Back
Argaeledd band eang yng Nghaerdydd yn elwa o hwb o £7.7m

24.06.22
Mae nod Cyngor Caerdydd o alluogi pob safle yn y ddinas i gael mynediad at fand eang cyflym a dibynadwy wedi cael hwb ariannol mawr gan Lywodraeth Cymru.

Mae'r ddinas wedi bod yn llwyddiannus yn ei chais am fwy na £7.7m dros y tair blynedd nesaf drwy Gronfa Band Eang Lleol y llywodraeth, a sefydlwyd i helpu awdurdodau lleol a mentrau cymdeithasol ledled Cymru i fynd i'r afael â phroblemau cysylltedd yn eu cymunedau.

Mae'r hwb ariannol diweddaraf wedi'i dargedu at bedwar prosiect ledled y wlad, ond cynllun 'Caerdydd – y Rhai Olaf' y cyngor sydd wedi derbyn y gyfran fwyaf o'r arian o bell ffordd.

I ddechrau, mae'r cynllun yn targedu 1,219 o eiddo ledled Caerdydd y mae'r cyngor wedi nodi nad ydynt yn gallu cyflawni cyflymderau o 30Mbps, gyda rhai safleoedd yn derbyn cyn lleied â 2Mbps, ac nad ydynt yn rhan o waith cyflwyno masnachol arall sydd ar y gweill. Mae rhai safleoedd wedi'u clystyru, gan wneud y prosiect yn gyflymach i'w gyflawni, tra bod rhai yn safleoedd ynysig sy'n anoddach i’w gwasanaethu. Rhoddwyd blaenoriaeth i eiddo yr ystyrir eu bod yn uchel ym Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru.

Mae'r gronfa hefyd yn hwb mawr i fusnesau ledled y ddinas wrth iddi geisio dod yn ganolbwynt ar gyfer y diwydiannau creadigol. Disgwylir i'r broses o gyflwyno band eang cyflym lenwi bylchau lle y bu cysylltedd yn wael yn y gorffennol a lle ystyrir bod rhai adeiladau masnachol yn anymarferol i fusnesau uwch-dechnoleg.

Dwedodd Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd dros Fuddsoddi a Datblygu, y Cynghorydd Russell Goodway: "Rydym wrth ein bodd fod Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £7.7m i'n helpu i ddarparu band eang gigabit-alluog i'r safleoedd hyn yn y ddinas.

"Teimlwn ei bod yn hanfodol bod pawb ledled y ddinas, yn enwedig pobl mewn ardaloedd ynysig a difreintiedig sy'n cael eu gwasanaethu mor wael â rhannau anghysbell o Gymru, yn cael yr un cyfleoedd digidol ag y mae llawer ohonom yn eu cymryd yn ganiataol.  At hynny, gwelodd y pandemig gynnydd dramatig yn y defnydd o wasanaethau ar-lein, o wasanaethau manwerthu a ffrydio cyfryngau i gadw mewn cysylltiad â'n hanwyliaid.

"Ni ellir tanbrisio pwysigrwydd cysylltedd ffibr o'r radd flaenaf a bydd yr arian hwn yn ein helpu i sicrhau bod cysylltedd sy'n addas i’r dyfodol ar gael."

Dywedodd Lee Waters, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd: Mae band eang cyflym a dibynadwy yn bwysicach nag erioed. Er nad yw'r maes hwn wedi'i ddatganoli i Gymru, rydym yn gweithredu drwy ein Cronfa Band Eang Lleol ac amrywiol gynlluniau eraill i ddod â gwell cysylltedd i rai o'r rhannau anoddaf eu cyrraedd o Gymru.

"Mae band eang yn gyfleustod allweddol a byddwn yn parhau i gefnogi pob ymdrech i hybu cysylltiadau ar hyd a lled Cymru."