13.07.22
Weithiau gall y byd ymddangos fel ei fod yn cael ei redeg
gan oedolion ar gyfer oedolion... tra bod y bobl ifanc sy’n ffocws y dyfodol
naill ai'n cael eu hanwybyddu neu mae eu barn yn cael ei gwrthod yn gyfan gwbl.
Nawr, mae Cyngor Caerdydd yn ceisio newid y canfyddiad hwn trwy roi cyfle i bobl ifanc gymryd rhan uniongyrchol yn y ffordd y caiff addysg y ddinas ei llunio dros y 10 mlynedd nesaf.
Mae Pŵer i’r Bobl: Rhaglen Dylanwadwyr Caerdydd 2022 yn fenter newydd gyda’r nod o sefydlu fforwm o bobl ifanc yn eu harddegau iau o bob rhan o'r ddinas a rhoi llwyfan iddynt a'r gallu i lunio strategaeth a dylanwadu ar sut bydd yr awdurdod yn buddsoddi miliynau o bunnoedd mewn addysg ledled y ddinas.
Dywedodd y Cynghorydd Sarah Merry, Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau’r Cyngor, "Mae Caerdydd wedi ymrwymo i fod yn Ddinas sy'n Dda i Blant a gydnabyddir yn rhyngwladol ac mae'r rhaglen Dylanwadwyr yn cyd-fynd yn agos â hynny.
"Rydym am glywed barn pobl ifanc, sy’n hanfodol cyn i'r penderfyniadau mawr gael eu gwneud," ychwanegodd. "Mae hynny'n golygu eu cael nhw i gymryd rhan o'r dechrau mewn materion fel sut a ble mae adeiladau ysgolion yn cael eu codi a beth ddylai fod ar y cwricwlwm."
Mae'r Cyngor am recriwtio tua 30 o bobl rhwng 13 a 14 oed i'r cynllun a fydd yn dechrau gydag ysgol haf wythnos o hyd yn Neuadd y Sir ym Mae Caerdydd o ddydd Llun 15 Awst i ddydd Gwener, 19 Awst. Darperir cinio am ddim bob dydd, ynghyd â chludiant i'r rhai sydd ei angen.
Bydd uchafbwyntiau'r wythnos yn cynnwys:
Dywedodd y Cynghorydd Merry: "Gall y rhai sy'n ymuno â'r cynllun gymryd rhan yn yr ysgol haf yn unig ond rydym yn gobeithio y bydd llawer yn dewis parhau drwy gydol y flwyddyn. Mae gennym ddigwyddiadau yn yr arfaeth ar gyfer hanner tymor mis Hydref a mis Chwefror pan fyddwn yn dadansoddi strategaeth addysg y cyngor ac yn ystyried y blaenoriaethau mwyaf uniongyrchol o ran sut rydym yn gwario mwy na £250m yn ein hysgolion."
Er mwyn sicrhau cyfansoddiad amrywiol o'r grŵp, gofynnwyd i bob ysgol ledled y ddinas hyrwyddo'r rhaglen i'w disgyblion ac mae grwpiau ieuenctid, gweithwyr ieuenctid a gweithwyr cymdeithasol hefyd wedi cymryd rhan mewn recriwtio aelodau fforymau.
Ond gwahoddir pobl ifanc hefyd i gynnig cymryd rhan yn y
rhaglen trwy lenwi ffurflen ar y wefan hon – https://tinyurl.com/4vr73ct6