Wel,
wrth i Ŵyl Bwyd a Diod boblogaidd Caerdydd ddychwelyd i Roald Dahl Plass y
penwythnos nesaf am y tro cyntaf ers y pandemig, mae digon o'r ddau ar gael.
Ar yr
ochr fwyd, bydd cyfanswm o 82 o fasnachwyr ar y safle, wedi'u gwasgaru ar draws
adran marchnad ffermwyr, piazza bwyd stryd a ffair cynhyrchwyr. Ymhlith y
diléits bydd llu o wneuthurwyr jin a gwirodydd, gan gynnwys Distyllfa Castell
Hensol o Fro Morgannwg ac Old Bakery Gin o Lundain, y mae eu cwsmeriaid yn
cynnwys Palas Buckingham.
Mae
manwerthwyr bwyd yn cynnwys Emily's Kitchen Bakes, busnes un fenyw o Gaerdydd,
un o selogion yr ŵyl y Purple Poppadom, a Pregos Street Food sydd wedi ennill
gwobrau.
Yr un
mor boblogaidd â'r bwyd, wrth gwrs, yw'r gerddoriaeth a fydd ar gael drwy gydol
yr ŵyl.
Bydd
bandiau'n mynd i'r llwyfan ar yr awr drwy gydol pob un o dri diwrnod yr ŵyl, o
hanner dydd tan 9pm ddydd Gwener a dydd Sadwrn, ac o hanner dydd tan 6pm ar y
Sul. Ymhlith yr actau a gadarnhawyd eleni mae:
· Jack
Macs Funk Pack, Darren Eeden and the Slim Pickins, Kasai Masai a J4 Jazz Band
(Dydd Gwener)
· Fiesta
Resistance, Dave Cottle Trio, Bayside Boogiemen, Successors of the Mandingue
(dydd Sadwrn)
· The
Sun Kings, Nadia Darby Band, Rev James and the Swingtown Cowboys (dydd Sul)
Dywedodd
yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau, y Cynghorydd
Jennifer Burke-Davies: "Mae'r Ŵyl Bwyd a Diod wedi bod yn un o
ddigwyddiadau mwyaf poblogaidd Caerdydd ers amser maith ac mae llawer wedi'i
cholli dros y blynyddoedd diwethaf, felly rydym yn falch iawn o'i gweld yn
dychwelyd i Fae Caerdydd yr haf hwn."
Bydd
Bws Caerdydd yn rhedeg gwasanaeth llawn drwy gydol y penwythnos a bydd trenau o
orsaf Heol y Frenhines i'r Bae bob 12 munud a thacsis dŵr rheolaidd o Barc
Bute. Bydd rheseli beiciau dros dro ychwanegol ar gael ym mhen gogleddol y Basn
Hirgrwn. Mae parcio 'Bathodyn Glas' ar gael ym meysydd parcio Cei'r Fôr-Forwyn
a Stryd Pen y Lanfa.