28/06/22
Bydd Rammstein yn perfformio yn Stadiwm Principality ddydd Iau 30 Mehefin ac i hwyluso'r digwyddiad hwn, caiff ffyrdd canol y ddinas eu cau rhwng 4.30pm a 12.30am am resymau iechyd a diogelwch i sicrhau y gall pobl fynd i mewn i'r stadiwm yn ddiogel a'i adael ar ôl y gyngerdd.
Cynghorir y rhai sy'n mynychu'r gyngerdd hon i deithio i'r ddinas yn gynnar, gadael bagiau mawr gartref a thalu sylw i'r eitemau gwaharddedig a restrir yn principalitystadium.wales cyn iddynt deithio i'r ddinas.
Cau ffyrdd
O 7am, bydd mynediad i Heol Scott a Heol y Parc yn cael ei reoli i sicrhau nad yw cerbydau'n parcio yn yr ardal cau ffyrdd.
Caiff y ffyrdd canlynol eu cau fel rhan o batrwm cau ffyrdd llawn canol y ddinas:
Ychwanegiadau:
Canolfan Ddinesig:Rheolir mynediad i ran o'r Ganolfan Ddinesig drwy'r dydd. Caniateir mynediad yn unig i barcio ar gyfer y digwyddiad, rhywfaint o barcio ar gyfer cymudwyr, llwytho a mynediad i feysydd parcio preifat.
Ymhlith y ffyrdd bydd hyn yn effeithio arnynt mae Rhodfa'r Brenin Edward VII, Rhodfa'r Amgueddfa, Heol Neuadd y Ddinas, Heol y Coleg a Heol Gerddi'r Orsedd.
Bydd Heol Penarth (cefn Gorsaf Drenau Caerdydd Canolog) o gyffordd Heol Eglwys Fair hyd at y fynedfa oddi ar Heol Penarth ar gau rhwng 9pm a hanner nos i helpu Trafnidiaeth Cymru gyda ffans sy'n ciwio.
Trenau
Mae Trafnidiaeth Cymru yn rhedeg amserlen lawn ddydd Iau 30 Mehefin ond mae bysus yn cymryd lle trenau ar gyfer rhai o wasanaethau nos y Cymoedd o Gaerdydd, felly cynghorir teithwyr i gynllunio eu teithiau'n ofalus. Bydd gwasanaethau o amgylch Caerdydd yn brysur iawn felly rhowch ddigon o amser ar gyfer eich taith.
Ewch i tfw.cymru neu'r ap Trafnidiaeth Cymru newydd i gael y wybodaeth ddiweddaraf am deithio.
Os bydd gennych unrhyw broblemau ar y rheilffordd, siaradwch â'r swyddog tocynnau, neu ar gyfer materion mwy difrifol gallwch anfon neges destun at Heddlu Trafnidiaeth Prydain ar 61016 neu ffonio 0800 40 50 40 . Ffoniwch 999 mewn argyfwng bob tro.
Parcio ar Ddydd Digwyddiad yn y Ganolfan Ddinesig
Cyrraedd yno: Gadewch wrth Gyffordd 32 yr M4, ewch tua'r de ar yr A470 i ganol y ddinas a dilyn yr arwyddion i'r ganolfan ddinesig.
Cost: £15 yn daladwy ar y diwrnod yn y maes parcio - mae taliadau cerdyn hefyd ar gael nawr.
Amseroedd parcio: Bydd y maes parcio yn agor am 8am ac yn cau am hanner nos.
Parcio ar ddydd y Digwyddiad yn y Ganolfan Ddinesig (Bysus)
Mae £25 yn daladwy ar y diwrnod (arian parod yn unig)
Amseroedd parcio: Bydd y maes parcio yn agor am 8am ac yn cau am hanner nos.
Cyfleusterau Parcio a Theithio
Bydd y cyfleuster parcio a theithio ar gyfer y digwyddiadau hyn ym maes parcio Neuadd y Sir ym Mae Caerdydd .
Mae'r cyfleuster yn hawdd i'w gyrraedd o'r M4, drwy adael wrth gyffordd 33, a theithio i lawr y ffordd gyswllt (A4232).
Bydd bysus yn rhedeg i ac o ganol y ddinas bob 10 munud cyn i'r gyngerdd ddechrau. Cost: £10 yn daladwy ar y diwrnod - mae taliadau cerdyn ar gael nawr hefyd.
Mae'r maes parcio'n agor am 10.30am a bydd y bws cyntaf yn gadael am 11am. Bydd y bws olaf o ganol y ddinas am hanner nos a bydd y maes parcio'n cau am 0.15am
Parcio ar ddydd y Digwyddiad yng Ngerddi Sophia
Gerddi Sophia (ceir)
(Tua 0.5 milltir o gerdded i Stadiwm Principality, Gât 2).
Parcio ar gyfer y Digwyddiad yng Ngerddi Sophia
Cyrraedd yno: Gadewch wrth gyffordd 32 yr M4.
Cost: £15 yn daladwy ar y diwrnod yn y maes parcio - mae taliadau cerdyn ar gael nawr hefyd.
Amseroedd parcio: Bydd y maes parcio yn agor am 8.00am ac yn cau am hanner nos.
Sylwer: Bydd staff ym maes parcio Gerddi Sophia tan 7.00pm. Gadewir pob cerbyd ar y safle ar risg y perchennog. Ni fydd Cyngor Caerdydd yn gyfrifol am unrhyw ladrad neu ddifrod i geir nac i eiddo personol. Cyflwynir dirwy i unrhyw gerbydau sy'n cael eu gadael yn y maes parcio ar ôl yr amser cau.
Bws
Bysus lleol:
Caiff gwasanaethau bws eu dargyfeirio tra bydd ffyrdd canol y ddinas ar gau
Ewch i wefan y gweithredwr bws perthnasol i gael rhagor o wybodaeth am eich llwybrau bws penodol.
Ar gyfer gwasanaethau Stagecoach, ewch i: Croeso i Stagecoach (stagecoachbus.com)
Ar gyfer gwasanaethau Bws Caerdydd, ewch i:https://www.cardiffbus.com/principality-stadium
Am ragor o wybodaeth am wasanaethau NAT, ewch i:https://www.natgroup.co.uk/
National Express:
Bydd bysus National Express yn defnyddio Gerddi Sophia fel yr arfer.
Allwch chi feicio neu gerdded?
Gall y rheini sy'n byw yng Nghaerdydd feicio neu gerdded.Mae ymchwil yn dangos bod 52% o'r teithiau car ym mhrifddinas Cymru yn llai na 5km o hyd. Mae hwn yn bellter y gellir ei feicio yn braf mewn 20 munud.
Gwyddom hefyd fod 28% o drigolion Caerdydd nad ydynt yn beicio ar hyn o bryd yn dymuno gwneud hynny.
Pan fo tagfeydd ar y ffyrdd, mae hyn yn gwneud beicio yn ddewis mwy atyniadol fyth gan y byddai teithio ar feic yn gynt na char ar yr oriau brig neu yn ystod digwyddiadau mawr.
Parcio i Siopwyr
Argymhellir i siopwyr ddefnyddio'r safleoedd Parcio a Theithio penodol ym Mhentwyn neu Neuadd y Sir. Neu mae meysydd parcio ar gael yng nghanol y ddinas hefyd: Meysydd Parcio Heol y Gogledd; Canolfan Siopa Dewi Sant; John Lewis; Canolfan Siopa Capitol ac NCP (Stryd Adam, Plas Dumfries a Heol y Brodyr Llwydion)
Parcio i Bobl Anabl
Argymhellir bod gyrwyr anabl yn defnyddio Gerddi Sophia. Mae lleoedd parcio i bobl anabl hefyd ar gael mewn meysydd parcio preifat amrywiol.
Gweler argaeledd ar wefannau unigol.
Tacsis
Bydd safle tacsis Heol Eglwys Fair (y tu allan i House of Fraser) ar gau o 4.30pm tan 12.30am.