Back
Gwasanaeth Coffa Babanod

Cynhelir Gwasanaeth Coffa Babanod am 11.30am ar 26 Mehefin yng Ngardd 'Annwyl Fam' ym Mynwent y Gorllewin.

Cefnogir y gwasanaeth coffa gan y Gymdeithas Marw-enedigaethau a Marwolaethau Newyddenedigol (sef sefydliad Sands) a bydd yn cael ei arwain gan aelodau o dîm Caplaniaeth Ysbyty Athrofaol Cymru.

Dywedodd yr Aelod Cabinet sy'n gyfrifol am Wasanaethau Profedigaeth, y Cynghorydd Dan De'Ath:  "Bydd y gwasanaeth yn darparu amgylchedd gofalgar a chefnogol i deuluoedd sydd wedi profi colled drist babi, gan roi cyfle iddynt ddod at ei gilydd yn ein gardd unigryw 'Annwyl Fam' i fyfyrio a chofio."

Yn seiliedig ar stori llygoden ifanc o'r enw Dora sy'n dymuno y gallai ddweud wrth ei mam faint mae hi'n ei cholli hi,mae'r ardd gerflun 'Annwyl Fam' wedi'i chynllunio i helpu plant ifanc i ymdopi â cholli anwyliaid a darparu man coffa i rieni sydd wedi colli baban.

Yn ystod y gwasanaeth bydd cyfle i deuluoedd osod carreg goffa yn y bowlen atgofion.

Mae croeso i bawb fynychu, a bydd aelodau o gangen Caerdydd o Sands ar gael yn y gwasanaeth.

Lleoliad:  Mynwent y Gorllewin, Heol Orllewinol y Bont-faen, Trelái, Caerdydd, CF5 5TG

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag aelod o staff y Gwasanaethau Profedigaeth yn Amlosgfa Draenen Pen-y-graig ar 029 2054 4820.