yn nodi ein gweledigaeth ar gyfer Caerdydd i bartneriaid a rhanddeiliaid y ddinas mewn digwyddiad yng nghanol y ddinas."

Mae'r strategaeth yn cynnwys cyfraniadau gan holl aelodau Cabinet y cyngor sy'n amlinellu sut y byddant yn helpu i'w gyflawni a'i weithredu drwy 10 portffolio o gyfrifoldeb.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/29460.html

Cyngor Caerdydd i ehangu rhaglen Dechrau'n Deg i blant

Bydd Cyngor Caerdydd yn ehangu rhaglen 'Dechrau'n Deg' flaenllaw Llywodraeth Cymru i rannau newydd o'r ddinas a chyrraedd 400 o blant ychwanegol hyd at dair oed.

Bydd teuluoedd sydd newydd gymhwyso yn cael cynnig o ofal plant wedi'i ariannu ar gyfer eu plant dwyflwydd oed yn ogystal â chymorth iechyd a rhianta uwch o'u genedigaeth.

Bwriad y cynllun, a gyflwynwyd gyntaf yng Nghymru yn 2006, yw gwella iechyd a chyfleoedd bywyd plant mewn ardaloedd difreintiedig drwy gynnig amrywiaeth o fanteision drwy wasanaeth Cymorth Cynnar a byrddau iechyd y cyngor. Mae'r rhain yn cynnwys:

  •  Ymweliadau Iechyd Gwell
  • Gofal plant o ansawdd uchel am ddwy awr a hanner, bum diwrnod yr wythnos dros y flwyddyn ysgol
  • Cymorth rhianta, gan gynnwys cymorth un-i-un yn y cartref
  • Nodi plant ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) yn gynnar

Darllenwch fwy yma:https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/29462.html

Ehangu Ysgol Gynradd Pentyrch yn symud gam yn nes

Mae cynlluniau uchelgeisiol i gynyddu nifer y disgyblion yn Ysgol Gynradd Pentyrch a sefydlu 32 o leoedd mewn uned feithrin newydd ar gyfer plant tair oed wedi symud gam yn nes.

Ar ôl i broses ymgynghori eang o'r cyhoedd ar y newidiadau arfaethedig ddigwydd yn y gaeaf, cyhoeddwyd y cynlluniau ym mis Mai.

Nawr mae Cabinet y Cyngor wedi adolygu'r gwrthwynebiadau yn ei gyfarfod ddydd Iau 14 Gorffennaf a chymeradwyo'r gwaith sy'n mynd rhagddo.

Darllenwch fwy yma:https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/29406.html

Caerdydd i elwa o ehangu'r ddarpariaeth anghenion addysgol arbennig

Bydd disgyblion o bob rhan o Gaerdydd yn elwa o ehangu'r ddarpariaeth addysg anghenion dysgu ychwanegol ac arbennig, a fydd yn creu mwy na 270 o leoedd ychwanegol dros y blynyddoedd nesaf.

Cynhaliwyd ymgynghoriad cynhwysfawr ar y sector anghenion arbennig dros y gaeaf ac mae Cyngor Caerdydd bellach wedi cwblhau'r cyfnod rhybudd statudol ar gyfer wyth cynnig. Ar ôl derbyn dau wrthwynebiad yn unig, cymeradwyodd Cabinet y Cyngor y cynlluniau yn ei gyfarfod ddydd Iau (Gorffennaf 14).

Wrth wraidd y cynllun mae creu mwy na 200 o leoedd ychwanegol mewn wyth ysgol ar draws y ddinas, drwy sefydlu:

  • canolfan ag 20 lle ar gyfer plant oedran cynradd ag anghenion dysgu cymhleth (ADC) yn Ysgol Gynradd Moorland (o fis Medi 2023)
  • canolfan â 30 lle ar gyfer dysgwyr ag ADC yn Ysgol Uwchradd Willows (o fis Medi 2023), a
  • chanolfan â 30 lle yn Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf ar gyfer dysgwyr ag awtistiaeth, ochr yn ochr â'r ganolfan bresennol (o fis Medi 2023), a chynyddu
  • nifer y lleoedd ar gyfer dysgwyr ag awtistiaeth o 20 i 45 yn Ysgol Uwchradd Llanisien (o fis Medi 2022)
  • nifer y disgyblion yn Ysgol Arbennig Tŷ Gwyn o 198 i 240 (o fis Medi 2022)
  • nifer y disgyblion yn Ysgol Arbennig The Hollies o 90 i 119 (o fis Medi 2022) ac o 119 i 150 (Medi 2023)
  • nifer y disgyblion ag ADC yn Ysgol Gynradd Llanisien Fach o 20 i 30 (o fis Medi 2023), a
  • nifer y lleoedd ar gyfer dysgwyr ag awtistiaeth yn Ysgol Gynradd Pentre-baen o 20 i 24 (o fis Medi 2022)

Darllenwch fwy yma:https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/29408.html