Back
Cyngor Caerdydd yn cynnig cymorth ariannol mewn ymateb i'r argyfwng costau byw

27/06/22 

Gyda phrisiau petrol yn cyrraedd £2 y litr, rhagwelir y bydd chwyddiant bwyd yn cyrraedd y lefel uchaf ers 20 mlynedd o 11% yr haf hwn a biliau nwy a thrydan yn cynyddu, mae'r DU yn wynebu argyfwng costau byw. 

A picture containing text, table, indoor, woodenDescription automatically generated

Ond mae Cyngor Caerdydd yn goruchwylio'r gwaith o ddosbarthu grantiau gwerth bron i £2.2m i ysgafnhau'r baich ar yr aelwydydd hynny yn y ddinas sydd â'r angen mwyaf. 

Dyrannwyd yr arian i'r Cyngor fel rhan o Gynllun Cymorth Costau Byw £177m Llywodraeth Cymru. Mae llawer o hyn yn mynd tuag at daliad o £150 i aelwydydd cymwys ond mae £25m hefyd wedi'i neilltuo ar gyfer Cynllun Dewisol. Mae hyn yn caniatáu i awdurdodau lleol gefnogi aelwydydd y maent yn ystyried bod angen cymorth ychwanegol arnynt gyda'u costau byw, ac mae cyfran Cyngor Caerdydd yn £2.193m. 

Cafodd adroddiad sy'n argymell y dylid helpu'r aelwydydd mwyaf agored i niwed yn y ddinas drwy'r Cynllun Dewisol hwn ei gymeradwyo gan Gabinet y Cyngor, mewn cyfarfod a gynhaliwyd ddydd Iau diwethaf, 23 Mehefin. 

Cyn y cyfarfod, dywedodd y Cynghorydd Chris Weaver, yr Aelod Cabinet dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad: "Mae'n amlwg bod biliau pawb yn codi ar gyfradd na welwyd ei thebyg o'r blaen ar hyn o bryd ac rydym yn ceisio helpu unrhyw un sy'n teimlo na allwch ymdopi, p'un a ydych ar fudd-daliadau neu'n profi tlodi mewn gwaith - dewch i siarad â ni. 

"Rydym yn ymwybodol iawn o'r argyfwng ariannol y mae pobl yn ei wynebu o'r cynnydd enfawr yn y galw rydym yn ei weld ar wasanaethau'r cyngor, gyda mwy a mwy o bobl yn dod ymlaen i chwilio am gymorth. 

"Drwy'r cynlluniau cymorth, rydym wedi talu 86% o aelwydydd cymwys yng Nghaerdydd - tua 76,000 - y taliad o £150. Mae hynny'n gyfystyr â phawb a oedd wedi gwneud cais o ddydd Llun diwethaf a phawb nad oedd angen iddynt wneud cais oherwydd ein bod eisoes yn cadw manylion eu cyfrif banc. Ond mae'n amlwg bod aelwydydd eraill nad ydynt wedi gwneud cais eto, er gwaethaf derbyn llythyrau gennym ni. 

"Byddwn yn ysgrifennu atynt eto ac yn pwysleisio ein bod yn ystyried ceisiadau am daliadau o fewn wythnos. Mae'r arian yma iddyn nhw, mae angen iddyn nhw wneud cais amdano." 

Mae manylion ynghylch a ydych yn gymwys i gael y £150 ar gael yma (https://tinyurl.com/yzszksfp) ochr yn ochr â gwybodaeth am sut i wneud cais. 

Ar hyn o bryd, mae'r taliad o £150 yn cael ei wneud i bob aelwyd sy'n byw mewn eiddo ym mandiau A-D y dreth gyngor, a'r rheini ym mand E sy'n cael gostyngiad band anabledd ac unrhyw eiddo sy'n cael gostyngiad yn y dreth gyngor waeth beth fo'u band. Yng Nghaerdydd, bydd y taliadau hyn yn dod i gyfanswm o fwy na £13.3m. 

Mae'r Cynllun Dewisol yn caniatáu i gynghorau wneud taliadau i aelwydydd nad ydynt yn dod o dan y prif gynllun ac i wneud taliadau ychwanegol neu dalu cost gwasanaethau hanfodol, fel biliau ynni neu rent. Bydd yn cael ei dalu gan ddau ddull - un prawf modd ac un arall heb brawf modd. 

Gallai grwpiau cymwys nad oes angen profion modd arnynt gynnwys:

  • Pobl sy'n darparu neu'n derbyn gofal
  • Y rhai sydd â nam meddyliol difrifol
  • Pobl sy'n gadael gofal 

Mae'r cyngor hefyd yn bwriadu gwneud taliadau prawf modd i helpu pobl sy'n cael budd-daliadau drwy'r cynlluniau a'r gwasanaethau hyn:

  • Taliadau Tai yn ôl Disgresiwn - gyda'r bwriad o helpu tenantiaid sy'n ei chael hi'n anodd talu eu rhenti(dyraniad arfaethedig - £700k)
  • Ceisiadau drwy'r Tîm Cyngor Ariannol sy'n cefnogi trigolion sy'n cael trafferth gyda'u harian, yn aml yn argymell taliadau untro i ddatrys problemau(£700k)
  • Cynllun Talebau Tanwydd - talebau nwy a/neu drydan i breswylwyr ar fesuryddion rhagdalu sy'n ei chael hi'n anodd talu eu biliau(£50k)
  • Teuluoedd y mae'r Cap Budd-daliadau yn effeithio arnynt - taliad uniongyrchol o £150 i helpu teuluoedd â thri neu fwy o blant y mae'r Cap yn effeithio arnynt(£205k)
  • Prydau Ysgol am Ddim (FSM) - mae uchafswm o 2,000 o deuluoedd yng Nghaerdydd sy'n derbyn prydau ysgol am ddim nad ydynt wedi derbyn y taliad o £150(£300k)
  • Gwasanaethau i Oedolion - mae rhai cleientiaid yn cael trafferth gyda chostau gofal hanfodol. Nid yw taliadau i dalu am ofal ond i helpu gyda chostau byw cynyddol(£50k)

Er mwyn annog pobl i fanteisio ar y Cynllun Dewisol, bydd y Cyngor yn  cynnal ymgyrch gyhoeddusrwydd a fydd sicrhau bod gwybodaeth ar gael yn ei Hybiau, drwy ei Linell Gyngor (029 2087 1071) a'r Tîm Cyngor Ariannol, ar y cyfryngau cymdeithasol a'i wefan. Bydd llythyrau hefyd yn cael eu hanfon at aelwydydd sy'n derbyn budd-daliadau. 

"Dylai defnyddio'r Cynllun Dewisol a thargedu'r taliadau yn y ffyrdd hyn sicrhau bod y rhai mwyaf anghenus yn cael y cymorth mwyaf," meddai'r Cynghorydd Weaver. "Byddwn hefyd yn ymchwilio i ffyrdd o ddargyfeirio unrhyw arian sydd heb ei wario yn y brif gronfa i'r cynllun dewisol."