Back
Ysgol Uwchradd Willows yn cael ei choroni'n bencampwr Cwpan DebateMate 2022!


7/7/22

Mae'r ddadl ynghylch pa ysgol o Gaerdydd fyddai'n ennill Cwpan DebateMate eleni ar ben, gydag Ysgol Uwchradd Willows yn cael ei choroni'n bencampwr ar gyfer 2022.

 

Mae myfyrwyr o'r ysgol yn Nhremorfa wedi bod yn cymryd rhan yn y rhaglen drafod 12-wythnos i ysgolion a gyflwynwyd gan DebateMate gydag wyth ysgol arall yn y ddinas. Noddwyd y fenter gan FinTech Wales a thîm Cyfoethogi Caerdydd ac Addewid Caerdydd Cyngor Caerdydd.

 

Arweiniodd y rhaglen 12-wythnos at ddadl pen-wrth-ben yn Stadiwm Principality lle bu disgyblion o Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd, Ysgol Uwchradd Cantonian, Ysgol Uwchradd Cathays, Ysgol Uwchradd Willows, Ysgol Uwchradd yr Eglwys yng Nghymru Teilo Sant, Campws Cymunedol Ysgol Uwchradd y Dwyrain, Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf ac Ysgol Uwchradd Fitzalan yn trafod pynciau fel 'This House Supports A Cashless Society' a 'This House Believes That Sports Personalities Should Declare Their Opinions On Key Social Issues'.

 

Gwnaeth Ysgol Uwchradd Willows a Champws Cymunedol Ysgol Uwchradd y Dwyrain gyrraedd y rownd derfynol, gan drafod y pwnc ‘This House Believes Technology Has Done More To Disconnect Than Connect'. Aeth Tîm Willows, sydd â phedigri dadlau cryf gyda'r disgyblion presennol Marzooq Subhani a Crystal Tran yn cael eu dewis i gynrychioli'r DU mewn cystadleuaeth drafod yn Dubai yn gynharach eleni, ymlaen i ennill Cwpan DebateMate 2022!

 

Roedd y disgybl Blwyddyn 11, Marzooq, yn rhan o dîm buddugol Cwpan DebateMate 2022, ynghyd agAiden Barrett, Inaaya Chowdhury a Carmen Haile, sydd i gyd ym Mlwyddyn 9.

Mae'r rhaglen drafod yn ceisio datblygu sgiliau llafaredd disgyblion ac ymwybyddiaeth o'r sector technoleg ariannol (FinTech) mewn cyfres o gystadlaethau trafod.   Cymerodd ysgolion ran mewn gweithdy dadlau awr o hyd bob wythnos a neilltuwyd mentoriaid DebateMate iddynt, sy'n fyfyrwyr o brifysgolion ledled Caerdydd. 

 

Cefnogwyd y gweithdai technoleg ariannol gan gwmnïau fel Confused.com, Pepper Money, Admiral Group, PwC, Deloitte, Credas, Active Quote a Delio Group.  Mae pob partner yn aelod o FinTech Wales, sefydliad aelodaeth nid-er-elw sy'n cysylltu'r ecosystem gan ennill lle i Gymru ar y llwyfan technoleg ariannol byd-eang ac un o noddwyr y rhaglen, ynghyd ag Addewid Caerdydd a Cyfoethogi Caerdydd Cyngor Caerdydd.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, y Cynghorydd Sarah Merry:  "Da iawn i Ysgol Uwchradd Willows am y cyflawniad gwych hwn. Llongyfarchiadau hefyd i'r holl ysgolion sydd wedi cymryd rhan yn y rhaglen a'u myfyrwyr, sydd wedi gosod safon anhygoel o uchel yn y gystadleuaeth hon.

 

"Mae wedi bod yn wych gweld bron i 300 o bobl ifanc yn cymryd rhan yn y fenter ac rwy'n siŵr bod pawb wedi cael profiad gwerth chweil. Rhaid diolch hefyd i'r 16 mentor o brifysgolion y ddinas sydd wedi cefnogi ysgolion dros y 12 wythnos ac wrth gwrs, y busnesau a hwylusodd y gweithdai gan helpu i godi ymwybyddiaeth o'r sector technoleg ariannol yng Nghymru."

 

Dywedodd Sarah Williams-Gardener, Prif Swyddog Gweithredol FinTech Wales: "Mae Rhaglen DebateMate Caerdydd wedi bod yn llwyddiant ysgubol. Nid yn unig y mae'r rhaglen wedi datblygu sgiliau busnes hanfodol ar gyfer gweithlu'r dyfodol, ond rydym wedi bod yn hynod ffodus o gael aelodau FinTech i fentora'r myfyrwyr ac agor eu llygaid i dechnoleg ariannol a'r cyfleoedd gyrfa rhyfeddol sydd gennym yma yng Nghymru. 

 

Rwy'n hynod ddiolchgar i'n haelodau, gan gynnwys Admiral,Confused.com, Credas, Delio, Deloitte, Cymdeithas Adeiladu'r Principality, PepperMoney, PWC ac ActiveQuote, a ymwelodd â'r ysgolion yn ystod y rhaglen ac a dreuliodd amser gwerthfawr gyda'r myfyrwyr a'r athrawon dan sylw. Mae'n siŵr y bydd eu llwyddiannau a'u mewnwelediadau allweddol o ddatblygu busnes technoleg ariannol yng Nghymru wedi ysbrydoli llawer o bobl ifanc i ymuno â'n hecosystem. Ein cenhadaeth yw datblygu a chadw'r sgiliau angenrheidiol i gefnogi twf y sector hwn, ac mae'r rhaglen hon wedi, a bydd yn parhau i wneud cyfraniad sylweddol i hynny. 

 

"Llongyfarchiadau mawr, mawr i bawb a gymerodd ran ac yn enwedig i'r myfyrwyr. Mae pob un ohonynt yn hynod dalentog ac mae ganddynt ddyfodol gwych o'u blaenau."

 

Dywedodd Pennaeth Willows, Chris Norman:"Rydym mor falch o gyflawniadau ein disgyblion ac yn diolch i DebateMate, FinTech Wales ac Addewid Caerdydd am roi'r cyfle iddynt ddisgleirio. Mae'r disgyblion wedi ennill sgiliau a phrofiadau gwerthfawr drwy gymryd rhan yn y rhaglen ac mae wedi bod yn wych gweld eu hyder yn tyfu gyda phob dadl.  Diolch yn arbennig i Miss Nelms a Mrs Cook, aelodau o'n hadran Saesneg, a Chelsea, ein mentor DebateMate am gefnogi'r timau drwyddi draw."