Back
Caerdydd yw'r ddinas gyntaf yng Nghymru i gael ei henwi'n Ddinas Goed y Byd

Caerdydd yw'r ddinas gyntaf yng Nghymru i gael ei henwi'n Ddinas Goed y Byd i gydnabod rhaglen plannu coed Coed Caerdydd Cyngor Caerdydd sydd â'r nod o gynyddu gorchudd canopi coed y ddinas i 25% erbyn 2030.

Nod rhaglen Dinasoedd Coed y Byd, a sefydlwyd gan sefydliad cadwraeth ac addysg di-elw, The Arbor Day Foundation, yw creu mwy o fannau gwyrdd mewn ardaloedd trefol drwy gydnabod dinasoedd sy'n gwneud hyn yn dda.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau, y Cynghorydd Jennifer Burke-Davies: "Mae 20,000 o goed eisoes wedi'u plannu ledled y ddinas yn ystod 6 mis cyntaf ein rhaglen plannu coed uchelgeisiol a, gyda chymorth ein byddin anhygoel o wirfoddolwyr, y bwriad yw plannu llawer mwy dros y blynyddoedd nesaf.

"Wrth i'r coed hynny dyfu byddant yn chwarae rhan bwysig, nid yn unig o ran amsugno allyriadau carbon Caerdydd, ond hefyd yn helpu i lanhau'r aer rydym i gyd yn ei anadlu, gan ddarparu cynefinoedd pwysig ar gyfer natur a gwneud y ddinas yn lle gwyrddach i fyw ynddo."

Dywedodd Prif Weithredwr The Arbor Day Foundation, Dan Lambe: "Bob blwyddyn mae rhaglen Dinasoedd Coed y Byd yn tyfu ac yn ychwanegu set arall o ddinasoedd anhygoel ledled y byd.  Mae pob dinas unigol a gydnabyddir fel Dinas Goed y Byd wedi gwneud jobyn gwych o wneud coedwigaeth drefol yn ffocws i'w chymuned. Drwy'r gydnabyddiaeth hon bydd dinasoedd ledled y byd yn ymuno â chymunedau o'r un anian sy'n cydnabod pwysigrwydd plannu coed i gyfrannu at eu canopi coed trefol."

 

Coed Caerdydd mewn rhifau

Yn y tymor plannu 6 mis cyntaf, mae'r prosiect wedi:

  • plannu 16,000 o goed ar wyth hectar o dir (sy'n cyfateb i tua 11.2 o gaeau pêl-droed) gyda 4,000 o goed eraill wedi'u plannu fel rhan o raglen blannu flynyddol brif ffrwd y cyngor.
  • gweithio gyda dros 750 o wirfoddolwyr
  • plannu un cilomedr o gloddiau brodorol
  • plannu dau safle gyda choed ffrwythau a chnau i greu perllannau cymunedol
  • plannu pum safle 'coetir gwlyb' a chwe llain ymyl/stryd
  • rhoi 750 o goed i ysgolion, grwpiau cymunedol a thrigolion