Back
Diweddariad gan Gyngor Caerdydd: 21 Mehefin 2022

Dyma'r diweddaraf, yn cynnwys: lansio Diwrnod Gyda'n Gilydd Caerdydd yfory, yn cefnogi amrywiaeth a chynhwysiant; cyhoeddi rhagor o Ysgolion Noddfa yn ystod Wythnos Ffoaduriaid 2022; a threfnwyr Cwpan y Byd Rygbi'r Gynghrair yn anrhydeddu ‘Sully'.

 

Diwrnod gyda'n Gilydd yng Nghaerdydd i gefnogi amrywiaeth a chynhwysiant

Bydd Caerdydd yn dathlu bywyd a gwaith yr AS Jo Cox a lofruddiwyd, drwy lwyfannu Diwrnod gyda'n Gilydd yn un o faestrefi mwyaf diwylliannol amrywiol y ddinas.

Mae'r digwyddiad, a gaiff ei lansio ddydd Mercher, 22 Mehefin, ar risiau'r Senedd, yn gyfle i gymunedau ledled Caerdydd uno a rhannu profiadau dros benwythnos o ddigwyddiadau artistig, crefyddol a chwaraeon.

Bydd hefyd yn anrhydeddu cof yr AS Llafur a'r ymgyrchydd hawliau sifil.  Yn ddyngarol angerddol, cafodd ei llofruddio gan oruchafwr ar y dde eithafol yn 2016 wrth ei bod ar fin cynnal cymhorthfa etholaeth yn Swydd Efrog. Yn ei haraith gyntaf yn Senedd San Steffan dywedodd: "Rydym yn llawer mwy unedig ac mae gennym lawer mwy yn gyffredin na'r hyn sy'n ein gwahanu."

Mae Sefydliad Jo Cox yn llwyfannu Diwrnodau Gyda'n Gilydd bob blwyddyn ledled y DU ar ben-blwydd ei genedigaeth.

Bydd craidd Diwrnod gyda'n Gilydd Caerdydd yn cael ei gynnal ddydd Sadwrn, 25 Mehefin, yng Ngŵyl Grangetown ym Mhafiliwn y Grange. Mae'r Great Walk Together yn daith dywysedig o amgylch yr ardal, sy'n canolbwyntio ar yr amrywiaeth eang o grefyddau a mannau addoli ac yn dechrau ger gerflun Betty Campbell yng nghanol y ddinas am 1pm ac yn gorffen yn y Pafiliwn.

Hefyd wedi'i gynllunio ar gyfer y dydd Sadwrn mae gêm griced, gweithgareddau pêl-droed, a cherddoriaeth gan Gôr Caerdydd Heb Enw am 1pm.  Ddydd Sul, bydd barbeciw cymunedol hefyd yn Eglwys y Santes Fair yn Grangetown.

Dywedodd y Cynghorydd Julie Sangani, aelod Cabinet Cyngor Caerdydd dros Iechyd y Cyhoedd a Chydraddoldebau, fod y Diwrnod gyda'n Gilydd yn gyfle perffaith i nifer o grwpiau ethnig y ddinas ddangos undod - a chael amser gwych. "Neges Jo Cox oedd 'Mwy yn Gyffredin' a dyna oedd egwyddor arweiniol ei bywyd mewn gwleidyddiaeth," meddai.

Daw'r Diwrnod gyda'n Gilydd ar ddiwedd Wythnos Ffoaduriaid sydd eleni yn cymryd fel ei thema 'cymuned, gofal cydfuddiannol, a'r gallu dynol i ddechrau eto'. Fel rhan o'r dathliadau, bydd Ysgol Gynradd y Santes Fair yn Grangetown yn cael ei hanrhydeddu fel 'Ysgol Noddfa' am ei gwaith o roi croeso i blant sy'n ffoaduriaid.

 

Tair Ysgol Gynradd yng Nghaerdydd yn ennill Gwobr Ysgolion Noddfa wrth i'r ddinas ddathlu Wythnos Ffoaduriaid 2022

Yn ystod Wythnos Ffoaduriaid 20 - 26 Mehefin 2022, mae Caerdydd yn dathlu wrth i dair o ysgolion cynradd y ddinas ddod yn Ysgolion Noddfa swyddogol.

Mae Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Santes Monica yn Cathays, Ysgol Gynradd Herbert Thompson yn Nhrelái ac Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Dewi Sant ym Mhentwyn wedi ymrwymo i greu diwylliant o groeso a chynhwysiant i ffoaduriaid a phobl sy'n ceisio lloches.

Er mwyn ennill y wobr, mae pob ysgol wedi dangos dealltwriaeth o'r hyn y mae'n ei olygu i rywun fod yn ceisio noddfa a chreu amgylchedd croesawgar a gofalgar i bobl sydd angen cymorth.            

Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Mae gan Gaerdydd hanes o amrywiaeth ac rydym yn falch o groesawu pobl o bob cwr o'r byd, gan eu helpu i deimlo'n aelodau cyfartal a gwerthfawr o'n cymdeithas.

"Mae Ysgol Noddfa yn helpu disgyblion, staff a'r gymuned ehangach i ddeall beth mae'n ei olygu i fod yn ceisio noddfa ac yn cefnogi'r ymrwymiad parhaus i sicrhau bod yr ysgol yn lle croesawgar i bawb.

"Llongyfarchiadau i staff, disgyblion a rhieni Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Santes Monica, Ysgol Gynradd Herbert Thompson ac Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Dewi Sant am eu gwaith caled a'u hymroddiad wrth ennill y wobr hon.

"Fel Cyngor, rydym yn annog pob un o'n hysgolion i ddod yn Ysgol Noddfa fel rhan o addewid Caerdydd i ddod yn Ddinas Noddfa, gan ei gwneud yn lle croesawgar a diogel i bawb sy'n cynnig noddfa i bobl sy'n ffoi rhag trais ac erledigaeth."

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/29253.html

 

'Sully', un o feibion Caerdydd, yn cael ei anrhydeddu gan drefnwyr Cwpan Rygbi'r Gynghrair y Byd 2022

Bydd Clive Sullivan, athletwr chwedlonol a aned yng Nghaerdydd a fydd yn cael ei anfarwoli gyda cherflun newydd yn ei ddinas enedigol, yn cael ei anrhydeddu yng Nghwpan Rygbi Gynghrair y Byd eleni.

Ganed Sullivan yn Sblot ym 1943, ac ef oedd y chwaraewr du cyntaf i gapteinio tîm cenedlaethol Prydeinig a'r gŵr olaf i arwain tîm Prydeinig i lwyddiant yng Nghwpan y Byd, lle gwnaeth ei gais rhyfeddol yn erbyn Awstralia ym 1972 helpu Prydain Fawr i ennill y teitl.

Er iddo farw o ganser ym 1985 yn ddim ond 42 oed, mae ei enwogrwydd yng Nghaerdydd ar sylfeini cadarn - mae wedi'i ddathlu'n un o 'Dorwyr Cod y Byd Rygbi', y chwaraewyr a newidiodd yn ddadleuol o rengoedd amatur rygbi'r undeb i fod yn sêr cyflogedig yn rygbi'r gynghrair. Gwnaeth rhai frwydro yn erbyn hiliaeth a rhagfarn cyn cael eu dathlu'n arwyr yng ngogledd Lloegr.

Nawr bydd enwogrwydd Sullivan yn cyrraedd cenhedlaeth newydd o gefnogwyr rygbi'r gynghrair gan fod trefnwyr y twrnament eleni wedi enwi'r bêl a ddefnyddir ym mhob un o'r 61 gêm ar draws digwyddiadau'r dynion, menywod a chadair olwyn yn ‘Bêl Sully'.

Fe'i dadorchuddiwyd yn Stadiwm MKM, cartref Hull, lle mae Sullivan yn dal i fod y prif sgoriwr ceisiau erioed, ac mae'r anrhydedd yn cydnabod Sullivan fel un o chwaraewyr gorau Cymru sy'n cynrychioli gwerthoedd craidd y twrnament a hanes rygbi'r gynghrair ac yn cydnabod yr effaith sylweddol a gafodd ar y gamp.

"Byddai fy nhad wedi ei anrhydeddu o weld ei gyflawniadau'n cael eu cydnabod yn y ffordd hon," meddai Anthony Sullivan, sy'n gyn-chwaraewr rhyngwladol cod deuol ei hun. "Bydd yn arbennig iawn i'w deulu ei weld yn cael ei werthfawrogi fel hyn ac i'w enw gael effaith gadarnhaol ar genedlaethau'r dyfodol o fewn y gamp."

Yng Nghaerdydd, bydd Sullivan yn un o dri 'Thorrwr Cod' - ochr yn ochr â Billy Boston a Gus Risman, i gyd o ardaloedd Butetown a Tiger Bay yn y ddinas - sy'n serennu ar gerflun efydd enfawr sydd wrthi'n cael ei saernïo gan yr artist enwog Steve Winterburn. Bydd yn nodi'r cyfraniad i'r gamp a wnaed gan 13 o chwaraewyr, 'cewri Bae Caerdydd', a gafodd effaith enfawr ar rygbi'r gynghrair.

Dywedodd arweinydd Cyngor Caerdydd, Huw Thomas, is-gadeirydd y pwyllgor sydd wedi codi £150,000 tuag at y cerflun hyd yma, ei fod wrth ei fodd bod anrhydedd ddiweddaraf Sullivan wedi dod ar adeg allweddol. "Bydd rownd gynderfynol gyntaf Cwpan y Byd yn cael ei chwarae ar 50 mlwyddiant cais gwych Clive yn erbyn Awstralia ac rwy'n siŵr y cawn ein hatgoffa o fawredd y foment.

"Rydyn ni fel cyngor wedi ymrwymo i anrhydeddu'r holl Dorwyr Cod, a bydd y cerflun yn sefyll yn falch mewn lleoliad allweddol ym Mae Caerdydd gan sicrhau nad yw eu straeon, na stori'r gymuned amlddiwylliannol falch a bywiog a helpodd i'w siapio - byth yn cael eu hanghofio."

I gael rhagor o wybodaeth am y Torwyr Cod ac i wneud cyfraniad tuag at y cerflun, ewch i
www.torwyrcodybydrygbi.co.uk/cy

Am fwy o wybodaeth am stori Clive Sullivan ac i weld ei gais eiconig, ewch ihttps://tinyurl.com/59n73btb