Back
Adroddiad Diweddariad y Gyllideb 2023/24 - Cwestiynau ac Atebion


Beth yw Adroddiad Diweddariad y Gyllideb?

Rhaid i Awdurdodau Lleol bennu eu cyllideb erbyn 11 Mawrth bob blwyddyn.  Mae'r Adroddiad hwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am ein cynllunio ar gyfer Cyllideb 2023/24 (Refeniw a Chyfalaf).

 

Y Gyllideb Refeniw

Beth yw'r Gyllideb Refeniw?

  • Mae'r gyllideb refeniw yn nodi'r hyn y mae'r Cyngor yn bwriadu ei wario ar wasanaethau o ddydd i ddydd. 
  • Mae'r rhain yn cynnwys cynnal ysgolion, gofalu am bobl sy'n agored i niwed, casglu gwastraff, cynnal a chadw priffyrdd a pharciau a gweithredu llyfrgelloedd a lleoliadau diwylliannol. 
  • Rhaid i'r gyllideb refeniw hefyd nodi sut y caiff y cynlluniau gwariant hyn eu hariannu.
  • Mae rhai gwasanaethau'n cynhyrchu incwm i helpu i dalu eu costau (fel derbyniadau theatr), ac weithiau rydym yn derbyn grantiau ar gyfer gweithgareddau penodol - gelwir hyn yn incwm sy'n benodol i wasanaethau.
  • Ar ôl ystyried incwm sy'n benodol i wasanaethau, ariennir ein costau sy'n weddill (y Gyllideb Refeniw Net) o'r Grant Cyffredinol (73%) a'r Dreth Gyngor (27%).   

 

Sut ydych chi'n paratoi'r Gyllideb Refeniw?

  • Yn gryno rydym yn:
  • Amcangyfrif cost darparu gwasanaethau'r flwyddyn nesaf
  • Cymharu hyn â'r arian y disgwyliwn ei dderbyn y flwyddyn nesaf 
  • Os yw'r costau amcangyfrifedig yn fwy na'r arian, yna mae gennym "Fwlch yn y Gyllideb".

 

Beth sy'n digwydd os oes Bwlch yn y Gyllideb?

  • Yn ôl y gyfraith, mae'n ofynnol i'r Cyngor gynhyrchu cyllideb gytbwys.  Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i ni gydbwyso gwariant a chyllid - rhaid iddynt gyfateb.
  • Gellir gwneud hyn drwy:
  • Leihau gwariant (arbed arian)
  • Cynyddu incwm (ar gyfer gwasanaethau penodol)
  • Adolygu lefel y Dreth Gyngor
  • Ystyried defnyddio cronfeydd wrth gefn clustnodedig - er nad yw hwn yn ateb hirdymor

 

A oes Bwlch yng Nghyllideb 2023/24?

  • Oes, amcangyfrifir bod bwlch cyllideb o £29 miliwn ar gyfer 2023/24
  • Mae hyn yn adlewyrchu costau ychwanegol amcangyfrifedig o £48.6 miliwn a chyllid o £19.6 miliwn.

 

Beth yw'r £19.6 miliwn ychwanegol yr ydych yn ei ddisgwyl?

  • Mae £19.1 miliwn yn grant cyffredinol a bwriedir defnyddio £0.5 miliwn o gronfeydd wrth gefn. 
  • Bydd penderfyniadau ar unrhyw gynnydd yn y dreth gyngor yn cael eu hadolygu'n gyson.

 

A oes unrhyw risgiau i lefelau ariannu?

  • Oes, mae'r cynnydd grant o £19.1 miliwn yn "ddyraniad dangosol" y mae Llywodraeth Cymru wedi'i roi i Gynghorau Cymru - cynnydd o 3.5% ar ein grant presennol.
  • Mae perygl y gallai hyn newid - yn enwedig gyda'r heriau economaidd presennol.
  • Bydd gennym syniad cadarnach pan fyddwn yn derbyn "Setliad Cyllid Llywodraeth Leol Dros Dro" ar gyfer 2023/24. Mae hyn yn debygol o fod naill ai ym mis Hydref neu fis Rhagfyr - dydyn ni ddim yn gwybod yn siŵr eto.  Effeithir ar hyn gan Lywodraeth Cymru yn cael ei hysbysiad ariannu ei hun gan Lywodraeth y DU (Grant Bloc Cymru).

 

Beth yw'r costau ychwanegol o £48.6 miliwn yr ydych yn eu disgwyl?

  • Mae'r £48.6 miliwn yn cynnwys:
  • £17.4 miliwn ar gyfer chwyddiant prisiau amcangyfrifedig. Rydym yn disgwyl cynnydd sylweddol yng nghost ynni a ddefnyddir i bweru goleuadau stryd, ysgolion a'r ystâd ehangach. Rydym yn rhagweld y bydd cost tanwydd i redeg ein cerbydau yn cynyddu. Rydym hefyd yn cydnabod y bydd angen i'n cyflenwyr drosglwyddo eu cynnydd eu hunain mewn costau i'r prisiau y maent yn eu codi arnom. Mae hyn yn cynnwys effaith codiadau yn y Cyflog Byw Gwirioneddol ar y pris a dalwn am ofal.
  • £8.8 miliwn ar gyfer y cynnydd a ragwelir yn y galw.Mae hyn yn cynnwys cynnydd yn nifer y bobl sydd angen ein cymorth yn y maes Gofal Cymdeithasol i Oedolion a Phlant. Mae'n cynnwys costau sy'n gysylltiedig ag addysg fel cynyddu nifer y disgyblion, anghenion gwahanol disgyblion, cost ysgolion mewn Ardaloedd Cynllun Datblygu Lleol, a phwysau cludiant ysgol. Gwyddom hefyd y bydd digartrefedd yn faes allweddol i'w adolygu'n barhaus o ran y galw.
  • £13.6 miliwn ar gyfer dyfarniadau cyflog amcangyfrifedig.  Mae hyn yn adlewyrchu rhagdybiaeth dyfarniad cyflog o 3% ar gyfer staff y Cyngor (gan gynnwys athrawon)
  • £8.8 miliwn ar gyfer pwysau eraill. Maehyn yn cynnwys y costau sy'n gysylltiedig ag ariannu'r rhaglen gyfalaf, cyllid ychwanegol ar gyfer cynnal a chadw asedau, a chynnydd mewn ardollau y mae'r Cyngor yn eu talu (e.e. i Wasanaeth Tân De Cymru).  Mae'r swm hwn hefyd yn cynnwys £3.5 miliwn ar gyfer pwysau sy'n dod i'r amlwg gan fod cymaint o ansicrwydd ar hyn o bryd. 

 

A yw'r £48.6 miliwn yn debygol o newid?

  • Ydy, mae hon yn risg wirioneddol a dyna pam rydym wedi cynnwys £3.5 miliwn ar gyfer pwysau sy'n dod i'r amlwg.
  • Mae rhywfaint o ansicrwydd bob amser wrth geisio rhagweld y galw, a bydd angen i ni barhau i adolygu hyn yn fanwl.
  • Fodd bynnag, eleni, yn fwy felly nag mewn blynyddoedd blaenorol, mae'r hinsawdd economaidd yn chwarae rhan fawr iawn yn lefel yr ansicrwydd.
  • Mae chwyddiant ar ei uchaf ers 40 mlynedd, ac mae'r rhagolygon wedi bod yn newidiol.  Mae chwyddiant yn effeithio ar ddyfarniadau cyflog tebygol, cost ynni a thanwydd, a'r gost a dalwn am wasanaethau, fel ein gwariant o £120+ miliwn ar ofal a gomisiynir. Rydym hefyd yn cydnabod yr effaith y mae'r argyfwng costau byw yn ei chael ar ein dinasyddion, ac y gallai hyn gynyddu'r angen am wasanaethau.
  • Un o'r ffyrdd y mae Banc Lloegr yn ceisio rheoli'r gyfradd chwyddiant yw drwy gynyddu cyfraddau llog, a gall hyn effeithio ar gost ariannu ein rhaglen gyfalaf.
  • Yn olaf, mae cryn ddyfalu y gallai'r DU fod yn wynebu dirwasgiad, a gallai hyn olygu tynhau cyllid sector cyhoeddus yn y dyfodol.

 

Beth am COVID-19?

  • Cafodd y pandemig effaith ariannol fawr ar y Cyngor. Helpodd cymorth sylweddol gan Gronfa Galedi COVID-19 Llywodraeth Cymru i dalu am gostau ychwanegol ac incwm a gollwyd. Daeth y Gronfa i ben ar 31 Mawrth 2022.
  • Roedd dibyniaeth Caerdydd ar y gronfa wedi lleihau'n sylweddol erbyn diwedd 2021/22, ond mae heriau o'n blaenau o hyd, yn enwedig o ran incwm sy'n benodol i wasanaethau, ac felly creodd Cyllideb 2022/23 gyllideb COVID o £10 miliwn.
  • Pan fydd hi'n synhwyrol gwneud hynny, byddwn yn cynllunio i leihau'r gyllideb o £10 miliwn. Fodd bynnag, ar hyn o bryd, mae'n rhy gynnar i wneud y penderfyniad hwnnw.

 

A oes sefyllfa debyg mewn blynyddoedd diweddarach?

  • Oes, amcangyfrifir mai £91 miliwn yw cyfanswm y bwlch yn y gyllideb dros y pedair blynedd nesaf.
  • Nodir hyn yng Nghynllun Ariannol Tymor Canolig (CATC) y Cyngor ac fe'i crynhoir isod:

2023/24

£m

2024/25

£m

2025/26

£m

2026/27

£m

Cyfanswm

£m

29.1

24.5

18.8

18.2

90.6

 

 

Sut y bydd y bwlch hwn yn cael ei bontio?

  • Mae'r tabl isod yn nodi dull gweithredu amlinellol - bydd angen talu am y bwlch i raddau helaeth o arbedion - £70 miliwn.
  • Er bod y bwlch yn y gyllideb wedi cynyddu, mae cynnydd yn y Dreth Gyngor wedi'i gadw ar y lefelau a fodelwyd yn flaenorol. Maent yn parhau i fod yn dybiaeth fodelu ac yn destun adolygiad parhaus.

 

 

2023/24

£m

2024/25

£m

2025/26

£m

2026/27

£m

Cyfanswm

£m

Treth Gyngor - modelu yn unig - 3%

4.9

5.1

5.2

5.4

20.6

Arbedion

24.2

19.4

13.6

12.8

70.0

CYFANSWM

29.1

24.5

18.8

18.2

90.6

 

Beth sy'n digwydd nesaf?

  • Byddwn yn parhau i adolygu'r bwlch yn y gyllideb â llygad barcud - gall pethau newid yn gyflym, ac mae adolygu'r sefyllfa yn rheolaidd yn rhan bwysig o fod yn barod.
  • Byddwn yn datblygu gwaith ar gynigion arbed dros yr haf.
  • Byddwn yn gweithredu arbedion effeithlonrwydd (arbedion nad ydynt yn effeithio ar wasanaethau) yn gynnar lle bo hynny'n bosibl ac yn briodol. 
  • Bydd cynnydd, ac eglurder pellach ar gyllid, yn cael ei adrodd yn ddiweddarach eleni i lywio ymgynghoriad ar Gyllideb 2023/24.

 

 

Y Rhaglen Gyfalaf

Beth yw gwariant cyfalaf?

  • Mae gwariant cyfalaf yn cyfeirio at gaffael neu wella asedau.  Mae ganddo ffocws tymor hwy na gwariant refeniw.
  • Mae enghreifftiau o wariant cyfalaf yn cynnwys adeiladu ysgol newydd neu ailosod wynebau priffyrdd.

 

Beth yw'r Rhaglen Gyfalaf?

  • Mae'r rhaglen gyfalaf yn nodi ein cynlluniau gwariant a sut y byddwn yn talu amdanynt dros gyfnod o bum mlynedd. Mae'n alinio ag amcanion y Cyngor ac mae'n rhaglen fuddsoddi i ymateb i'r heriau hirdymor sy'n wynebu'r ddinas.
  • Mae'r rhaglen bresennol yn cynnwys cymorth ar gyfer adfywio'r ddinas, moderneiddio adeiladau ysgol, ymateb i'r argyfwng hinsawdd a darparu rhaglen adeiladu tai sylweddol.

 

Pa gyfnod y mae'r rhaglen bresennol yn ei gwmpasu?

  • Cymeradwyodd y Cyngor y rhaglen gyfalaf pum mlynedd gyfredol ym mis Mawrth 2022. Pennodd hyn y rhaglen ar gyfer 2022/23 yn ogystal â rhaglen ddangosol tan 2026/27. 
  • Nawr mae angen i ni gynllunio ar gyfer pennu rhaglen 2023/24. Mae angen i ni hefyd ddiweddaru blynyddoedd diweddarach y rhaglen ddangosol, a'i hymestyn i gwmpasu 2027/28.

 

Sut ydych chi'n cynllunio ar gyfer prosiectau cyfalaf?

  • Mae maint a chymhlethdod cynlluniau cyfalaf yn golygu bod ystod eang o ffactorau i'w hystyried - mae hyn yn gofyn am achosion busnes cadarn ac asesiadau hyfywedd. 
  • Mae'n hanfodol bod yr holl risgiau allweddol yn cael eu deall yn llawn cyn cychwyn ar brosiect. 

 

Sut y telir am wariant cyfalaf?

  • Mae cynghorau'n derbyn arian grant (penodol a chyffredinol) i gefnogi gwariant cyfalaf. Mae hyn yn debyg i'r Gyllideb Refeniw, ond mae rhai gwahaniaethau pwysig iawn hefyd.
  • Un o'r rhain yw bod rheolau'n caniatáu i Gynghorau fenthyca er mwyn ariannu gwariant cyfalaf -cyn belled â bod y benthyca hwnnw'n cael ei ystyried yn fforddiadwy, yn gall ac yn gynaliadwy.
  • Un arall yw y gall cynghorau hefyd ariannu gwariant cyfalaf trwy werthu asedau a defnyddio'r enillion - sef derbyniadau cyfalaf.

 

Beth yw'r sefyllfa o ran benthyca?

  • Mae benthyca yn rhoi pwysau ar y gyllideb refeniw. Y rheswm dros hyn yw bod yn rhaid i'r Cyngor ad-dalu dyled gyda llog. Gelwir y gyllideb refeniw yr effeithir arni yn "gyllideb ariannu cyfalaf".
  • Yn gyffredinol, mae pob £1m o wariant cyfalaf yn rhoi pwysau ychwanegol o £75,000 ar y gyllideb refeniw. Mae hyn yn rhagdybio y bydd yr ased yn para amser hir (25 mlynedd). Mae'r effaith ar refeniw yn uwch os na ddisgwylir i asedau bara mor hir â hynny.
  • Mae ariannu cyfalaf eisoes yn gyfran sylweddol o'r gyllideb refeniw. Hyd yn oed heb fenthyca pellach, bydd y gyllideb hon yn cynyddu dros y tymor canolig.
  • Mae hyn yn ystyriaeth allweddol wrth farnu a yw unrhyw fenthyca pellach yn fforddiadwy - oherwydd bod y gyllideb refeniw eisoes o dan bwysau sylweddol.

 

Beth yw'r sefyllfa o ran derbyniadau cyfalaf?

  • Gall gwerthu asedau: 
  • Ddarparu arian i gefnogi'r rhaglen gyfalaf.
  • Lleihau costau refeniw sy'n gysylltiedig â chynnal a chadw a gweithredu asedau.
  • Mae'r rhaglen gyfalaf bresennol eisoes yn cynnwys targedau heriol o ran derbyniadau cyfalaf.  Mae diweddariadau i'r targed derbyniadau wedi'u cynnwys yn y cynllun eiddo blynyddol.
  • Mae cynlluniau buddsoddi cyfalaf yn cynnwys nifer o brosiectau datblygu mawr yn seiliedig ar dderbyniadau cyfalaf yn cyfrannu at eu cost. Gall fod risg lle mae gwariant yn dechrau cyn i dderbyniadau gael eu gwireddu, a bydd angen adolygu hyn yn rheolaidd fel rhan o'r cynllun eiddo blynyddol.

 

Beth fyddwch chi'n ei ystyried wrth ddiweddaru'r rhaglen gyfalaf?

  • Yr ystyriaeth allweddol yw fforddiadwyedd.
  • Heb fawr ddim cyfle i gynyddu benthyciadau neu dderbyniadau cyfalaf i ariannu cynlluniau, bydd angen i ni flaenoriaethu.
  • Bydd angen i ni hefyd feddwl am ffactorau economaidd a allai effeithio ar gostau cynlluniau. Bydd hyn yn cynnwys pethau fel problemau cyflenwi deunyddiau, costau adeiladu cynyddol, argaeledd cyflenwyr a'r potensial i gynyddu cyfraddau llog i effeithio ar gost benthyca.
  • Mae'r Cyngor wedi bod ac yn parhau i fod yn llwyddiannus wrth wneud ceisiadau am grantiau allanol i gefnogi cynlluniau penodol. Mae hon yn ffordd hanfodol o gefnogi fforddiadwyedd cyffredinol - ond weithiau mae trefniadau ymgeisio ar gyfer y ffrydiau ariannu hyn yn ei gwneud yn anodd cynllunio yn yr hirdymor.

 

A oes unrhyw beth arall a allai effeithio ar gynlluniau?

  • Neilltuwyd cyllid i gynnal dadansoddiad dichonoldeb mewn perthynas â sawl cynllun sy'n gysylltiedig â'r Papur Gwyn Trafnidiaeth, y Pentref Chwaraeon Rhyngwladol, y Strategaeth Swyddfa Graidd, Ysgolion yr 21ain Ganrif ac ymateb i'r argyfwng hinsawdd.
  • Mae'r rhain yn cynnwys 
  • Gwell opsiynau o ran darparu gwasanaethau o leoliadau amgen i'r cartref cŵn
  • Adolygiad o'r Cyfleuster Ailgylchu Deunyddiau
  • Sicrhau lle claddu cynaliadwy yn y ddinas
  • Gweithio gyda phartneriaid i sicrhau cyllid i greu Ardal Ieuenctid
  • Opsiynau ynghylch: ôl-groniadau gwaith cynnal a chadw megis yn Neuadd Dewi Sant a Neuadd y Ddinas
  • Prosiectau ynni adnewyddadwy yn dilyn arfarniad ôl-brosiect o'r cynlluniau presennol
  • Yn amodol ar gymeradwyo achosion busnes, diwydrwydd dyladwy a fforddiadwyedd, gellir ystyried y rhain i'w cymeradwyo fel rhan o fersiynau'r dyfodol o'r rhaglen fuddsoddi, ar y cyd â blaenoriaethau sy'n dod i'r amlwg.

 

A all rhywfaint o fuddsoddi dalu amdano'i hun drwy arbedion neu ffrydiau incwm newydd?

  • Gall, cynlluniau buddsoddi i arbed (ITS) neu ‘fuddsoddi i ennill' (ITE) yw'r rhain. Mae'r rhain yn gynlluniau lle mae buddsoddiad cyfalaf yn arwain at arbedion neu incwm sy'n helpu i dalu'r costau benthyca. Mae cyfyngiadau ar fuddsoddiadau'r Cyngor mewn prosiectau o fath masnachol e.e. y rhai a wneir yn bennaf ar gyfer adenillion ariannol.
  • Mae achos busnes cadarn yn allweddol i sicrhau bod yr incwm / cynilion yn dod i'r amlwg ar y lefelau sy'n ofynnol i dalu'r costau benthyca. Os na fyddant, mae risg y bydd y gyllideb refeniw yn talu'r costau hynny am flynyddoedd lawer yn y dyfodol.

 

O ystyried yr uchod, beth yw'r dull arfaethedig o ddiweddaru'r rhaglen gyfalaf?

  • Ar gyfer y Gronfa Gyffredinol (meysydd ar wahân i'r Cyfrif Refeniw Tai), ni fydd unrhyw fuddsoddiad newydd oni bai ei fod:
  • Wedi'i ailflaenoriaethu o'r rhaglen bresennol - mewn geiriau eraill mae'n rhaid i rywbeth arall ddisgyn allan / lleihau.
  • Yn mynd gydag arian cyfatebol allanol sylweddol - ac y cadarnhawyd yr arian hwnnw
  • Ar sail buddsoddi i arbed yn dilyn achos busnes a gymeradwywyd gan y Cabinet
  • Os yw cost cynlluniau sydd eisoes wedi'u cynnwys yn y rhaglen ddangosol wedi cynyddu, bydd angen rheoli hyn o fewn y dyraniadau presennol drwy liniaru effeithiau neu adolygu amseru. 
  • Ar gyfer y Cyfrif Refeniw Tai:
  • Bydd angen i fuddsoddiad newydd ystyried modelu fforddiadwyedd cynlluniau busnes hirdymor.
  • Dylai cynlluniau adeiladu newydd fod yn destun asesiadau hyfywedd unigol. 
  • Bydd y dull o bennu rhenti yn ffactor allweddol mewn asesiadau fforddiadwyedd.
  • Bydd yn hanfodol parhau i adolygu'r cynnydd a wneir tuag at dderbyniadau cyfalaf.
  • Dylai'r holl fuddsoddiad arfaethedig fod yn unol â rhaglen gyflawni Cryfach, Tecach a Gwyrddach y cyngor, a dylid ystyried pob ateb amgen ar gyfer ariannu a chyflawni'r un canlyniad cyn ystyried arian ychwanegol gan y Cyngor. Bydd hefyd angen dangos gwerth am arian yn y dull o gyflawni canlyniadau. 

 

Beth nesaf?

  • Gofynnir i Gyfarwyddiaethau ddechrau gyda'r dull a amlinellir uchod, gan ddechrau gydag adolygiad cadarn o'r rhaglen bresennol.