16/06/22
Disgwylir i'r gwaith ar Barc Grangemoor barhau tan ddiwedd y flwyddyn.
Mae'r parc wedi'i gau i'r cyhoedd tra bo gwaith cynnal a chadw hanfodol - sy'n cynnwys peiriannau trwm ac adnewyddu offer nwy trwytholch a methan - yn cael ei wneud ar y safle tirlenwi sydd o dan wyneb y parc. Ar ôl ei gwblhau, bydd y gwaith yn sicrhau bod y safle tirlenwi'n ddiogel a bydd y parc yn cael ei ailagor i'r cyhoedd.
Gan fod y parc wedi'i ddiffinio ar hyn o bryd fel safle adeiladu o dan gyfreithiau Iechyd a Diogelwch, yn anffodus ni allwn ganiatáu mynediad i'r cyhoedd. Fodd bynnag, mae troedffyrdd o amgylch y parc yn parhau i fod ar agor i'r cyhoedd ac yn rhoi mynediad i lwybr cerdded yr afon.
Mae'r cyngor wedi ystyried ffensio rhannau o'r safle adeiladu er mwyn galluogi rhywfaint o fynediad i'r cyhoedd, ond oherwydd natur y gwaith - sy'n gofyn am y gallu i symud i wahanol rannau o'r parc yn rhwydd i ddelio â materion wrth iddyn nhw godi - byddai'n anodd iawn rheoli hyn.
Rydym yn deall yr anghyfleustra i'r cyhoedd ac yn gweithio mor gyflym ag y gallwn i wneud y gwaith cynnal a chadw angenrheidiol i sicrhau bod y parc yn ddiogel i'w ddefnyddio pan fydd yn ailagor. Mae cynnydd sylweddol wedi'i wneud gyda hanner y gwaith eisoes wedi'i gwblhau, ond bu oedi ar beth o'r gwaith a gynlluniwyd oherwydd y tymor nythu. Mae ffynhonnell y gollyngiad trwytholchi i Fae Caerdydd wedi'i nodi a'i datrys yn unol â'r gofynion a bennwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru.
Hoffem fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i'r cyhoedd am eu hamynedd tra bo'r gwaith hwn yn mynd rhagddo a rhoddir diweddariadau pellach pan fyddant ar gael.