Back
Argyfwng costau byw a chwyddiant yn gwasgu ar gyllideb Cyngor Caerdydd

08.07.22
Mae costau cynyddol mewn ynni, bwyd a gwasanaethau yn golygu bod Cyngor Caerdydd yn wynebu diffyg o £29m yn ei gyllideb ar gyfer 2023-24, mae adroddiad newydd wedi rhybuddio.

Wrth i'r cyhoedd frwydro yn erbyn eu hargyfwng costau byw eu hunain, gyda phrisiau petrol a nwy a thrydan yn cyrraedd lefelau digynsail, rhagwelir y bydd chwyddiant yn cyrraedd 11% cyn diwedd yr haf, ac mae'r awdurdod o dan bwysau tebyg.

Ym mis Mawrth datgelodd y cyngor fod ei fwlch cyllidebol ar gyfer 2023-24 - y gwahaniaeth rhwng refeniw ac arian a gafwyd gan y llywodraeth a'r ymrwymiadau gwariant a ragwelwyd ganddo - bron yn £24m. Yn awr, yn ôl diweddariad a gyflwynwyd i aelodau'r Cabinet, mae'r ffigur hwnnw wedi codi i ychydig dros £29m.

Er bod gwariant mewn rhai meysydd wedi gostwng ers mis Mawrth, mae cynnydd o fwy na £10m yn cael ei gyfrif gan gynnydd cyffredinol mewn prisiau, gydag ynni, tanwydd a costau bwyd yn fwyaf arwyddocaol.

Rhagwelir hefyd y bydd y Cyflog Byw Go Iawn, y mae'r cyngor wedi ymrwymo iddo, yn codi ym mis Medi yn unol â chwyddiant, ond bydd codiadau chwyddiant disgwyliedig yn gyffredinol, a adlewyrchir mewn pethau fel costau adeiladu, er enghraifft, hefyd yn cael effaith.

Wrth edrych i'r dyfodol, mae'r diweddariad yn rhagweld y bydd y bwlch yn y gyllideb yn parhau i roi pwysau ar y cyngor, gyda diffyg o tua £24.4m yn 2024-25, gan ostwng i £18.2m yn 2026-27 - cyfanswm o dros £90m dros y pedair blynedd nesaf.

Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad, y Cyng Chris Weaver: "Mae'n amlwg bod pawb yn wynebu cyfnod anodd ac nid yw'r cyngor yn eithriad. Ers i'r cyfnod clo ddod i ben, bu cynnydd sylweddol yn y galw am ein gwasanaethau, yn enwedig yn y gwasanaethau cymdeithasol.

"Yn ogystal, cafodd Covid effaith enfawr ar ein gallu i gynhyrchu incwm – collwyd tua £52m gennym ers y cyfnod clo cyntaf mewn meysydd fel theatrau, Castell Caerdydd a Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd. Cefnogwyd y golled hon gan Lywodraeth Cymru, ond daeth cronfa caledi Covid i ben ym mis Ebrill felly mae'n bwysig bod ein targedau refeniw yn cael eu cyflawni wrth i ni adael y pandemig. Mae'r diweddariad hwn yn ein hatgoffa y bydd yn rhaid i ni dynhau pethau ac edrych ar ffyrdd o wneud arbedion ar yr union adeg mae angen i ni wario mwy i helpu'r adferiad."

Bydd y cyngor yn awr yn dechrau edrych ar gyfres o fesurau i bontio'r bwlch ariannu a nodwyd, gan gynnwys adolygu ei raglen gyfalaf, gan ystyried unrhyw adferiad ar ôl Covid yn refeniw'r cyngor, ac archwilio a ellir defnyddio arian a neilltuwyd yn flaenorol i fynd i'r afael ag effeithiau parhaus y pandemig mewn mannau eraill.

Bydd y cyngor yn cyflwyno proses ymgynghori gyda thrigolion i gael eu barn ar unrhyw gynigion yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

Ychwanegodd y Cynghorydd Weaver: "Er gwaethaf y diweddariad hwn ar y gyllideb, mae gennym gynlluniau uchelgeisiol o hyd i wneud Caerdydd yn economi pwerdy, tyfu swyddi sy'n talu'n well, darparu mwy o gartrefi cyngor y mae mawr eu hangen, gan roi hwb i gyflawniad addysgol ein pobl ifanc, tra'n gwneud popeth o fewn ein gallu i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd drwy ein strategaeth 'Cryfach, Tecach a Gwyrddach' newydd. Gyda'r polisïau cywir, credwn y gallwn helpu Caerdydd i dyfu a ffynnu, gan greu cyfleoedd i bawb ledled y ddinas, ac y bydd ein hagenda newydd ar gyfer newid yn ein helpu i oresgyn yr heriau y mae'r hinsawdd economaidd bresennol yn eu cyflwyno i bob un ohonom."