Back
Newid dros dro i’r gwasanaeth: Cofrestru Genedigaethau, Marwolaethau a Phriodasau
Ar hyn o bryd, nid yw Swyddfa Gofrestru Caerdydd yn gallu ateb ymholiadau dros y ffôn gan fod nifer uchel o staff yn absennol oherwydd Covid-19.

Nid effeithir ar apwyntiadau wyneb yn wyneb i gofrestru genedigaethau, marwolaethau a phriodasau ac mae'r tîm yn dal i ateb ymholiadau a gyflwynir drwy'r ffurflen gyswllt ar wefan Swyddfa Gofrestru Caerdydd, neu drwy e-bost.

Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra y gallai hyn ei achosi a'n nod yw dychwelyd i wasanaeth llawn cyn gynted â phosibl.  Dilynwch ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol am ddiweddariadau.