08/07/22
Bydd disgyblion o bob rhan o Gaerdydd yn elwa o
ehangu'r ddarpariaeth addysg anghenion dysgu ychwanegol ac arbennig, a fydd yn
creu mwy na 270 o leoedd ychwanegol dros y blynyddoedd nesaf.
Cynhaliwyd ymgynghoriad cynhwysfawr ar y sector
anghenion arbennig dros y gaeaf ac mae Cyngor Caerdydd bellach wedi cwblhau'r
cyfnod rhybudd statudol ar gyfer wyth cynnig. Ar ôl derbyn dau wrthwynebiad yn
unig, cymeradwyodd Cabinet y Cyngor y cynlluniau yn ei gyfarfod ddydd Iau
(Gorffennaf 14).
Wrth wraidd y cynllun mae creu mwy na 200 o leoedd
ychwanegol mewn wyth ysgol ar draws y ddinas, drwy sefydlu:
· canolfan ag 20 lle ar gyfer
plant oedran cynradd ag anghenion dysgu cymhleth (ADC) yn Ysgol Gynradd
Moorland (o fis Medi 2023)
· canolfan â 30 lle ar gyfer
dysgwyr ag ADC yn Ysgol Uwchradd Willows (o fis Medi 2023), a
·
chanolfan â 30 lle yn Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf ar
gyfer dysgwyr ag awtistiaeth, ochr yn ochr â'r ganolfan bresennol (o fis Medi
2023), a chynyddu
·
nifer y lleoedd ar gyfer dysgwyr ag awtistiaeth o 20 i 45
yn Ysgol Uwchradd Llanisien (o fis Medi 2022)
·
nifer y disgyblion yn Ysgol Arbennig Tŷ Gwyn o 198
i 240 (o fis Medi 2022)
·
nifer y disgyblion yn Ysgol Arbennig The Hollies o
90 i 119 (o fis Medi 2022) ac o 119 i 150 (Medi 2023)
·
nifer y disgyblion ag ADC yn Ysgol Gynradd Llanisien
Fach o 20 i 30 (o fis Medi 2023), a
·
nifer y lleoedd ar gyfer dysgwyr ag awtistiaeth yn Ysgol
Gynradd Pentre-baen o 20 i 24 (o fis Medi 2022)
Yn ogystal, bydd y Cyngor yn cynyddu nifer y
lleoedd ledled y ddinas ar gyfer disgyblion ag anghenion iechyd a lles
emosiynol.
Bydd y cynlluniau'n gwella'r ddarpariaeth ar gyfer
disgyblion ysgolion cynradd ac uwchradd ac yn cynnwys cau safle Ysgol
Arbennig Y Court yn Llanisien, sydd wedi dyddio. Byddai'r ysgol yn
trosglwyddo i adeiladau newydd ar draws dau safle – Ysgol Gynradd y Tyllgoed
ac Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Llaneirwg yn Llanrhymni. Byddai
gan bob un le i 36 o ddisgyblion – cyfanswm o 72, cynnydd o 30 ar y capasiti
presennol.
Byddai'r gwaith yn cael ei gwblhau erbyn mis Medi
2025.
Hefyd ar y gweill mae creu dwy ganolfan adnoddau
arbenigol newydd ag 20 lle ar gyfer iechyd a lles emosiynol yn:
· Ysgol Uwchradd Gymunedol
Gorllewin Caerdydd, yn Nhrelái (o fis Medi 2022), ac
· Ysgol Uwchradd y Dwyrain, yn Nhredelerch (o fis
Medi 2023)
Ni ddaeth unrhyw wrthwynebiadau i'r tri chynllun
hyn i law’r Cyngor.
Dywedodd y Cynghorydd Sarah Merry, Aelod Cabinet
dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau’r Cyngor, "Dyma'r camau mwyaf
arwyddocaol tuag at drawsnewid y ddarpariaeth addysg anghenion dysgu arbennig
ac ychwanegol a welwyd yng Nghaerdydd yn ystod y blynyddoedd diwethaf a bydd yn
gwella safon y cyfleusterau ar draws y ddinas yn sylweddol ac yn cynyddu nifer
y lleoedd sydd ar gael gan fwy na 270.
"Ym mis Mawrth 2021, roedd gan Gaerdydd 2,265
o blant ag anghenion addysgol arbennig," ychwanegodd, "ac roedd 1,116
ohonynt wedi'u lleoli mewn cyfleusterau arbenigol yn y ddinas, gyda 48 o leoedd
ar gael mewn canolfannau lles ac iaith lafar a 90 arall mewn unedau cyfeirio
disgyblion.
"Bydd y cynlluniau hyn yn cyfrannu'n helaeth
at fynd i'r afael â diffyg yn ein darpariaeth a bydd hefyd yn helpu i ledaenu'r
cyfleusterau ledled Caerdydd.
"Yn ogystal, ar safle newydd Ysgol Y Court,
bydd adeiladau’r 21ain ganrif yn cefnogi nifer o fentrau ar gyfer
disgyblion â lefelau uchel o anghenion iechyd a lles emosiynol – fel ffocws
therapi a chyfleoedd ymyrraeth gynnar."
Mae'r angen i gynyddu'r ddarpariaeth yn y meysydd
hyn yn adlewyrchu cynnydd yn nifer y disgyblion ag anghenion dysgu arbennig ac
ychwanegol – tuedd a nodwyd cyn 2020 ond sydd wedi'i gwaethygu gan gau ysgolion
a mesurau eraill a gyflwynwyd yn sgil y pandemig.