17.6.22
Gyda phrisiau petrol yn cyrraedd £2 y litr,
rhagwelir y bydd chwyddiant bwyd yn cyrraedd y lefel uchaf ers 20 mlynedd o 11%
yr haf hwn a biliau nwy a thrydan yn cynyddu, mae'r DU yn wynebu argyfwng
costau byw.
Ond mae Cyngor Caerdydd yn goruchwylio'r gwaith o ddosbarthu grantiau gwerth bron i £2.2m i ysgafnhau'r baich ar yr aelwydydd hynny yn y ddinas sydd â'r angen mwyaf.
Dyrannwyd yr arian i'r Cyngor fel rhan o Gynllun Cymorth Costau Byw £177m Llywodraeth Cymru. Mae llawer o hyn yn mynd tuag at daliad o £150 i aelwydydd cymwys ond mae £25m hefyd wedi'i neilltuo ar gyfer Cynllun Dewisol. Mae hyn yn caniatáu i awdurdodau lleol gefnogi aelwydydd y maent yn ystyried bod angen cymorth ychwanegol arnynt gyda'u costau byw, ac mae cyfran Cyngor Caerdydd yn £2.193m.
Bydd adroddiad ar y Cynllun Cymorth Costau Byw yn cael ei ystyried gan gyfarfod Cabinet y Cyngor ar 23 Mehefin pan fydd aelodau'n cael eu hargymell i helpu'r aelwydydd mwyaf agored i niwed yn y ddinas drwy'r Cynllun Dewisol hwn.
Dywedodd y Cynghorydd Chris Weaver, yr aelod Cabinet dros gyllid, moderneiddio a pherfformiad: "Mae'n amlwg bod biliau pawb yn codi ar gyfradd na welwyd ei thebyg o'r blaen ar hyn o bryd ac rydym yn ceisio helpu unrhyw un sy'n teimlo na allwch ymdopi, p'un a ydych ar fudd-daliadau neu'n profi tlodi mewn gwaith – dewch i siarad â ni.
"Rydym yn ymwybodol iawn o'r argyfwng ariannol y mae pobl yn ei wynebu o'r cynnydd enfawr yn y galw rydym yn ei weld ar wasanaethau'r cyngor, gyda mwy a mwy o bobl yn dod ymlaen i chwilio am gymorth.
"Drwy'r cynlluniau cymorth, rydym wedi talu 86% o aelwydydd cymwys yng Nghaerdydd - tua 76,000 - y taliad o £150. Mae hynny'n gyfystyr â phawb a oedd wedi gwneud cais o ddydd Llun diwethaf a phawb nad oedd angen iddynt wneud cais oherwydd ein bod eisoes yn cadw manylion eu cyfrif banc. Ond mae'n amlwg bod aelwydydd eraill nad ydynt wedi gwneud cais eto, er gwaethaf derbyn llythyrau gennym ni.
"Byddwn yn ysgrifennu atynt eto ac yn pwysleisio ein bod yn ystyried ceisiadau am daliadau o fewn wythnos. Mae'r arian yma iddyn nhw, mae angen iddyn nhw wneud cais amdano."
Mae manylion ynghylch a ydych yn gymwys i gael y
£150 ar gael yma (https://tinyurl.com/yzszksfp)
ochr yn ochr â gwybodaeth am sut i wneud cais.
Ar hyn o bryd, mae'r taliad o £150 yn cael ei wneud i bob aelwyd sy'n byw mewn eiddo ym mandiau A-D y dreth gyngor, a'r rheini ym mand E sy'n cael gostyngiad band anabledd ac unrhyw eiddo sy'n cael gostyngiad yn y dreth gyngor waeth beth fo'u band. Yng Nghaerdydd, bydd y taliadau hyn yn dod i gyfanswm o fwy na £13.3m.
Mae'r Cynllun Dewisol yn caniatáu i gynghorau wneud taliadau i aelwydydd nad ydynt yn dod o dan y prif gynllun ac i wneud taliadau ychwanegol neu dalu cost gwasanaethau hanfodol, fel biliau ynni neu rent. Bydd yn cael ei dalu gan ddau ddull – un prawf modd ac un arall heb brawf modd.
Gallai grwpiau cymwys nad oes angen profion modd
arnynt gynnwys:
Mae'r cyngor hefyd yn bwriadu gwneud taliadau prawf
modd i helpu pobl sy'n cael budd-daliadau drwy'r cynlluniau a'r gwasanaethau
hyn:
Os bydd y Cabinet yn cytuno, ac i annog pobl i fanteisio ar y Cynllun Dewisol, mae'r Cyngor yn cynllunio ymgyrch gyhoeddusrwydd a fydd yn gweld gwybodaeth ar gael yn ei Hybiau, drwy ei Linell Gyngor (029 2087 1071) a'r Tîm Cyngor Ariannol, ar y cyfryngau cymdeithasol a'i Bydd llythyrau hefyd yn cael eu hanfon at aelwydydd sy'n derbyn budd-daliadau.
"Dylai defnyddio'r Cynllun Dewisol a
thargedu'r taliadau yn y ffyrdd hyn sicrhau bod y rhai mwyaf anghenus yn cael y
cymorth mwyaf," meddai'r Cynghorydd Weaver. "Byddwn hefyd yn ymchwilio
i ffyrdd o ddargyfeirio unrhyw arian sydd heb ei wario yn y brif gronfa i'r
cynllun dewisol."