Back
Diweddariad gan Gyngor Caerdydd: 17 Mehefin 2022

Dyma ein diweddariad diweddaraf, sy'n ymdrin â: helpu i ymdopi â chostau byw sy'n cynyddu; diweddariad ar y gwaith ym Mharc Grangemoor; mae'r ymgynghoriad ar  Gampws y Tyllgoed bellah ar agor; a manylion am ddiwrnod agored Fferm y Goedwig yfory.

 

Cyngor Caerdydd yn helpu miloedd i ymdopi â chynnydd mewn costau byw

Gyda phrisiau petrol yn cyrraedd £2 y litr, rhagwelir y bydd chwyddiant bwyd yn cyrraedd y lefel uchaf ers 20 mlynedd o 11% yr haf hwn a biliau nwy a thrydan yn cynyddu, mae'r DU yn wynebu argyfwng costau byw.

Ond mae Cyngor Caerdydd yn goruchwylio'r gwaith o ddosbarthu grantiau gwerth bron i £2.2m i ysgafnhau'r baich ar yr aelwydydd hynny yn y ddinas sydd â'r angen mwyaf.

Dyrannwyd yr arian i'r Cyngor fel rhan o Gynllun Cymorth Costau Byw £177m Llywodraeth Cymru. Mae llawer o hyn yn mynd tuag at daliad o £150 i aelwydydd cymwys ond mae £25m hefyd wedi'i neilltuo ar gyfer Cynllun Dewisol. Mae hyn yn caniatáu i awdurdodau lleol gefnogi aelwydydd y maent yn ystyried bod angen cymorth ychwanegol arnynt gyda'u costau byw, ac mae cyfran Cyngor Caerdydd yn £2.193m.

Bydd adroddiad ar y Cynllun Cymorth Costau Byw yn cael ei ystyried gan gyfarfod Cabinet y Cyngor ar 23 Mehefin pan fydd aelodau'n cael eu hargymell i helpu'r aelwydydd mwyaf agored i niwed yn y ddinas drwy'r Cynllun Dewisol hwn.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/29241.html

 

Disgwylir i'r gwaith ar Barc Grangemoor barhau tan ddiwedd y flwyddyn

Mae'r parc wedi'i gau i'r cyhoedd tra bo gwaith cynnal a chadw hanfodol - sy'n cynnwys peiriannau trwm ac adnewyddu offer nwy trwytholch a methan - yn cael ei wneud ar y safle tirlenwi sydd o dan wyneb y parc. Ar ôl ei gwblhau, bydd y gwaith yn sicrhau bod y safle tirlenwi'n ddiogel a bydd y parc yn cael ei ailagor i'r cyhoedd.

Gan fod y parc wedi'i ddiffinio ar hyn o bryd fel safle adeiladu o dan gyfreithiau Iechyd a Diogelwch, yn anffodus ni allwn ganiatáu mynediad i'r cyhoedd.  Fodd bynnag, mae troedffyrdd o amgylch y parc yn parhau i fod ar agor i'r cyhoedd ac yn rhoi mynediad i lwybr cerdded yr afon.

Mae'r cyngor wedi ystyried ffensio rhannau o'r safle adeiladu er mwyn galluogi rhywfaint o fynediad i'r cyhoedd, ond oherwydd natur y gwaith - sy'n gofyn am y gallu i symud i wahanol rannau o'r parc yn rhwydd i ddelio â materion wrth iddyn nhw godi - byddai'n anodd iawn rheoli hyn.

Rydym yn deall yr anghyfleustra i'r cyhoedd ac yn gweithio mor gyflym ag y gallwn i wneud y gwaith cynnal a chadw angenrheidiol i sicrhau bod y parc yn ddiogel i'w ddefnyddio pan fydd yn ailagor. Mae cynnydd sylweddol wedi'i wneud gyda hanner y gwaith eisoes wedi'i gwblhau, ond bu oedi ar beth o'r gwaith a gynlluniwyd oherwydd y tymor nythu. Mae ffynhonnell y gollyngiad trwytholchi i Fae Caerdydd wedi'i nodi a'i datrys yn unol â'r gofynion a bennwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru.

Hoffem fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i'r cyhoedd am eu hamynedd tra bo'r gwaith hwn yn mynd rhagddo a rhoddir diweddariadau pellach pan fyddant ar gael.

 

Ymgynghoriad Cyhoeddus nawr ar agor ar waith yn gysylltiedig â champws addysg newydd yn y Tyllgoed

Gwahoddir aelodau o'r cyhoedd i rannu eu barn ar waith sy'n gysylltiedig â sefydlu campws addysg cyfunol newydd i'w leoli yn ardal y Tyllgoed yn y ddinas.

Mae'r ymgynghoriad yn nodi'r cam nesaf yn natblygiad y ddarpariaeth addysg hon, y prosiect mwyaf - o ran maint a buddsoddiad - o blith datblygiadau addysg Caerdydd dan Raglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu'r Cyngor a Rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu Band B Llywodraeth Cymru, os eir ymlaen ag ef. 

Byddai tair ysgol newydd yn cael eu gosod ar un safle, gan greu cartref i Ysgol Uwchradd Cantonian, Ysgol Riverbank ac Ysgol Uwchradd Woodlands.  Byddai'r campws ar y cyd hefyd yn cynnwys amrywiaeth o gyfleusterau cynhwysfawr a fydd ar gael at ddefnydd y cyhoedd y tu allan i oriau'r ysgol.

Ym mis Mawrth 2022, cyhoeddodd Cyngor Caerdydd y byddai ISG yn ymgymryd â'r broses ddylunio ac adeiladu fanwl ar gyfer y cynllun, gan gynnwys yr adeiladau dros dro sy'n gysylltiedig â'r gwaith.

Mae'r Ymgynghoriad Cyn Ymgeisio ar agor tan 11 Gorffennaf 2022 ac mae'n caniatáu i bobl ddweud eu dweud am y gwaith galluogi cyn i gais cynllunio gael ei gyflwyno i Bwyllgor Cynllunio Cyngor Caerdydd. Mae hyn yn cynnwys sefydlu ysgol dros dro i'w lleoli yn ne'r safle i gynnwys:

                     Ystafelloedd dosbarth a derbynfa symudol, maes parcio dros dro'r ysgol, neuadd chwaraeon, cegin a ffreutur.

                     Llwybr troed dros dro o Heol y Tyllgoed i Rodfa Doyle

                     Ffens Terfyn

                     Meysydd chwaraeon ac Ardaloedd Gemau Amlddefnydd (MUGAs) a ffensys a goleuadau cysylltiedig

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/29218.html

 

Diwrnod Agored yr Haf Fferm y Fforest

Mae chwilota mewn pyllau, chwilio chwilod a gwylio adar ymhlith y llu o weithgareddau natur sydd ar gael yn Fferm y Fforest y penwythnos hwn wrth iddi gynnal ei Diwrnod Agored yr Haf blynyddol i gyflwyno teuluoedd i fywyd gwyllt y warchodfa natur leol 150 erw.

Mae'r digwyddiad am ddim ar ddydd Sadwrn 18 Mehefin (10am-3pm) wedi'i ganoli o gylch Canolfan Cadwraeth Fferm y Fforest, sy'n gartref i dîm Ceidwaid Cymunedol Caerdydd. Bydd hefyd yn cynnwys sioe gŵn y gall eich ci gystadlu ynddi am ddim, a'r cyfle i roi cynnig ar bysgota a chael awgrymiadau ar gyfer tynnu lluniau bywyd gwyllt.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau, y Cynghorydd Jennifer Burke-Davies: "Mae'r diwrnod agored yn siŵr o fod yn ddiwrnod allan gwych i'r teulu ac yn gyfle gwych i blant a phobl chwilfrydig o bob oed ddysgu mwy am y rhywogaethau amrywiol sy'n byw yn y warchodfa."

I ymuno yn yr hwyl, ewch i Ganolfan Gadwraeth Fferm y Fforest, Forest Farm Road, yr Eglwys Newydd, Caerdydd, CF14 7JJ

I gael rhagor o wybodaeth ffoniwch y Gwasanaeth Ceidwaid ar 029 2044 5903 neu ewch i:

www.facebook.com/WildAboutCaerdydd

Bydd lluniaeth ar gael.