14.07.22
Mae'n ddathliad nodweddiadol i Brifysgol Caerdydd – ar ôl
misoedd o ddysgu, mae byrddau morter yn cael eu taflu yn yr awyr gan fyfyrwyr
ifanc wedi'u gwisgo mewn gynau ffurfiol tra bod rhieni balch yn eu gwylio ac yn
gwenu.
Serch hynny, mae rhywbeth braidd yn wahanol am yr olygfa raddio hon – mae'r holl bobl ifanc yn ddisgyblion ysgol gynradd yng Nghaerdydd sydd wedi cymryd rhan mewn cynllun newydd gyda’r nod o annog a datblygu cariad at ddysgu.
Mae'r rhaglen Pasbort i'r Ddinas yn ymrwymiad allweddol yn strategaeth 'Cryfach, Tecach, Gwyrddach’. Ei nod yw sicrhau bod pobl ifanc o bob cefndir yn gallu mwynhau holl amwynderau Caerdydd.
Fe'i cyflwynir trwy Brifysgol y Plant newydd y cyngor yng Nghaerdydd, partneriaeth newydd rhwng ysgolion y cyngor, elusen Prifysgol y Plant a Phrifysgol Caerdydd.
Bydd y digwyddiad graddio heddiw yn lansio rhaglen Caerdydd yn ffurfiol ac yn dathlu llwyddiant dros 400 o blant o Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru y Santes Fair yn Butetown, Ysgol Gynradd Sain Ffagan, Ysgol Gynradd Peter Lea yn y Tyllgoed ac Ysgol Gynradd Windsor Clive yn Nhrelái sydd wedi cymryd rhan mewn cynlluniau peilot dros y flwyddyn ddiwethaf.
Roedd y rhain yn galluogi disgyblion i gymryd rhan mewn mwy na 90 o wahanol weithgareddau, megis dosbarthiadau ffitrwydd, gwersi celf a cherddoriaeth a modiwlau gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg (STEM) yn ogystal â chyrsiau dylunio diwylliannol a graffeg. Wrth i'r plant gymryd rhan, cofnodwyd eu gweithgareddau mewn Pasbort i'r Ddinas a arweiniodd yn y pen draw at seremoni raddio a gynhaliwyd yng Nghanolfan Bywyd Myfyrwyr newydd Prifysgol Caerdydd, gyda’r 20% uchaf o gyfranogwyr ym mhob ysgol yn bresennol.
Dywedodd Nicki Prichard, pennaeth Ysgol y Santes Fair, fod y cynllun wedi bod yn llwyddiant mawr. "Cymerodd tua 100 o'n disgyblion Blynyddoedd Tri i Chwech ran ac mae wedi mynd yn dda iawn. Cawsom ymweliadau anhygoel gan yr Athro Paul Roche a ddangosodd delesgopau a chamerâu is-goch i ni ac a roddodd ddealltwriaeth newydd o’r gofod i'n plant.
"Yr un mor bwysig, roedd sesiynau Prifysgol y Plant yn helpu ein plant i ddysgu am greadigrwydd, gwaith tîm a phwysigrwydd cydweithio."
Mae'r ysgol, sydd ymhlith y rhai mwyaf amrywiol o ran ethnigrwydd yn y ddinas ac sydd â 75% o ddisgyblion â Saesneg fel iaith ychwanegol, wedi ennill statws Ysgol Noddfa yn ddiweddar, i gydnabod ei gwaith gyda phlant sy'n ffoaduriaid. "Roedd y rhieni i gyd yn croesawu'r cyfle i gymryd rhan yng nghynllun Prifysgol y Plant," meddai Nicki, "ac rydym yn llwyr fwriadu parhau ag ef y flwyddyn nesaf – dim ond dechrau'r daith yw hyn. Rydyn ni'n agor llygaid ein disgyblion i gynifer o bethau newydd."
Dywedodd yr Athro Les Baillie, o Brifysgol Caerdydd, ei fod yn falch iawn o fod yn rhan o'r cynllun: "Er bod Prifysgol Caerdydd yn cynrychioli ein dinas ar lwyfan y byd, mae ganddi hefyd rôl i'w chwarae yn cefnogi pobl ifanc Caerdydd," meddai. "Mae Prifysgol y Plant yn rhoi cyfleoedd i blant lleol ennill sgiliau academaidd a allai eu galluogi i astudio yn eu prifysgol ryw ddydd."
Dywedodd y Cynghorydd Sarah Merry, Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau Cyngor Caerdydd, "Rwyf wrth fy modd bod yr ysgolion wedi bod mor frwd wrth groesawu'r cynllun ac rydym nawr yn bwriadu ei estyn i roi cyfle i bob ysgol yng Nghaerdydd gymryd rhan o fis Medi ymlaen. Rydym hefyd yn ehangu’r amrywiaeth o weithgareddau y bydd plant a phobl ifanc yn gallu cymryd rhan ynddynt, gan ddefnyddio'r rhwydwaith cynyddol o bartneriaid trwy Addewid Caerdydd.
"Mae sicrhau bod Caerdydd yn lle gwych i gael eich magu yn parhau’n uchel ar ein hagenda, a thrwy wneud y defnydd gorau posibl o adnoddau'r ddinas a'r cyfleoedd gwych sydd ar gael, gallwn ymgysylltu â phlant a phobl ifanc trwy ddarpariaeth hynod amrywiol, y gall rhannau ohoni fod y tu hwnt i’w cyrraedd fel arfer.
"Mae'r cynllun hwn hefyd
yn gwneud cyfraniad perffaith at gais y cyngor i fod y Ddinas sy’n Dda i Blant
gyntaf yn y DU."