Back
Diweddariad gan Gyngor Caerdydd: 28 Mehefin 2022

Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf, sy'n cynnwys: manylion am gau ffyrdd ar gyfer digwyddiad yn Stadiwm Principality ddydd Iau; y diweddaraf am gymorth costau byw yn ôl disgresiwn; a'n hofferyn ar-lein sy'n helpu gofalwyr.

 

Cau ffyrdd a chyngor teithio ar gyfer Rammstein yn Stadiwm Principality ar 30 Mehefin

Bydd Rammstein yn perfformio yn Stadiwm Principality ddydd Iau 30 Mehefin ac i hwyluso'r digwyddiad hwn, caiff ffyrdd canol y ddinas eu cau rhwng 4.30pm a 12.30am am resymau iechyd a diogelwch i sicrhau y gall pobl fynd i mewn i'r stadiwm yn ddiogel a'i adael ar ôl y gyngerdd.

Cynghorir y rhai sy'n mynychu'r gyngerdd hon i deithio i'r ddinas yn gynnar, gadael bagiau mawr gartref a thalu sylw i'r eitemau gwaharddedig a restrir ynwww.principalitystadium.walescyn iddynt deithio i'r ddinas.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/29302.html

 

Cyngor Caerdydd yn cynnig cymorth ariannol mewn ymateb i'r argyfwng costau byw

Gyda phrisiau petrol yn cyrraedd £2 y litr, rhagwelir y bydd chwyddiant bwyd yn cyrraedd y lefel uchaf ers 20 mlynedd o 11% yr haf hwn a biliau nwy a thrydan yn cynyddu, mae'r DU yn wynebu argyfwng costau byw.

Ond mae Cyngor Caerdydd yn goruchwylio'r gwaith o ddosbarthu grantiau gwerth bron i £2.2m i ysgafnhau'r baich ar yr aelwydydd hynny yn y ddinas sydd â'r angen mwyaf.

Dyrannwyd yr arian i'r Cyngor fel rhan o Gynllun Cymorth Costau Byw £177m Llywodraeth Cymru. Mae llawer o hyn yn mynd tuag at daliad o £150 i aelwydydd cymwys ond mae £25m hefyd wedi'i neilltuo ar gyfer Cynllun Dewisol. Mae hyn yn caniatáu i awdurdodau lleol gefnogi aelwydydd y maent yn ystyried bod angen cymorth ychwanegol arnynt gyda'u costau byw, ac mae cyfran Cyngor Caerdydd yn £2.193m.

Cafodd adroddiad sy'n argymell y dylid helpu'r aelwydydd mwyaf agored i niwed yn y ddinas drwy'r Cynllun Dewisol hwn ei gymeradwyo gan Gabinet y Cyngor, mewn cyfarfod a gynhaliwyd ddydd Iau diwethaf, 23 Mehefin.

Cyn y cyfarfod, dywedodd y Cynghorydd Chris Weaver, yr Aelod Cabinet dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad: "Mae'n amlwg bod biliau pawb yn codi ar gyfradd na welwyd ei thebyg o'r blaen ar hyn o bryd ac rydym yn ceisio helpu unrhyw un sy'n teimlo na allwch ymdopi, p'un a ydych ar fudd-daliadau neu'n profi tlodi mewn gwaith - dewch i siarad â ni.

"Rydym yn ymwybodol iawn o'r argyfwng ariannol y mae pobl yn ei wynebu o'r cynnydd enfawr yn y galw rydym yn ei weld ar wasanaethau'r cyngor, gyda mwy a mwy o bobl yn dod ymlaen i chwilio am gymorth.

"Drwy'r cynlluniau cymorth, rydym wedi talu 86% o aelwydydd cymwys yng Nghaerdydd - tua 76,000 - y taliad o £150. Mae hynny'n gyfystyr â phawb a oedd wedi gwneud cais o ddydd Llun diwethaf a phawb nad oedd angen iddynt wneud cais oherwydd ein bod eisoes yn cadw manylion eu cyfrif banc. Ond mae'n amlwg bod aelwydydd eraill nad ydynt wedi gwneud cais eto, er gwaethaf derbyn llythyrau gennym ni.

"Byddwn yn ysgrifennu atynt eto ac yn pwysleisio ein bod yn ystyried ceisiadau am daliadau o fewn wythnos. Mae'r arian yma iddyn nhw, mae angen iddyn nhw wneud cais amdano."

Mae manylion ynghylch a ydych yn gymwys i gael y £150 ar gael yma:

https://www.cardiff.gov.uk/CYM/preswylydd/Budd-daliadau-a-Grantiau/Taliad-cymorth-costau-byw/Pages/default.aspx

 

Ar hyn o bryd, mae'r taliad o £150 yn cael ei wneud i bob aelwyd sy'n byw mewn eiddo ym mandiau A-D y dreth gyngor, a'r rheini ym mand E sy'n cael gostyngiad band anabledd ac unrhyw eiddo sy'n cael gostyngiad yn y dreth gyngor waeth beth fo'u band. Yng Nghaerdydd, bydd y taliadau hyn yn dod i gyfanswm o fwy na £13.3m.

Mae'r Cynllun Dewisol yn caniatáu i gynghorau wneud taliadau i aelwydydd nad ydynt yn dod o dan y prif gynllun ac i wneud taliadau ychwanegol neu dalu cost gwasanaethau hanfodol, fel biliau ynni neu rent. Bydd yn cael ei dalu gan ddau ddull - un prawf modd ac un arall heb brawf modd.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/29297.html

 

Cyngor Caerdydd yn lansio offeryn ar-lein newydd ar gyfer y gymuned gofal

Mae gan aelod mwyaf newydd Cyngor Caerdydd gyfoeth o wybodaeth ar flaen ei fysedd ac mae e ar ddyletswydd 24 awr y dydd, yn barod i helpu pobl mwyaf agored i niwed y ddinas, eu teuluoedd a'u gofalwyr.

Mae Sara, neu AskSARA fel y'i gelwir, yn wefan newydd sydd wedi'i chynllunio i ddarparu offeryn hunangymorth ar-lein un stop ar gyfer dinasyddion, gofalwyr a darparwyr gofal ac mae'n cynnig gwybodaeth drwy gyfres syml o gwestiynau sydd wedi'u cynllunio i deilwra atebion i anghenion penodol unigolion.

I ddefnyddio'r offeryn, rydych chi'n mewngofnodi i wefan AskSARA, yn dewis maes sy'n peri pryder ac yna'n cael eich tywys drwy'r materion a'r opsiynau sydd ar gael nes bod SARA wedi llunio adroddiad personol y gallwch ei ddefnyddio i gael cyngor ac arweiniad.

Er enghraifft, os ydych yn ei chael hi'n anodd defnyddio'r ystafell ymolchi, gofynnir cwestiynau i chi gan gynnwys:

 

  • A yw mynediad yn broblem?
  • Allwch chi alw am help os oes angen?
  • A yw llawr yr ystafell ymolchi yn aml yn mynd yn llithrig?
  • A yw'r dŵr yn mynd yn rhy boeth?

Ar ôl cwblhau'r arolwg ar-lein, caiff adroddiad personol ei lunio ar unwaith sy'n asesu eich anghenion, yn cynnig atebion i unrhyw broblemau a nodwyd, ac yn cynnig dyfeisiau a all helpu i gefnogi annibyniaeth.

Mae AskSARA gellir dod o hyd iddo yn:

https://cardiff.livingmadeeasy.org.uk/