15/07/22
Mae arbenigwyr yn Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rhybuddio pobl i gymryd gofal ychwanegol yn y gwres llethol sy'n cael ei ragweld dros y dyddiau nesaf. Mewn rhai rhannau o Gymru, disgwylir i'r tymheredd gyrraedd 30-35 gradd selsiws erbyn dydd Llun. Gall tywydd poeth iawn sy'n para am ychydig ddiwrnodau, neu fwy, achosi dadhydradu, gorgynhesu, gorludded gwres a thrawiad gwres. Mae'n bwysig iawn gofalu am blant, yr henoed a'r rhai sydd â chyflyrau iechyd sy'n bodoli eisoes. Cysylltwch yn rheolaidd ag anwyliaid, ffrindiau, teulu a chymdogion.
Cynghorir eich bod yn gwneud newidiadau i'ch trefn arferol er mwyn ymdopi â'r gwres llethol. Mae hyn yn cynnwys osgoi gweithgarwch egnïol yng nghanol y dydd pan fydd yr haul ar ei boethaf, yfed digon o ddŵr a gwisgo het, eli haul a dillad lliw golau, llac, yn ddelfrydol gyda llewys hir. Cadwch ystafelloedd yn oerach drwy gau bleindiau a llenni a chau ffenestri.
Meddai Sarah Jones, Ymgynghorydd mewn Iechyd Cyhoeddus Amgylcheddol yn Iechyd Cyhoeddus Cymru; "Nid ydym yn gyfarwydd â gwres llethol yng Nghymru, felly mae'n bwysig nad yw pobl yn ei drin fel diwrnod poeth arall yn unig. Dylech gymryd gofal ychwanegol i ddilyn y cyngor iechyd i ddiogelu eich hun ac eraill."
Meddyliwch yn ofalus cyn i chi ymgymryd â gweithgareddau a chynlluniwch ymlaen llaw bob amser. Os ydych yn cynnal digwyddiad awyr agored, sicrhewch eich bod wedi gwneud asesiad risg sy'n cynnwys y tywydd eithafol.
Gall plant ifanc ei chael yn anodd rheoleiddio tymheredd eu corff, felly cymerwch ofal i'w cadw'n oer. Peidiwch â gorchuddio pramiau neu fygis babanod â blancedi neu lieiniau - mae hyn yn atal aer rhag cylchredeg a gall ei wneud yn boethach iddynt. Os yw'r rhai bach yn cysgu mewn ystafell sy'n anodd ei hoeri, defnyddiwch ddillad gwely a dillad ysgafnach ac agor y drws a ffenestr, os yw'n ddiogel gwneud hynny.
Os ydych yn teimlo'n benysgafn, yn wan, yn bryderus neu'n profi syched dwys a phen tost/cur pen yn ystod y tywydd poeth, rhowch wybod i rywun a chymryd y camau gweithredu canlynol.
Mae'n bwysig gwybod symptomau trawiad gwres. Ffoniwch 999 os credwch fod rhywun yn cael trawiad gwres, gan ei fod yn argyfwng meddygol. Os ydych yn pryderu am unrhyw symptomau rydych chi, neu rywun rydych yn ei adnabod yn eu profi, cysylltwch â'ch meddyg teulu neu Galw Iechyd Cymru ar0845 4647.
Symptomau trawiad gwres
Gall y tymheredd uchel ei gwneud yn demtasiwn neidio i afonydd, llynnoedd a dŵr arall, ond gall y dŵr fod yn oer iawn o hyd ac mae perygl o ddioddef sioc dŵr oer. Os byddwch yn mynd i drafferth yn y dŵr, cofiwch #Arnofio i Fyw. Mae peryglon boddi hefyd yn uwch os yw pobl wedi bod yn yfed neu'n cymryd cyffuriau.
Mae rhagor o wybodaeth am wres eithafol ar gael ein tudalennau tywydd poeth.