Back
Diweddariad gan Gyngor Caerdydd: 08 Gorffennaf 2022

Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf, sy'n cynnwys: Gwyrddach, Tecach, Cryfach - Adnewyddu'r Uchelgais i Gaerdydd; chwyddiant yn gwasgu ar gyllideb y Cyngor; symud cam yn nes at ehangu Ysgol Gynradd Pentyrch; creu mwy o leoedd mewn addysg anghenion dysgu ychwanegol; Her Ddarllen yr Haf yn ôl am flwyddyn arall; gweithlu dwyieithog ar gyfer prifddinas ddwyieithog; ac rydym wedi datgelu ein polisi gweithwyr asiantaeth newydd. 

 

Cyflawni Caerdydd Gryfach, Decach a Gwyrddach

Mae arweinydd y ddinas wedi datgelu gweledigaeth o Gaerdydd Gryfach, Decach a Gwyrddach a'r strategaeth i helpu i'w chyflawni dros y pum mlynedd nesaf.

Bydd y Cynghorydd Huw Thomas, arweinydd Cyngor Caerdydd, yn rhannu'r weledigaeth gyda rhanddeiliaid gwadd a phartneriaid yn y ddinas mewn digwyddiad yng Ngwesty Parkgate, Caerdydd ddydd Mawrth 19 Gorffennaf, lle bydd yn dweud wrth westeion ei fod yn benderfynol o adeiladu economi pwerdy yng Nghaerdydd a all fod o fudd i bawb wrth i'r argyfwng costau byw frathu.

Dywedodd y Cynghorydd Thomas: "Yn ôl yn 2017 lansiwyd ein gweledigaeth polisi Uchelgais Prifddinas a thros y pum mlynedd nesaf gwnaethom gynnydd mawr, gan ddod â mwy o swyddi gwell i'r ddinas, adeiladu ysgolion newydd a gwella safonau addysg, ond mae'r byd wedi newid yn sylweddol dros y cyfnod hwn.

"Creodd pandemig Covid-19 broblemau newydd a gwaethygu'r heriau presennol ac, yn fwy diweddar, mae'r rhyfel yn Wcráin wedi bygwth ymestyn yr argyfwng costau byw presennol. Gyda'r gwaethaf o'r pandemig y tu ôl i ni mae'n bryd canolbwyntio ar arwain adferiad ledled y ddinas - a dyna pam rydym yn paratoi i lansio agenda bolisi pum mlynedd newydd, 'Cryfach, Tecach, Gwyrddach,' ar gyfer y ddinas. Bydd y Cabinet yn ystyried yr agenda bolisi newydd hon yn ei gyfarfod nesaf ddydd Iau, 14 Gorffennaf, a ddydd Mawrth, 19 Gorffennaf, byddaf yn nodi ein gweledigaeth ar gyfer Caerdydd i bartneriaid a rhanddeiliaid y ddinas mewn digwyddiad yng nghanol y ddinas."

Mae'r strategaeth yn cynnwys cyfraniadau gan holl aelodau Cabinet y cyngor sy'n amlinellu sut y byddant yn helpu i'w gyflawni a'i weithredu drwy 10 portffolio o gyfrifoldeb.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/29402.html

 

Argyfwng costau byw a chwyddiant yn gwasgu ar gyllideb Cyngor Caerdydd

Mae costau cynyddol mewn ynni, bwyd a gwasanaethau yn golygu bod Cyngor Caerdydd yn wynebu diffyg o £29m yn ei gyllideb ar gyfer 2023-24, mae adroddiad newydd wedi rhybuddio.

Wrth i'r cyhoedd frwydro yn erbyn eu hargyfwng costau byw eu hunain, gyda phrisiau petrol a nwy a thrydan yn cyrraedd lefelau digynsail, rhagwelir y bydd chwyddiant yn cyrraedd 11% cyn diwedd yr haf, ac mae'r awdurdod o dan bwysau tebyg.

Ym mis Mawrth datgelodd y cyngor fod ei fwlch cyllidebol ar gyfer 2023-24 - y gwahaniaeth rhwng refeniw ac arian a gafwyd gan y llywodraeth a'r ymrwymiadau gwariant a ragwelwyd ganddo - bron yn £24m. Yn awr, yn ôl diweddariad a gyflwynwyd i aelodau'r Cabinet, mae'r ffigur hwnnw wedi codi i ychydig dros £29m.

Er bod gwariant mewn rhai meysydd wedi gostwng ers mis Mawrth, mae cynnydd o fwy na £10m yn cael ei gyfrif gan gynnydd cyffredinol mewn prisiau, gydag ynni, tanwydd a costau bwyd yn fwyaf arwyddocaol.

Rhagwelir hefyd y bydd y Cyflog Byw Go Iawn, y mae'r cyngor wedi ymrwymo iddo, yn codi ym mis Medi yn unol â chwyddiant, ond bydd codiadau chwyddiant disgwyliedig yn gyffredinol, a adlewyrchir mewn pethau fel costau adeiladu, er enghraifft, hefyd yn cael effaith.

Wrth edrych i'r dyfodol, mae'r diweddariad yn rhagweld y bydd y bwlch yn y gyllideb yn parhau i roi pwysau ar y cyngor, gyda diffyg o tua £24.4m yn 2024-25, gan ostwng i £18.2m yn 2026-27 - cyfanswm o dros £90m dros y pedair blynedd nesaf.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/29396.html

 

Ehangu Ysgol Gynradd Pentyrch yn symud gam yn nes

Mae cynlluniau uchelgeisiol i gynyddu nifer y disgyblion yn Ysgol Gynradd Pentyrch a sefydlu 32 o leoedd mewn uned feithrin newydd ar gyfer plant tair oed wedi symud gam yn nes.

Ar ôl i broses ymgynghori eang o'r cyhoedd ar y newidiadau arfaethedig ddigwydd yn y gaeaf, cyhoeddwyd y cynlluniau ym mis Mai.

Nawr bydd Cabinet y Cyngor yn adolygu'r gwrthwynebiadau yn ei gyfarfod ddydd Iau 14 Gorffennaf ac fe'i hargymhellwyd i gymeradwyo'r gwaith sy'n mynd rhagddo.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/29406.html

 

Caerdydd i elwa o ehangu'r ddarpariaeth anghenion addysgol arbennig

Bydd disgyblion o bob rhan o Gaerdydd yn elwa o ehangu'r ddarpariaeth addysg anghenion dysgu ychwanegol ac arbennig, a bydd y cynigion a argymhellir yn creu mwy na 270 o leoedd ychwanegol dros y blynyddoedd nesaf.

Cynhaliwyd ymgynghoriad cynhwysfawr ar y sector anghenion arbennig dros y gaeaf ac mae Cyngor Caerdydd bellach wedi cwblhau'r cyfnod rhybudd statudol ar gyfer wyth cynnig. Ar ôl derbyn dau wrthwynebiad yn unig, mae pob un o'r cynigion bellach wedi'u hargymell i'w cymeradwyo a bydd Cabinet y Cyngor yn trafod y mater yn ei gyfarfod ddydd Iau nesaf (14 Gorffennaf).

Wrth wraidd y cynllun mae creu mwy na 200 o leoedd ychwanegol mewn wyth ysgol ar draws y ddinas.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/29408.html

 

Galw ar Lyfr-bryfed Caerdydd - Mae Sialens Ddarllen yr Haf yn ôl!

Mae Sialens Ddarllen boblogaidd yr Haf yn ôl yn llyfrgelloedd a hybiau Caerdydd eleni fel rhan o Haf o Hwyl sy'n ceisio ysbrydoli plant yn y ddinas i ddysgu mwy am wyddoniaeth ac arloesedd.

Mae'r her yn rhan o haf llawn hwyl o weithgareddau a digwyddiadau yn llyfrgelloedd a hybiau Caerdydd. Eleni bydd bonws ychwanegol gyda mwy o weithgareddau a digwyddiadau'n cael eu cynnal fel rhan o Brosiect Teclynwyr y rhaglen Haf o Hwyl a gefnogir gan Lywodraeth Cymru.

Mae'r Teclynwyr hefyd yn thema Sialens Ddarllen yr Haf ac unwaith eto gall plant gofrestru a darllen chwe llyfr o'u dewis eu hunain, a chael llawer o hwyl, dros fisoedd yr haf.

Bydd chwe chymeriad ffuglennol - teclynwyr - sy'n dod yn fyw gyda help yr awdur a'r darlunydd plant Julian Beresford - yn defnyddio eu chwilfrydedd a'u synnwyr rhyfeddod i ddeall y wyddoniaeth y tu ôl i amrywiaeth eang o ddiddordebau, o ffasiwn a thechnoleg i goginio a cherddoriaeth.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/29390.html

 

Datblygu gweithlu dwyieithog ar gyfer prifddinas ddwyieithog

Mae Cyngor Caerdydd yn cymryd camau arwyddocaol i ddatblygu gweithlu dwyieithog yn y brifddinas wrth i nifer y cyflogeion sy'n meddu ar sgiliau Cymraeg barhau i gynyddu.

Dros y 12 mis diwethaf, mae nifer y staff sy'n gweithio i'r awdurdod sydd â sgiliau Cymraeg wedi cynyddu gan 8.6% arall ers 2020-21, ac ar hyn o bryd mae'n cynrychioli mwy na 14% o'r gweithlu, ac eithrio ysgolion.

Yn ystod 2021-22, bu cynnydd o 158% hefyd yn nifer y swyddi a hysbysebwyd lle'r oedd sgiliau Cymraeg yn ofyniad hanfodol a chynnydd o fwy na 100% i bron i 650 o swyddi a hysbysebwyd gyda sgiliau Cymraeg yn ddymunol.

Mae'r twf yn cynrychioli'r gwaith sydd ar y gweill i gyflawni'r weledigaeth o Gaerdydd fel brifddinas wirioneddol ddwyieithog, lle mae'r Gymraeg wedi'i gwreiddio yng ngwead bywyd bob dydd, ac ymrwymiad y Cyngor i wneud y sefydliad yn gweithle cynyddol ddwyieithog, er mwyn cefnogi'r nod hwn.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/29404.html

 

Cyngor Caerdydd yn datgelu polisi gweithwyr asiantaeth newydd

Mae Cyngor Caerdydd yn bwriadu gwneud gweithwyr asiantaeth hirdymor yn aelodau parhaol o staff fel rhan o'i ymrwymiad i 'Gwaith Teg Cymru'.

Yn ei Gynllun Corfforaethol diweddaraf, mae'r Cyngor wedi addo lleihau nifer y gweithwyr asiantaeth ar aseiniadau hirdymor.

Dan y polisi newydd, bydd pob gweithiwr asiantaeth sydd wedi bod ar aseiniad parhaus yn yr un gwasanaeth yn y Cyngor am o leiaf bedair blynedd yn cael cynnig contract parhaol heb orfod mynd drwy broses recriwtio, yn amodol ar gamau gwirio cyn cyflogi perthnasol.

Bydd y rhai sydd wedi bod ar aseiniad parhaus yn yr un gwasanaeth am o leiaf ddwy flynedd, ond llai na phedair blynedd, yn cael cynnig contract dros dro. Ar ôl i'r cyflogai gwblhau pedair blynedd - gan ystyried ei wasanaeth drwy asiantaeth a'i wasanaeth dan gontract dros dro - bydd yn cael ei drin fel cyflogai parhaol.

Mae'r polisi newydd hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i reolwyr beidio â defnyddio gweithwyr asiantaeth os ydynt yn credu y bydd yr aseiniad yn fwy na 12 mis o hyd, oni bai y rhoddir cynnig ar bob sianel recriwtio arferol heb lwyddiant.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/29400.html