Back
Ehangu Ysgol Gynradd Pentyrch yn symud gam yn nes

08/07/22

Mae cynlluniau uchelgeisiol i gynyddu nifer y disgyblion yn Ysgol Gynradd Pentyrch a sefydlu 32 o leoedd mewn uned feithrin newydd ar gyfer plant tair oed wedi symud gam yn nes.

 

Ar ôl i broses ymgynghori eang o'r cyhoedd ar y newidiadau arfaethedig ddigwydd yn y gaeaf, cyhoeddwyd y cynlluniau ym mis Mai.

 

Nawr mae Cabinet y Cyngor wedi adolygu'r gwrthwynebiadau yn ei gyfarfod ddydd Iau 14 Gorffennaf a chymeradwyo'r gwaith sy'n mynd rhagddo.

 

Dywedodd y Cynghorydd Sarah Merry, Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau’r Cyngor, fod hon yn adeg gyffrous i Bentyrch. "Mae Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) Caerdydd yn golygu bod 41,400 o anheddau newydd yn cael eu creu ar draws y ddinas ac mae nifer o safleoedd wedi'u cynllunio yng ngogledd-orllewin Caerdydd a fydd yn cael effaith sylweddol ar ysgolion yn yr ardal.

 

"Rydym yn disgwyl i un ysgol gynradd newydd yn yr ardal agor ym mis Medi 2023 a bydd ehangu Pentyrch yn helpu i ymdopi â'r galw lleol.   Bydd y cynlluniau'n galluogi teuluoedd ym Mhentyrch i gael mynediad i addysg feithrin gyda gofal plant cofleidiol, a gallant barhau â'u haddysg gynradd ar yr un safle, am y tro cyntaf."

 

Disgwylir i'r gwaith o ehangu Ysgol Gynradd Pentyrch gael ei dalu gan gyfraniadau gan adeiladwyr sy'n gweithio ar ddatblygiad cyfagos Fferm Goitre Fach.

 

I wrthwynebwyr i'r ehangu, y cynnydd disgwyliedig mewn traffig oedd yn peri'r pryder mwyaf.  Daeth pob un o'r pedwar gwrthwynebiad gan drigolion Pentyrch gydag un yn dweud:  "Os bydd ehangu'r ysgol yn mynd yn ei flaen, byddem yn disgwyl - o leiaf - rhai llinellau melyn i atal parcio y tu allan i'n tŷ."

 

Er bod yr adroddiad yn cydnabod y cynnydd tebygol mewn traffig, mae hefyd yn credu y bydd ymrwymiad y Cyngor i ddatblygu Cynllun Teithio Llesol ar gyfer pob ysgol erbyn 2022 yn cefnogi ac yn annog teithio cynaliadwy i'r ysgol a hefyd yn "llywio unrhyw welliannau i seilwaith ar y safle ac oddi ar y safle sydd ei angen i hwyluso teithiau llesol."   Y bwriad yw y byddai llai o deuluoedd ym Mhentyrch yn cymudo i gymunedau eraill i ddosbarthiadau meithrin ac ysgolion cynradd.

 

Yn ogystal, roedd yr adroddiad yn nodi y byddai darparu lleoedd meithrin ar gyfer y pentref yn lleihau'r angen i deithio i'r ddarpariaeth feithrin bresennol ond mae hefyd yn awgrymu:

  • Creu cyfyngiadau parcio i annog pobl i beidio â theithio pellter byr mewn ceir
  • Gwella cyfleusterau i gerddwyr, beicwyr a defnyddwyr sgwteri, a
  • Ystyried cyfleuster 'Parcio a Stride' i reoli parcio a lliniaru problemau traffig ger yr ysgol

 

Ar hyn o bryd mae gan yr ysgol gapasiti ar gyfer 140 o ddisgyblion ond mae'r cynllun yn bwriadu cynyddu'r nifer hwnnw i 210, tra byddai'r feithrinfa'n cynnig pum hanner diwrnod o addysg cyn-ysgol i 32 o blant tair oed, gyda'r mesurau newydd ar waith erbyn dechrau'r flwyddyn ysgol ym mis Medi 2023.