Bydd ymweliad â Phad Sblasio Parc Fictoria ar ddiwrnod heulog yn uchel ar restr ddymuniadau llawer o blant yr haf hwn, ond i rai plant sydd ag anghenion ychwanegol mae poblogrwydd y cyfleuster, hyd yma, wedi ei gwneud yn anodd ei fwynhau.
O ddydd Mercher nesaf (6 Gorffennaf) bydd awr bob dydd Mercher yn cael ei rhedeg fel 'sesiwn hamddenol' gynhwysol fel y gall plant sydd ag anghenion ychwanegol, a fyddai'n elwa o amgylchedd tawelach a llai o niferoedd, fwynhau'r 33 nodwedd ddŵr gyffrous, sy'n cynnwys jetiau, chwistrellau, twneli a bwced dŵr tipio.
Yn ystod y tymor, bydd y 'sesiynau hamddenol' yn rhedeg bob dydd Mercher rhwng 11am a hanner dydd. Yn ystod gwyliau'r ysgol bydd y sesiynau newydd yn cael eu cynnal bob dydd Mercher o 10am-11am.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Barciau, Diwylliant a Digwyddiadau, y Cynghorydd Jennifer Burke-Davies: "Mae parciau ar gyfer pawb, ac rydym am iddynt fod mor gynhwysol a hygyrch â phosibl. Cynlluniwyd y Pad Sblasio gyda hynny mewn golwg, ond wrth i'w boblogrwydd dyfu, mae wedi dod yn anos i blant sydd ag anghenion ychwanegol fwynhau'n llawn. Mae gwneud Caerdydd yn Ddinas sy'n Dda i Blant yn un o'n blaenoriaethau, a bydd y sesiynau Pad Sblasio tawelach newydd hyn yn caniatáu i lawer mwy o blant fwynhau'r pleser syml o chwarae."
Dywedodd preswylydd lleol, Amy, y mae ei mab deg oed yn defnyddio cadair olwyn: "Mae'r Pad Sblasio yn rhywbeth sy'n apelio'n wirioneddol at blant sydd ag anghenion ychwanegol gan ei fod yn wastad ac mae'r plant wrth eu bodd â'r dŵr, felly mae'n wych bod y cyngor yn gallu dechrau gwneud hyn.
"Mae fy mab wrth ei fodd gyda'r pad sblasio, ond gall fod yn brysur iawn ac yn boblogaidd iawn. Os ydych yn ddefnyddiwr cadair olwyn ac mae gennych rai bach yn rhedeg o gwmpas, gall fod yn eithaf anodd symud, felly bydd y sesiynau hamddenol hyn yn rhoi ychydig mwy o le iddo, felly mewn gwirionedd nid yw mor llethol i blant sydd ag anghenion ychwanegol. Nid yw fy mab yn awtistig ond i lawer o blant sy'n awtistig, gall y sŵn a'r prysurdeb fod yn llethol, felly rwy'n credu y bydd y sesiynau tawelach yn fwy pleserus.
"Fel rhiant, rwy'n teimlo y byddwch yn fwy cyfforddus yn y sesiynau newydd hyn, gan eich bod yno gyda rhieni eraill sydd efallai'n deall anghenion eich plentyn."
Mae'r Pad Sblasio yn hygyrch ar gyfer cadeiriau olwyn, ac mae cyfleusterau toiled hygyrch ar gael ar y safle. Mae cadair ddŵr ar gael gan y staff os oes angen.